Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddynt 1810, ymadawodd Mr. Lewis o Ferthyr, ac ymsefydlodd yn weinidog yr eglwys ieuangc yn Llanfaple. Dywed Mr. Lewis, gweinidog presenol Llanfaple, o enau hen aelodau yr eglwys, "Cerid ef yn fawr gan y bobl, a chafodd ei ymdrechion ffyddlon eu bendithio yn nodedig er lles i eneidiau anfarwol." Bu y gweinidog da hwn farw fel y nodasom Mehefin 15fed, 1813, yn 52 oed, a chladdwyd ef yn y capel yn Llanfaple. Mae maen coffadwriaeth am dano ar fur y capel. Gadawodd ar ei ol weddw alarus a nifer o blant rhy ieuaingc i deimlo eu colled, ond gofalodd Tad yr amddifaid yn dirion am danynt. Mab iddo ef yw Daniel Seys Lewis, Ysw., yn awr o Fynyddislwyn; boneddwr ag y mae ei enw yn ddigon adnabyddus i holl weinidogion Annibynol Cymru. Ei frawd ef hefyd oedd Mr. Walter Lewis, Tredwstan. Gan i Mr. Lewis farw cyn oes y cyhoeddiadau misol, nid ymddangosodd unrhyw hanes am ei fywyd a'i farwolaeth yn y wasg hyd yn bresenol. Buasai yn dda genym pe buasem yn feddianol ar ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad helaethach iddo.

THOMAS REES. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Casgwent y rhoddwn ei fywgraphiad ef.

JAMES WILLIAMS. Gweler hanes yr eglwys yn Llanfaches.

DOCK STREET, CASNEWYDD.

Yn 1801, nid oedd trigolion plwyf a thref y Casnewydd ond rhy brin bymtheg cant o bersonau, ac nid oedd ond dau dy addoliad yn y plwyf, sef yr Eglwys, a chapel Heol-y-felin. Mewn canlyniad i agoriad gweithiau glo, a sefydliad amryw weithfaoedd haiarn ar y mynyddau, yn nghyd a gwneuthuriad camlas, sir Fynwy, i gludo cynyrch y gweithfaoedd i borthladd y Casnewydd, cynyddodd y dref yn gyflym, fel yr oedd ynddi erbyn 1811, dros dair mil o drigolion; ac erbyn hyn y mae ei thrigolion yn tynu at ddeugain mil. Wrth weled y trigolion yn cynyddu mor gyflym, ac yn eu mysg niferi dirfawr o Saeson, darfu i Mr. William Thomas, un o ddiaconiaid yr eglwys yn Heol-y-felin, yn nghyd ag ychydig bersonau, a dueddent yn fwy at y Methodistiaid Calfinaidd nag at un enwad arall, ymuno yn gymdeithas grefyddol, ac adeiladu Hope Chapel. Nis gwydd om pa flwyddyn y gwnaed hyn, ond gallem feddwl mai rywbryd o 1810 1812 ydoedd. Daeth Mr. John Rees, pregethwr galluog perthynol i Methodistiaid i'r dref i fyw, a chan ei fod yn medru pregethu yn rhwyc yn yr iaith Saesonaeg, cymhellwyd ef i'r capel newydd i bregethu yn ddwy iaith. Arweiniodd hyny yn fuan i mewn destynau annghydfod i'r gymdeithas. Gan mai Methodistiaid oedd Mr. Rees a'r rhan fwyaf o'r eglwys, ni chaniatai y Corff iddo fod yn weinidog sefydlog yno; ac yr oedd y ddwy iaith yn llawer o rwystr i gydgordiad. Galwai rhai am ychwaneg o Saesonaeg, ac eraill am ychwaneg o Gymraeg. Diwedd y pethau hyn fu i Mr. Rees dderbyn galwad oddiwrth yr eglwys yn y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, ac i'r Gymdeithas yn Hope Chapel dori i fyny, gan adael y capel, yr hwn oedd wedi costio dros fil o bunau, a'r rhan fwyaf o'r ddyled arno, yn llaw un Henry Evans, yr hwn a fu dan yr angenrheidrwydd o'i gynyg ar werth. Prynwyd ef am 800p. gan nifer o bersonau, y rhai a chwenychent ffurfio yno eglwys Annibynol Saesonaeg. Agorwyd ef fel capel Annibynol Ebrill 1af, 1814. Un-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys, ar blaenaf o honynt oedd