Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ar fywyd dyn eisieu bywiogrwydd yn gystal a thawelwch—yni y ddinas a hedd y wlad. Yn y cyfuniad o'r ddau y ceir bywyd ar ei oreu. Mae tawelwch didor yn magu syrthni, diofalwch, a chysgadrwydd; ac y mae prysurdeb diorphwys, o'r tu arall, yn rhoddi bod i anesmwythder eithafol a pheryglus. Gellir rhydu yn y naill, a llosgi allan yn y llall. Nid yw bywyd i'w dreulio mewn "càr llusg," ac nis gall aros yn hir yn yr express train. Sonia dynion ieuanc nwyfus am fyned i'r dinasoedd i weled life: gwelwyd llawer un yn dyfod yn ol gyda gruddiau llwydion i geisio life i'r corff a'r meddwl yn nhawelwch y wlad. Yn hyn, o bosibl, y mae y naill wedi ei fwriadu ar gyfer y llall.

Gelwir y nefoedd yn "wlad well," ac yn "ddinas Duw." A oes yma ryw awgrym fod pobpeth goreu tref a gwlad i gyfarfod yn mywyd perffeithiedig dyn dros byth? Os felly, gall un sant ddyweyd gyda'r bardd Ieuan Glan Geirionydd:—

"Mae arnaf hiraeth am y wlad
Lle mae torfeydd diri';

ac un arall, yr un mor briodol, gyda Charles, Caerfyrddin—

"Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th cynteddau caf dd'od?"