![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ea/Testament_Newydd_ein_Harglwydd_a%27n_Hiachawdwr_Iesu_Grist_%28page_8_crop%29.jpg/400px-Testament_Newydd_ein_Harglwydd_a%27n_Hiachawdwr_Iesu_Grist_%28page_8_crop%29.jpg)
YR EFENGYL YN OL
SANT MATTHEW.
PENNOD I.
1 Achau Crist o Abraham i Joseph. 18 Ei genhedlu ef o'r Yspryd Glân, a'i eni o Fair forwyn, wedi ei dyweddio hi a Joseph. 19 Yr angel yn boddloni cam-dybus feddyliau Joseph, ac yn dehongli enwau Crist.
1 LLYFR cenhedliad Iesu Grist fab Dafydd, fab Abraham.
2 Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr;
3 A Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram;
4 Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon;
5 A Salmon a genhedlodd Booz o Rachab; a Booz a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse;
6 A Jesse a genhedlodd Dafydd frenhin; a Dafydd frenhin a genhedlodd Solomon o'r hon a fuasai wraig Urias;
7 A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abia; ac Abia a genhedlodd Asa;
8 Ac Asa a genhedlodd Josaphat; a Josaphat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Ozias;
9 Ac Ozias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecias;
10 Ac Ezecias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Josias;
11 A Josias a genhedlodd Jechonias a'i frodyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon:
12 Ac wedi y symmudiad i Babilon, Jechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel;
13 A Zorobabel a genhedlodd Abiud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Azor;
14 Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Eliud
15 Ac Eliud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Jacob;
16 A Jacob a genhedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.
17 Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18 ¶ A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd. Glân.
19 A Joseph ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb