V—BRANWEN FERCH LLYR
HYD yn hyn crwydrasom i wledydd go bell i chwilio am storïau mawr y byd, ac y mae'n bur debyg fod rhai ohonoch yn dechrau gofyn pa bryd y cawn stori o'n gwlad ein hunain. Y mae gan Gymru storïau llawn mor ddiddorol â rhai gwledydd eraill.
Flynyddoedd maith yn ôl, cyn i ddyn feddwl am greu peiriant i argraffu llyfrau, ysgrifennwyd barddoniaeth a chyfreithiau a storïau i lawr ar groen, fel rheol ar groen llo. Gwaith araf iawn oedd, wrth gwrs, a threuliai mynaich fisoedd a blynyddoedd wrtho. Gwnaent eu gwaith yn hynod ddestlus, a byddai'n werth i chwi weld dalennau prydferth yr hen lawysgrifau. Buasai'ch athrawon yn bur falch ohonoch chwi pe medrech ysgrifennu hanner cystal â'r mynaich hynny.
Beth a ddigwyddodd i'r hen lawysgrifau? Aeth llawer ohonynt ar goll, ond yn ffodus, cadwyd rhai, ac y maent yn drysorau hynod werthfawr. Ynddynt hwy y ceir barddoniaeth ein hen hen feirdd a chwedlau'r gorffennol pell.
Tybed a fedrwch chwi gofio enwau dau ohonynt? Un yw Llyfr Gwyn Rhydderch, a'r llall yw Llyfr Coch Hergest. Enwaf y ddau hyn am mai ynddynt hwy y cadwyd y stori a geir yn y bennod hon. Erbyn hyn y mae Llyfr Gwyn Rhydderch yn Aberystwyth a Llyfr