Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAITH.


Er ein bod yn hanes yr eglwysi henaf, wedi gosod ger bron y darllenydd lawer o'r amgylchiadau dan ba rai y dechreuodd Ymneillduaeth yn Nghymru, etto, ni byddai ein gwaith yn gyflawn heb fraslun cynwysfawr o hanes gyffredin y wlad, yn foesol a chrefyddol, cyn, ac am ychydig flynyddau ar ol, cyfodiad Ymneillduaeth. Gan hyny, taflwn olwg

I.—AR SEFYLLFA Y GENEDL O DDYDDIAU HARRI VIII., HYD GYFODIAD ANGHYDFFURFIAETH. Yr oedd ychydig o ddynion dysgedig a dylanwadol yn Lloegr, pan gychwynwyd y Diwygiad Protestanaidd ar y Cyfandir gan Luther a'i gyd—ddiwygwyr, yn cydymdeimlo a'r diwygwyr hyny, ond o herwydd fod awdurdod y brenin Harri VIII. mor ddirfawr, a'i sel dros Babyddiaeth mor angerddol, ni feiddiai un o honynt agoryd ei enau dros Brotestaniaeth. Pa fodd bynag, pan aeth yr ymryson rhwng y brenhin a'r Pab, yn nghylch ysgaru ei wraig, yn ffrae danllyd, daliodd yr ychydig Brotestaniaid cuddiedig hyn ar y cyfle i weithio allan eu hegwyddorion. Gwnaethant lawer iawn mewn ychydig o amser i daenu egwyddorion Protestanaidd yn mysg y Saeson. Cafwyd awdurdod frenhinol i daenu cyfieithiad Coverdale o'r Bibl i'r iaith Saesonig, yn y wlad, a chyfododd amryw bregethwyr ac ysgrifenwyr galluog i ddynoethi cyfeiliornadau Pabyddiaeth, ac i oleuo y werin. Ond tra yr oedd y Diwygiad yn cael ei ddwyn yn mlaen yn lled lwyddianus yn Lloegr, yr oedd y Cymry yn gorwedd yn llonydd yn nhywyllwch Pabyddiaeth, heb un gronyn o oleuni yn tywynu arnynt. Nid oes un math o sail i haeriadau yr ysgrifenwyr eglwysig hyny, a honant na fu yr eglwys yn Nghymru erioed yn hollol ddarostyngedig i eglwys Rhufain. Y gwirionedd yw, i'r Cymry fod am lawer o ganrifoedd mor Babyddol a darostyngedig i Rufain ag un genedl ar y ddaear, ac felly yr ydoedd pan ddechreuodd y Diwygiad Protestanaidd weithio ei ffordd yn Lloegr, ac am flynyddau wedi hyny. Buwyd ddeng mlynedd, neu ychwaneg, ar ol cyhoeddiad y Bibl yn yr iaith Saesonig, cyn i unrhyw gynygiad gael ei wneydi argraffu unrhyw ran o hono yn y Gymraeg. Yn y flwyddyn 1546, cyhoeddodd Syr John Price, o Aberhonddu, lyfryn bychan yn cynwys gweddi yr Arglwydd, y deg gorchymyn, a chredo yr Apostolion. Hwn oedd y llyfr cyntaf yn mha un yr ymddangosodd ychydig adnodau o'r Ysgrythyr yn y Gymraeg. Yn 1551, cyhoeddodd William Salesbury gyfieithiad o gynifer o'r llithiau Ysgrythyrol a ddarllenid yn yr Eglwys ar y Suliau a'r Gwyliau trwy y flwyddyn, a dyna y cwbl a wnaed tuag at oleuo y Cymry yn Ngair Duw, hyd nes i'r Testament Newydd gael