Gomer, y Traethodydd, a'r Methodist. Gwr yr encil ydoedd yn hytrach na gwr cyhoeddus, am ei fod yn hynod nervous; ond pan gymerai ran yn gyhoeddus byddai'n hyawdl ac yn effeithiol iawn. Yr oedd yn foneddigaidd, yn dyner, ac yn addysgiadol, a'i iaith yn ddewisol a choeth. Dywed Glaslyn am dano:—"Fel bardd a llenor yr oedd i Degidon le anrhydeddus ymysg gwyr goreu Cymru; ac er nad oedd yn eisteddfodwr, nac yn cael ei restru, ond yn anfynych, gyda'r beirdd, yr oedd er hynny'n sefyll yn uchel ym marn y wlad.
Ac er na ennillodd Tegidon na gwobr na chadair mewn eisteddfod, fe ennillodd glust a chalon ei genedl drwy ei gân dyner 'Hen Feibl mawr fy Mam.' Fe ganwyd ac fe adroddwyd y gân swynol hon gan blant a hynafgwyr, llanciau a gwyryfon, trwy bob parth o Gymru, ac y mae wedi myned ag enw Tegidon i bob cwr o'r ddaear lle mae Cymro wedi ymwthio. Y mae Tegidon, yn gystal a Wordsworth, wedi rhoddi stamp ei athrylith ar y gân dlos "Saith y'm ni"; ac y mae y dernyn swynol hwn wedi dyfod yn gân deuluaidd ymysg miloedd o ieuenctyd Cymru." (Cymru, Cyf. vi., tud. 111).
THOMAS, JOB (1814—1885).—Cerddor, ac ysgolfeistr —mab i weinidog o'r un enw, a wasanaethai ar eglwysi Annibynol Cymreig yn Woolwich a Deptford. Ganwyd y mab yn Deptford ar y 31ain o Ionawr, 1814. Cafodd addysg dda, a dygwyd ef i fyny yn wneuthurwr hetiau. Gadawodd Lunden yn ieuanc, gan wynebu ar Gymru, ac ymsefydlu dros amser yn Nhre'r Ddol, Llangynfelen—ardal ei fam. Oddi yno drachefn symudodd i Dremadog—ac yno y priododd cyn bod yn ugain oed, ac y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd yn gerddor, bardd, a llenor; a chyfansoddodd amryw ddarnau yn y cymeriadau hynny. Bu am gyfnod yn cadw ysgol yn Nhremadog, a chyfrifid ef yn un lled fedrus gyda'r gwaith. Bu hefyd yn gyfrifydd (accountant). Ar sefydliad y Bwrdd Iechyd, yn y flwyddyn 1858, penodwyd Job Thomas yn Glerc iddo; a bu'n llanw'r swydd honno hyd y cyntaf o Ionawr, 1883,