Wat Emwnt/Glannau'r Wysg
← Y Rhufeiniaid yng Ngwent | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Hen Atgofion → |
PENNOD XXVII.
Glannau'r Wysg.
YMHEN ychydig funudau yr oedd y Coach mawr yn barod i gymryd yr heol drachefn, gyda'r meirch newydd mewn afiaith anhywaith am gychwyn, a'r prif swyddog gyda'i gorn yn ei law yn anelu at ei godi i'w fin.
Munudau prysur dros ben oedd adeg newid ceffylau'r coach ymhobman. O weld carlamu'r meirch i'r ysgwar o flaen y gwesty yna y byddai i'r pen-ostler agor drws ei ystabl, a chyda'r balchedd hwnnw a ymgyfyd o ddiddordeb byw yn y gwaith, fe a arweiniai ei geffyl cyntaf (wedi ei harnesio'n barod) i gymryd lle yr un a ollyngid gyntaf yn rhydd. A'r un modd arweinid y ceffylau eraill allan gyda'r un hwylustod, a chyn nemor eiliadau yr oedd y pedwar yn eu lle ac yn dangos yn nisgleirdeb gwedd eu crwyn a harnais eu gwisg, y gofal arbennig a gymrid ohonynt.
Hon oedd foment fawr yr ostleriaid yr un a fynegai am eu gwaith a'u medr gerbron y byd; ac felly nid un i'w cholli oedd hi unrhyw amser. A'r un modd y gwestywr a'i weision. Pa ddewin a allai ddywedyd am râdd y bobl a adawent y coach am ennyd er mwyn nawddogi ei dŷ am y tro?
Mewn gair, gweithredai'r coach mawr nid yn unig fel prif foddion trafnidiaeth rhwng " y wlad " a'r byd tuallan, ond ef hefyd oedd brif gyfrwng newyddion a hysbysiadau y gwahanol ardaloedd a'i gilydd.
Nodweddid newyddion y coach mawr gan amlaf gan y gwladgarwch poeth hwnnw a gyfrifai bopeth y tuallan i'n hynys yn elynol, ac mai dim ond y gwylio manylaf a ddiogelai ein gwlad rhag cynllwynion y tramorwyr ffeils.
Ar yr amser neilltuol pan ddychwelodd Wat i'w famwlad y bwganod mwyaf eu dyhirwch oedd Washington, Benjamin Franklin, a Lafayette. Yr oedd Bonaparte eto heb ddechreu brwdfrydu Ffrainc na Daniel O'Connell yr Iwerddon.
Ond digon y dyhirod wrth law, a chlybu Wat a'i briod fwy am fawrddrwg yr Americaniaid yn ystod y "newid ceffylau" yn y Fenni nag a glywsant erioed cyn hynny, ac ni wyr Lafayette hyd heddiw y ddihangfa a gawsai o beidio bod yn agos i ffrewyll gyrrwr y coach yn y Fenni y prynhawn neilltuol hwnnw.
Dywedir i ni mai gwaith a bâr lawer o syched ydyw siarad helaeth, ond ni wybu Wat hynny, tebig iawn. O leiaf ni chynhygiodd ef lasiad o ddim i edmygydd mawr y Rhufeiniaid, a oedd y munudau hynny mor llawdrwm ar Lafayette, a thoc, dyna alwad ar i'r teithwyr gymryd eu lle eilwaith, a'r cyfle wedi myned heibio.
Mudandod mawr a oedd wedi hyn ar nen y coach, heb na gair am hyn nac arall gan neb. Efallai mai arddunedd y mynyddoedd mawr yn ymyl a oedd a'i parai oblegid mawreddog dros ben oeddynt.' Ond efallai, wrth gwrs, mai peth arall, hollol wahanol, a oedd i'w gyfrif am dano. Fodd bynnag am hynny, Marged oedd a dorrodd ar y tawelwch gyntaf, ac ebe hi, " 'Drychwch, Watkin, on'd yw'r mynydda' 'ma'n grand?"
Oti'n," ebe yntau, ma 'nhw'n rhai ffein digynnyg, ond p'idiwch sôn llawer am danyn' nhw, ne'r Rhufeiniaid gaiff y bai am rai'n yto!"
Gwenodd Marged ar hyn, a daliodd ei thafod. Yr oedd y coach wedi gwneud tramwy da o'r Fenni i fyny; a chan adael Cryghywel a'r Bwlch ar ol, dyneswyd bellach at gyffiniau Aberhonddu ei hun.
Teimlai Wat ryw gynhyrfiad meddwl hynod iawn ar ei agoshau i'r dre y bu iddo ef brofiad mor chwerw ynddi gynt. Daeth yn fyw i'w gof wychter y Castle a charedigrwydd y Fountain, tybed a welai ef hwynt yn yr un goleu y tro hwn? Yna daeth i'w feddwl am Major Moore, ond ag ef yn dechreu pendroni am y dyddiau a fu, wele'r coach yn cyrraedd gwaelod y Watton, a'r gyrrwr yn galw ar ei geffylau am ychwaneg o fuandra er mwyn tramwyo'r dre in proper style, ys dywedai ef.
Digwyddai fod ar y pryd gynhulliad o ryw fath yn y Watton, ond beth oedd hynny i'r Jehu gwlatgar hwn? "Nothing but blasted Methodists, I'm thinkin," ebe ef, "They was here Monday night afore, the demned rascals! Let 'em get out of the way if they wants to!"
Ac out of the way y gorfu i'r bobl fynd tra carlamai'r meirch heibio iddynt in proper style i gyfeiriad y Castle.
Dyma ni Marged," ebe Wat, "gadewch i fi'ch helpu i ddisgyn, ond estynnwch y pecyn i fi yn gynta'. Dyna fe. Ni awn yn ol i'r dre 'nawr am dipyn o fwyd wa'th os y'ch chi 'run peth a fi ma'i isha arnoch chi.'
Hynny a wnaethpwyd, a chyn hir yr oedd y ddau wrth y bwrdd yn y Green Dragon yn cyfranogi unwaith eto o luniaeth yr hen wlad.