Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/97

Gwirwyd y dudalen hon

wele y Cwrt i lawr yn y trefniad. Yr oedd yn benderfynol nad elai yno oherwydd maint ei gywilydd, a chredai pe yr aethai na ddeuai neb yno i wrando, ac arfaethai yn ei feddwl fyned heibio y lle yn ddistaw. Ond pan yn ymyl y groesffordd oedd. yn troi tuag yno, daeth gwraig allan o dŷ ar fin y ffordd, a gofynai iddo, "Ai chwi yw y gwr dieithr sydd i fod yn y Cwrt?" "Ië, mae'n debyg," atebai yntau. "Chwi fuoch yn pregethu yn y Cwrt o'r blaen, onid do?" "Dyma hi," meddai wrtho ei hun, "mae y wraig hon yn myn'd i edliw i mi yr hen odfa dywyll." "O," ebe hi, dan wylo, "mi ddiolchaf byth am eich odfa yma y tro o'r blaen; yn yr odfa hono y cefais i yr olwg gyntaf ar fy nghyflwr ac ar Grist.[1]"

Yn y flwyddyn 1807, aeth i fyw i Adwy'r Clawdd, ac nid ydym yn cael iddo fod mewn cysylltiad a'r ysgolion cylchynol ar ol hyn. Bu yn cyfaneddu yn Adwy'r Clawdd yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Bu o wasanaeth mawr i achos yr Arglwydd yr oll o'r amser a dreuliodd yn y lle hwn. Gwelodd, modd bynag, "dduon ragluniaethau" yn ystod ei fywyd. Ymaflodd ynddo afiechyd meddyliol, a syrthiodd i iselder ysbryd, yr hyn a barodd iddo fod heb bregethu am flynyddau. Tua'r amser y daeth dirwest i'r wlad, gadawodd y pruddglwyf ef, a chafodd ei adferu i bregethu drachefn. Bu yn preswylio am dymor byr yn Ngwernymynydd, ac yn cadw toll-borth yno. Symudodd oddiyno i dref y Wyddgrug, lle y treuliodd y pedair blynedd ar ddeg olaf o'i oes. Arhodd ei fwâ yn gryf hyd ben y daith. Diweddodd ei yrfa ddaearol mewn

tangnefedd ar yr 8fed o Ragfyr, 1851, yn nghanol cymeradwyaeth a pharch ei holl frodyr.

  1. Adroddir yr hanes hwn dipyn yn wahanol yn Straeon y Pentan, gan y nofelydd enwog, Daniel Owen. Er fod yr ystyr yr un yn y naill adroddiad a'r llall, mae y tebygolrwydd yn gryfach o blaid yr adroddiad a geir yma.