i'r tadau Methodistaidd gychwyn ar eu gwaith. Yr oedd yn cydlafurio à Howell Harries a'r Diwygwyr eraill am dymor, gyda'r gwahaniaeth nad oedd ei lafur personol ef ddim ond lleol, ac yn gwbl o fewn cylch yr Eglwys Sefydledig. Efe yn gyntaf a sefydlodd Ysgolion Cylchynol, y rhai a fu bron yr unig gyfryngau i ledaenu addysg elfenol trwy Gymru am flynyddau lawer. Buont yn flodeuog o dan ei arolygiaeth ef am ddeng mlynedd ar hugain—rhwng 1730 a 1760. Yr oedd dros 200 o'r ysgolion hyn yn Nghymru, y nifer liosocaf mae'n wir yn y Deheudir, y flwyddyn y bu Mr. Jones farw. Trosglwyddodd ef yn ei ewyllys £7000 i ofal Lady Bevan, gwraig foneddig yn berchen cyfoeth a duwioldeb, yr hon a fu yn cydgario ymlaen yr Ysgolion âg ef yn ystod ei ddydd. Cysegrodd hithau ei heiddo a'i thalent i'w cario ymlaen yn yr un llwybr, a chyda yr un amcan ag y gwnaethai y periglor duwiol o Landdowror yn flaenorol. Ysgolion Madam Bevan y gelwid hwy wedi hyny hyd ddiwedd ei hoes hi ac am flynyddoedd wedi hyny. Yn y cyfnod hwn, ac yn ngwasanaeth y wraig foneddig hon, y bu y Parch. Robert Jones, Rhoslan, hanesydd cyntaf y Methodistiaid, yn cadw ysgol—un o'r Ysgolion Cylchynolyn Sir Fflint, yn Mryn Siencyn yn Môn, a Brynengan a manau eraill yn Sir Gaernarfon. Yn y tymor hwn hefyd y daeth Henry Richard, o Sir Benfro, i gadw Ysgol Rad Mrs. Bevan, i blwyf Llanaber, Abermaw, a'i gynghorion ef i'r plant yn yr ysgol ddyddiol a fu yn foddion i roddi y cychwyniad cyntaf i Fethodistiaeth yn Abermaw[1]. Yr oedd yr Henry Richard crybwylledig yn dad i'r Parchn. Ebenezer a Thomas Richard, ac yn daid i'r Apostol heddwch, sef y diweddar Henry Richard, A.S. Gadawodd Madam Bevan holl eiddo Griffith Jones, a gweddill ei hetifeddiaeth ei hun, tuag at barhau yr Ysgolion
Cylchynol ar ol ei dydd hithau, ond darfu i un o'r ymddiriedolwyr o dan ei hewyllys wrthod trosglwyddo yr arian i'r amcan