Wat Emwnt/Hen Atgofion
← Glannau'r Wysg | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Cysylltiadau, Hen a Newydd → |
PENNOD XXVIII.
Hen Atgofion.
DEUBETH oedd ym meddwl Wat i'w hymgymryd drannoeth cyn cefnu ohono ef a'i briod ar y dref i fynd at eu cynefin yng ngodre'r sir. Rhaid oedd ymweld yn gyntaf â Mrs. Prydderch yn y Fountain er ei hysbysu o farwolaeth ei nai, a'i chysuro ymhob modd posibl.
Ei fwriad hefyd ydoedd ymweld â'r Castle fel ag i glywed rhywbeth am symudiadau Mr. Moore.
"Fe Ydw," ebe Mrs. Prydderch, "'wy'n eich cofio'n eitha' da. Sefwch ch'i, mae wyth mlynedd 'ddiar hynny a dyna'r rheswm y mae mor fyw yn 'y nghof i, am imi golli Jim, fy nai, tua'r un amser garwn wybod beth a dda'th ohono, poor boy. Mae arna'i ofn, wir, 'mod i wedi bod yn rhy gâs wrtho ambell waith; ac am hynny d'wy' i ddim wedi bwyta bara iach ers llawer dydd."
"Fe fydd yn dda gennych i glywed, Mrs. Prydderch, i fod ganddo feddwl uchel am danoch chi hyd y diwedd."
"Hyd y diwedd? Wyddoch chi rywbeth am dano ynte? Peidiwch dweyd 'mod i wedi'ch cam ddeall!"
"Gwn wir, Mrs. Prydderch, y cwbwl am dano am wn i," ebe Wat yn drist, "ond gadewch i fi gau'r drws yn gynta".
"Na, dewch miwn yma'ch dou," ebe hi, gan groesi'r gegin ac agor drws y parlwr, "chlyw neb mo'no'n ni yma."
Yna, ym mharlwr y Fountain, yr adroddodd Wat gyda'r tynerwch o'r mwyaf am ei holl ymwneuthur â Jim, gan bwysleisio eu cyfeillgarwch mawr, ac yn arbennig eu cyfarfyddiad hapus ym Mryste, a lliniaru llawer ar erchylltod y diwedd yn Nhrenton.
Ymhell cyn diwedd yr adroddiad o'r hanes yr oedd Mrs. Prydderch yn foddfa o ddagrau, a Marged yn ceisio ei chynnal yn y modd na allai neb ond a brofasant eu hunain ran o chwerwder bywyd ei wneuthur.
"Do," ebe Wat, "fe'i claddwyd yn barchus, a'r holl gamp o'r top i'r gwaelod yn hiraethu ar ei ol."
"Diolch yn fawr ichi, Mr. Edmunds. 'R'ych wedi rhoi llawer o gysur i fi er fod'ch stori ch'i mor sad. Rhaid i ch'i a'ch gwraig garedig aros yma i gin'o gyda fi heddi'. Rwy'n credu y bydda' i'n well o'ch cwmni ch'i, ac fe fydd greso ich'i yn y Fountain bob pryd, tra fydd m'enw i ar y sign. Bydd wir! Poor Jim!"
"Wela's i mo Major Moore ers lawer dydd," ebe hi ymhellach. "Dwy' i ddim yn credu ei fod yn y dre' o gwbwl. Ond fe glywa's 'i fod e' lawer yn wahanol 'nawr i beth o'dd e'n arfadd bod. 'Do's dim junkets mwyach ma'n debig. Trade a busnes yw'r cwbwl 'nawr, medde nhw.
Ciniawyd yn y Fountain yn ol y gwahoddiad, ac yn y prynhawn aeth Wat wrtho'i hun i'r Castle gan adael ei briod yng nghwmni Mrs. Prydderch.
"God bless your soul, sir!" ebe'r swyddog yn y gwesty mawr, "We never see Major Moore now but once in a blue moon. You'll find a great change in him, sir, no doubt, no hunting or cockfighting any more. Almost a Methodist, one might say, sir. The most likely place for you to find him is at Cyfarthfa, I should say. I'm told they are going great guns there just at present."
