"Mi ddymunais fil o weithiau
Fod fy mron o wydyr golau,
Fel y gallai'r fun gael gweled
Bod y galon mewn caethiwed."
"Ia. 'Wyt ti'n cofio chwanag?"
"Nac ydw', wir, fachgan. Be' amdanat ti, Crad?"
"Fydd y bôi yma ddim yn mynd yn agos i'r lle, 'ngwas i," sibrydodd.
"Ond ...?"
"Dydw'i ddim wedi anghofio sut i golli f'anadl, William."
Daeth Meri i mewn o'r parlwr gyda phentwr o lyfrau.
"Hwdiwch, stydiwch rai o'r rhain," meddai. "Hanes a Chân," "Rhys Lewis," "Telyn y Dydd," "Y Môr Canoldir a'r Aifft," "Nedw," "Telynegion Maes a Môr," "Ceiriog"—yr oedd yno ddigon o ddewis, a threuliodd y ddau weddill y prynhawn yn dethol darnau allan ohonynt.
Ysgrifennodd Crad y rhestr yn ofalus ar ei ddalen o bapur—er budd Meri.
Galwodd Twm Edwards drannoeth i gynnig eu "cyfarwyddo."
Taflodd olwg beirniadol ar y rhestr, ac yna, â'i fys ar "Ora Pro Nobis" Eifion Wyn, gofynnodd, "Pwy sy'n mynd i adrodd hwn?"
"Fi," atebodd Crad.
"Reit. Gad i fi dy glywad di, Crad."
 winc ar ei frawd yng nghyfraith, taranodd Crad y llinellau cyntaf am y curlaw a thymestlwynt Tachwedd a'r derlwyn yn siglo i'w gwraidd. Rhuthrodd Meri i lawr o'r llofft.
"Grêt, w!" oedd barn Twm.
"Be' sy'n mynd ymlaen yma?" gofynnodd Meri.
"Practis ar gyfar nos Lun," eglurodd ei gŵr.
"Nid fel'na yr wyt ti'n mynd i adrodd yno, gobeithio?"
"Ia. Pam?"
"Am fod gan y B.B.C. beiriant i yrru dy lais di o Gaerdydd i Gaergybi, os mynnan' nhw. Insyltio'r peiriant ydw i'n galw'r fath weiddi."
"O? Sut hynny?"
"Fydd dim o'i angan o. Mi fydd pobol yn Llan-y-graig yn dy glywad di'n iawn hebddo fo os wyt ti'n mynd i sgrechian fel'na."
"Ond mae o'n ddarn dramatig, ond ydi, Twm?"