hun. Hyddysg iawn yn yr Ysgrythyrau. Dywedai Dafydd Rolant y Bala fod cof Hannah Ifan fel mynegair Peter Williams. Ei hoff bennill, Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd. Arferai fwmian ar hyd y tŷ drwy'r dydd,—" O, ryfedd ras!" Byddai ganddi brofiadau melus ym mhob seiat. Er fod Ann Jones y Llety yn byw mewn tŷ unig ynghanol y mynyddoedd, am y terfyn â phlwyf Llanfrothen, hi ddeuai i gapel Peniel i bob moddion, ar bob tywydd. Yr oedd yn hen wraig nodedig o wresog ei hysbryd, a byddai'n gorfoleddu mwy na neb. Torrai allan un tro,—"O ryfedd! y Duw mawr yn mynd trwy'i eiddo i gyd, i achub hen bechaduriaid tlodion," a thaniodd y lle gyda'r dywediad. Un wreiddiol iawn. oedd Margred William Tyrpeg bach, ac wedyn o Fryntirion. Y hi gyfarfu Dafydd Morgan ar y ffordd, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn sicr o gael arddeliad, gan iddi fod drwy'r nos yn rhoi ei achos o flaen Duw. Gwiriwyd gair yr hen wraig, a chafwyd oedfa hynod iawn. Byddai'n ddoniol dros ben yn y seiat. Cwyno y byddai hi o hyd. Pan ofynnwyd iddi am ei phrofiad gan Dafydd Jones Beddgelert, dywedodd y geiriau,—" Moes i mi dy galon." "Wel, Margiad, be' sy' genti i ddeud ar eiria fel yna, dywad," meddai'r hen bregethwr plaen. "O Dafydd anwyl," meddai'r hen wraig, gan dorri i grio dros y capel, "mae'n fendigedig ei fod ef yn gofyn am y lle gwaetha." Digwyddodd tro digrif rhyngddi unwaith â Moses Jones Dinas. Yr oedd Moses Jones yn ei hadnabod yn dda. Pan aeth efe ati yn y seiat, dywedodd, "Sut mae'r hen galon erbyn hyn, Margiad?" "Wel, digon drwg a phechadurus ydi hi wir, Moses bach." "Mi welaf fod yr hen ddyn' yn fyw hefo ti o hyd, Margiad." "Ydi, ydi, Moses, ac yn ddigon drwg ei swn yn amal." Wel, pam na threi'i di i ladd o bellach, Margiad?" "Lladd yr hen ddyn, gwirion! Be' sy' arnati, dwad? Wyt itha wedi peidio mynd o'th go', fel 'rhen Foses arall hwnnw, pan dorrodd o lechi'r cyfamod? Wyt itha wedi anghofio'r chweched gorchymyn?" Methodd Moses Jones a chael ei draed dano wedyn, a mwynhaodd pawb y ddrama ddoniol. Nain Carneddog, mam ei fam, oedd Sioned Owen Bron yr aur, wedi hynny Bwlch llechog. Yr oedd yn wraig grefyddol ac arabus. Trefnodd ei thad yn ei ewyllys fod i Feibl Peter Williams gael ei roi i bob un o'r plant, a gwnaeth pob un ohonynt ddefnydd da o'r rhodd. Arferai Sioned Owen adnod o'r Beibl i benderfynu pob pwnc. Gofynnodd sipsi iddi unwaith am gael dweyd ei ffortiwn. Atebodd hithau y gwyddai ei ffortiwn yn iawn, ac agorodd y Beibl, gan ddarllen o lyfr Job,
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/219
Gwirwyd y dudalen hon