Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Main Trallod Thomas Jones gyda golwg ar ei gyflwr Y mae yn ymuno a'r Methodistiaid—Ei faich yn aros—Dyfod i dir rhyddid—Tuedd at yr offeriadaeth Y mae yn penderfynu na à yn offeiriad, ac yn dechreu pregethu—Ei lafur dirfawr—Ei afiechyd—Yn priodi, ac yn symud i'r Wyddgrug—Eiafiechyd yn parhau—Ei briod yn marw—Yn ail briodi, ac yn symud i Ruthyn—Ei ail wraig yn marw—Yntau yn priodi y drydedd waith, ac yn symud i Ddinbych.

XL. THOMAS JONES, DINBYCH—(parhad)

Y Parch. Thomas Jones yn annhueddol i ddadl. er yn meddu cymhwysder arbenig at ddadleuaeth—Y ddadl Wesleyaidd "Y Drych Athrawiaethol "— Y Parch. Owen Davies yn ei ateb—Amryw lyfrau yn cael eu hysgrifenu o'r ddau tu—Y Parch. Thomas Jones yn ysgrifenu y "Merthyıdraeth "— Gwasanaeth mawr Mr. Jones i Fethodistiaeth ac i Gymru fel gwrthwynebydd Uchel Galfiniaeth—Llyfr y Parch. Christmas Evans—Pregeth John Elias— Y mae yn amddifyn iawn cydbwys—Mr. Jones yn myned allan o'r odfa yn Ninbych—Cymdeithasfa Ruthyn yn penderfynu o blaid Calfiniaeth gymhedrol —Rhai pregethwyr o hyd yn cyfyngu ar werth yr iawn—Llythyr y Parch. Thomas Jones at Gymdeithasfa Llani wst—Atebiad y Gymdeithasfa—Pregeth fawr y Parch. Thomas Jones yn y Bala—Mr. Jones yn symud i Syrior Goch— Henry Rees yn was iddo—Llythyr ato o Gymdeithasfa Caernarfon—Cenadwri o'r Deheudir at Gymdeithasfa Gwynedd—Pethau yn dyfod i argyfwng—Y cyfarfod yn Mangor Cymdeithasfa Pwllheli—Y ddadl rhwng y Parch. T. Jones a Mr. John Roberts—Y ddadl rhyngddo a'r Parch. Christmas Evans— Desgrifiad o Mr. Jones fel dyn ac fel pregethwr—Ei farwolaeth a'i gladdedig— aeth.

XLI. JOHN ELIAS

Dygiad i fynu John Elias—Ei daid yn ei gymeryd i'r eglwys, ac yn ei gynghori—Argraffiadau crefyddol boreuol—Myned i wrando pregethwyr y Methodistiaid, ac yn darllen i'r bobl—Yn y pwlpud am y tro cyntaf—Ymladd â llygredigaeth ei galon—Myned i Gymdeithasfa y Bala—Symud i fyw at Griffith Jones, Penmorfa—Cyfyngder meddwl—Ymuno a'r eglwys—Yn dechreu pregethu Yn dyfod yn boblogaidd ar unwaith—Trawsder rhai o'r hen frodyr —Gwrthod caniatau iddo fyned i Manchester i'r ysgol—Yn yr ysgol gyda Mr. Richardson—Y tro cyntaf yn Ynys Môn—Ebenezer Morris yn llwyddo i'w gael am daith i'r Deheudir—Odfaeon rhyfedd ar y ffordd yno—Ei daith trwy y De fel cyffro daeargryn—Y mae yn priodi ac yn symud i Fon—Mrs. Elias yn ddynes nodedig—Elias yn ymosod ar anfoesoldeb Mon—Ail daith i'r Deheudir —Y mae yn ymosod ar ffair Rhuddlan—Ei boblogrwydd yn Liverpool a Llundain—Yn cael ei erlid—Ei lafur anferth a'i boblogrwydd.

XLII.—JOHN ELIAS—(parhad)

Marwolaeth Mr. Charles yn gwthio y Parch. John Elias i'r ffrynt—Nad aeth Mr. Elias yn mhell i gyfeiriad Uchel Galfiniaeth—Ei weinidogaeth yn parhau yn gymhelliadol—Marwolaeth Mrs. Elias—Ei ail briodas—Yn cyfarfod a damwain ar ei ffordd i'r Bala—Odfaeon rhyfedd—Odfa nerthol tu hwnt yn Nghymdeithasfa y Bala—Odfaeon gorchfygol eraill—Mr. Elias yn eu deulu— Mr. Elias yn ei ardal—Mr. Elias yn ei fyfyrgell—Mr. Elias yn y pwlpud—Mr. Elias yn y Gymdeithasfa—Mr. Elias ar yr esgynlawr—Mr. Elias fel arweinydd y Cyfundeb—Mr. Elias fel Ymneillduwr—Diwedd ei oes.

XLIII.—EBENEZER RICHARD, TREGARON

Henry Richard, Trefin—Genedigaeth a dygiad i fynu Ebenezer Richard— Ei ymuniad a'r eglwys—Y mae yn symud i Frynhenllan i gadw ysgol—Bron cael ei lethu gan argyhoeddiad—Yn ddyn newydd mewn canlyniad—Yn dechreu pregethu—Jones, Llangan, yn ei holi ef a'i frawd yn Nghyfarfod Misol Sir Benfro Y mae yn symud i Aberteifi i fod yn athraw i feibion Cadben Bowen—Ei lafur mawr, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Odfa effeithiol yn Nghymdeithasfa y Bala—Ei briodas— Yn symud i Dregaron—Ei ymosodiad ar lygredigaeth y wlad—Ei neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth—Diwygiad 1811—Ei benodi yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa—Mr. Richard yn bregethwr o'r dosparth blaenaf—Yn meddu holl gymhwysderau arweinydd—Ei ddawn gyda'r Ysgol Sabbothol—Ei yspryd cenhadol— Yn nodedig am ei fedr i ysgrifenu llythyrau—Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.