Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu Nefyn, elem ar y dde, drwy goedwig hirfaith Bodfean; ond heddyw yr ydym yn cyfeirio ar y chwith drwy Rydyclafdy. O'n blaen, y mae amryw elltydd serth, ond cyn eu cyrraedd yr ydym yn croesi afon fechan. Y mae melin ar y dde, a gweirglodd ar yr aswy, a'r afon yn dolenu drwyddi. Onid difyr fuasai eistedd ar y bont acw i freuddwydio uwchben yr olygfa? Y mae yn grynhodeb o swyn. Ond am y waith gyntaf i ni sylwi, y mae y gyriedydd yn cymhwyso goruchwyliaeth y chwip at y meirch, ac yr ydym yn esgyn gallt fer ond serth. Wedi cyrraedd i'w chopa, gwelwn un arall feithach, a mwy serth. Tybed y gall y meirch ddringo hon? Ond y mae y cwestiwn yn cael ei setlo yn bur ddiseremoni. Gwelir y llu teithwyr yn diflanu oddiar y goach fel adar oddiar goeden, ac yn ymroi i gerdded. Dilynwn eu hesiampl. Y fath lu sydd o honom! Ond y mae yr olygfa a geir oddiar lechweddau yr allt hon yn ddigon o ad-daliad am y cyfnewidiad sydyn yn ein sefyllfa. Ar y gorwel draw, gwelir mynyddau Arfon a Meirion, yn rhes ar ol rhes, a haul y prydnawn yn pelydru arnynt. Yr ydym yn dechreu disgyn yr ochr arall i'r allt, i ardal Rhydyclafdy. Y peth cyntaf a dyna ein sylw ydyw yr addoldy ar y gwastadedd. Braidd nad ydym yn synu gweled adeilad mor brydferth mewn lle mor wledig. Y mae yn anrhydedd i'r ardalwyr. Ond cyn mynd ato yr ydym yn cyrhaedd yr ail "orsaf" ar y daith, nid amgen, hen westy Ty'n Llan. Nid oes a fynom â'r gwesty, ond sylwn ar y "gareg farch" sydd yn agos i'r drws. Ar y gareg yna, medd traddodiad, y bu traed Howell Harris yn sangu pan y traddodai ei genadwri danllyd ar ei ymweliad cyntaf a gwlad Lleyn. [1]


Ond y mae yr amser i fyny; gadawn bentref cysglyd y Rhyd, oblegid y mae cryn siwrnai o'n blaen cyn cyrhaedd yr orsaf nesaf. Hanes y ffordd am encyd yn awr ydyw-gallt a goriwared bob yn ail. Cyn hir yr ydym yn dod i odreu mynydd. Ar y chwith, yn lled uchel i

  1. Gwel Drych yr Amseroedd, tud. 44.