Un waith am byth oedd ddigon
← Pwy welaf fel f'Anwylyd | Un waith am byth oedd ddigon gan Anhysbys |
Mae'r Iesu'n fwy na'i roddion → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
173[1] Un Aberth.
76. 76. D.
1 UN waith am byth oedd ddigon
I wisgo'r goron ddrain;
Un waith am byth oedd ddigon
I ddiodde'r bicell fain:
Un aberth mawr yn sylwedd
Yr holl gysgodau i gyd;
Un Iesu croeshoeliedig
Yn feddyg trwy'r holl fyd.
Anhysbys
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 173, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930