"Ond 'fedri di ddim dechra' adrodd yn niwadd pob pennill, na fedri?" A chwarddodd y cadeirydd.
"Na fedra'. Croesa fo allan, Crad."
"Reit ... Be' arall, William?"
"Mi ddysgis i salm ar gyfar y Seiat ryw dro."
"Pa salm oedd hi?"
"'Yr Arglwydd yw fy mugail'." Ysgrifennodd Crad enw'r salm ar y ddalen.
"Ond 'dydw i ddim yn 'i chofio hi 'rwan, mae arna' i ofn, Crad. A pheth arall, i'r B.B.C., nid i'r Seiat, yr ydan ni'n mynd."
Nodiodd Crad, a chroesodd allan yr ail bennawd hefyd.
"Rhwbath arall, William?"
"Fedra' i ddim meddwl am ddim, fachgan. Mi fydda' Huw Lewis yn canu rhyw benillion digri' hyd y bonc yn y chwaral, ond rhai go wirion oeddan nhw."
"Sut oeddan nhw'n mynd?"
"'Ar fy ffordd wrth fynd i Lundan
Mi welais deiliwr bychan,
Ac wrth ymgomio gydag ef
Ar ei lawes gwelais leuan.
Mi dynnis fy mhistol allan,
Mi saethis hi yn 'i thalcan,
A thwrw, twrw mawr yn dod i lawr ...'
'Wn i ddim be' sy wedyn."
Cytunodd y ddau na wnâi hwnnw mo'r tro.
"Wyt ti'n cofio rhai o'r penillion hynny y byddai'r hen Ddafydd Morus yn 'u hadrodd yn y caban ar awr ginio, William?"
"Rhai da oedd rheini, yntê? 'Roedd gynno fo un am dafod merch, ond oedd? Sut oedd o'n mynd, hefyd?
'Ond ydyw yn rhyfeddod
Fod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bo yn ei genau chwyth,
Ni dderfydd byth mo'i thafod.'
"Ia, dyna fo. A beth am hwnnw oedd yn sôn am 'i fron o fel gwydr?"