Tudalen:Y Wen Fro.djvu/54

Gwirwyd y dudalen hon

"O'th flaen, O, Dduw! rwy'n dyfod,
Gan sefyll o hir bell."

O Fethesda'r Fro awn ar draws y wlad i Lanbedr y Fro, ac yno, yng Nghroes y Parc, gwelwn garreg fedd Dafydd Williams (1712—1794). Fe fu'r gŵr hwn yn gofalu am un o Ysgolion Teithiol Griffith Jones, ac fe weithiodd yn egniol fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr.

Ef oedd awdur yr emynau yn dechrau:—

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,"[1]

ac

"O! fy enaid, cod dy olwg."

Gobeithaf y bydd ystyr newydd i'r emynau hyn yn eich meddwl pan genwch hwy nesaf.

  1. Dyma ail bennill O, anfeidrol rym y cariad yn llyfr emynau'r Methodistiaid 1930