Un a gefais imi'n gyfaill

Addoliad, mawl a bendith Un a gefais imi'n gyfaill

gan Marianne Nunn


wedi'i gyfieithu gan Peter Jones (Pedr Fardd)
Pwysaf arnat, addfwyn Iesu
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

181[1] Pwy fel Efe!
84. 84. 8884.

1 UN a gefais imi'n gyfaill;
Pwy fel Efe!
Hwn a gâr yn fwy nag eraill;
Pwy fel Efe!
Cyfnewidiol ydyw dynion,
A siomedig yw cyfeillion;
Hwn a bery byth yn ffyddlon;
Pwy fel Efe!

2 F'enaid, glŷn wrth Grist mewn cyni;
Pwy fel Efe!
Ffyddlon yw ym mhob caledi;
Pwy fel Efe!
Os yw pechod yn dy ddrysu,
Anghrediniaeth am dy lethu,
Hwn a ddichon dy waredu;
Pwy fel Efe!


3 Dy gamweddau a ddilea;
Pwy fel Efe!
Dy elynion oll, fe'u maedda;
Pwy fel Efe!
Cei bob bendith iti'n feddiant,
Hedd a chariad a'th ddilynant,
Crist a'th arwain i ogoniant;
Pwy fel Efe!

Marianne Nunn,
ef. Peter Jones (Pedr Fardd)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 181, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930