Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Chlywais i 'rioed 'siwn beth,' meddai drachefn a thrachefn; ond wedi clywed y diwedd tarawodd ei ffon yn y llawr a dywedai yn uchel, Myn ——, 'daswn i yno."

Cynhelid Ysgol Sul gyda ffyddlondeb mewn manau eraill— yn Cwmcelli, y Fronfraith, a'r Waen. Byddai pregethu achlysurol ac ambell gyfarfod eglwysig yn y Felin, a'r rheswm pam y cynhelid ef yno oedd, am mai teulu y Felin oedd yr unig deulu cyflawn a berthynai i'r eglwys. O'r diwedd, gan fod trigolion yr ardal yn amlhau, teimlid angen am addoldy. Penodwyd Morris Jones, yr hwn oedd yn flaenor ac yn bregethwr, i roddi yr achos o flaen Col. Jones, Gyfronydd, perchenog y chwarel. A'r canlyniad fu i'r boneddwr yn dra haelionus adeiladu ysgoldy i'w weithwyr ar ei draul ei hun, a'r unig beth a ofynai i'r ardalwyr ei wneyd oedd cludo defnyddiau ato. Rhoddwyd caniatad hefyd gan y boneddwr i gynal pob gwasanaeth crefyddol yn gyson yn yr ysgoldy. Yr oedd hyn yn 1839. Er fod yr ysgoldy yn hollol ddiaddurn, gwnaeth y tro at wasanaeth yr ardalwyr yr adeg hono, ac felly y bu, oddieithr y rhoddwyd llawr coed yn lle cerrig iddo, am ugain mlynedd. Yn 1859 yr oedd wedi myned yn rhy fychan, helaethwyd a gwnaed ef yn fwy cysurus trwy roddi eisteddleoedd ynddo. Bron cyn ei fod wedi ei orphen cyrhaeddodd Diwygiad grymus y flwyddyn hono i'r ardal, a thorodd allan yn orfoledd, a dywedai chwaer grefyddol oedd yn bresenol yn y gorfoledd, "Dyma dwymniad iawn i'r capel newydd." Yn 1874 adeiladwyd y capel presenol yn Pensarn, haner milldir yn nes i Gorris na'r capel cyntaf. Agorwyd ef Gorphenaf 10,. y flwyddyn hono. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. Davies, Abermaw, J. Pritchard, Amlwch, a G. Ellis, M.A., Bootle. Adeiladwyd tŷ helaeth wrth ochr y capel yr un pryd. Aeth yr eglwys i draul gydag adeiladu rhwng 1873 a 1880 o £915 10s. Oc. Talwyd holl ddyled y capel a'r tŷ mewn amser lled fyr, a chynhaliwyd Cyfarfod Jubili, Mehefin 26ain, 1881, pryd y pregethwyd gan y Parchn. R. Roberts, Dol-