Diolchodd Wat i'r Sais ac yna aeth yn ol i'r Fountain i edrych am Marged, ac wedi ymgomio ychydig eto â Mrs. Prydderch aeth y ddau allan am dro i'r dre cyn dychwelyd i'w llety yn y Green Dragon.
Ac â hwy yn tynnu at gyfeiriad y Watton gwelent dorf fawr tua chanol yr ystryd honno yn yr un lle ag y gwelsant un arall y diwrnod cyn hynny ar eu dyfod yn y coach mawr heibio.
Ar ofyn o Wat am esboniad am y cynhulliad deallodd mai y blasted Methodists oedd yno yn wir, a'u bod yn arfer mynychu'r lle fin hwyr.
Ar neshad o'r ddeuddyn at y dorf hwy a sylwent fod yno gyffro nid bychan ar y pryd am fod rhai o bobl fachgenaidd y dre ag awydd aflonyddu y pregethwr ieuanc. Hwnnw a ddaliai ymlaen yn wrol gan anwybyddu am beth amser y bechgynnos difoes. Ond o'r diwedd cymaint ydoedd eofndra y rheiny fel y mentrodd dau ohonynt ddringo i'r fen y tu ol i'r pregethwr gan aflonyddu yno.
Yr oedd Wat wedi sylwi ar hyn oll; ac wedi ei gynhyrfu drwodd, fe benderfynodd, delai a ddeuai, osod diwedd ar y peth. Felly gan adael ei briod yn y dorf ymwasgodd ymlaen at y gwatwarwyr ac a ddringodd yntau hefyd i'r fen. Ymddangosai am foment fel pe yn siarad â'r ddeuddyn ffol, ond y foment nesaf yr oedd wedi taro un ohonynt nes ei gwympo o'r fen i'r llawr. Yna gan gydio am y llall gerfydd ei ganol, hwnnw hefyd a fwriwyd oddiar y llwyfan ar ol ei gyfaill.
Fel y gellid tybio, rhwystrodd hyn lawer ar y siaradwr, a chyn y gallai ef ail—gydio yn ei araith anerchodd Wat y dorf.
"Gyd-Gymry!" ebe ef, rwy i newydd dd'od 'nol i'm gwlad ar ol wmladd yn erbyn Yanks a Indiaid yn New England. Mae'n ddrwg genn' i nad o's dim waratêg i Gymro i wilia yn 'i iaith 'i hun ym 'Merhonddu. Fe dawla's i'r ddou ffolyn yna i lawr er dysgu lesn iddyn' nhw. Waratêg yw waratêg. Ewch ymla'n, Mr. Pregethwr, fe fydd llonydd ich'i nawr!"
Hynny a fu. Dechreuodd y siaradwr ieuanc eilwaith ac ymddangosai fel pe wedi ennill hwyl newydd yn y gwrandawiad gwell.
Daliai Wat i sylwi'n astud ar bopeth a ddywedid, a pho fwyaf yr hwyl mwyaf i gyd ei sylw yntau. Canys ymhle y clywsai ef yr oslef honno o'r blaen, ac y gwelsai ef godi'r fraich yn yr unffordd a wnai'r siaradwr ger ei fron?
Gofynnodd yn dawel i un yn ei ymyl am enw'r pregethwr ond hwnnw ni wybu mo hono.
Felly daliodd yr hen filwr i sylwi ac i wrando yn fwyfwy hyd ddiwedd yr oedfa. Ac wedi i hynny ddyfod i ben ac i'r dorf ddechreu ymwasgaru trodd y pregethwr ei hun ato, ac i'w syndod meddai,
'Rwy'n diolch o 'nghalon ich'i, Mr. Watkin Edmunds am eich cymorth."
"Ffordd ichi'n napodi?" ebe yntau yn fwy syn fyth. Ar hyn gwenodd y pregethwr, ac yn y wên deallodd Wat, Wel, o's bosib, nid y ch'i,—nid y ti yw
"Ia!
fi yw e, Dai Bach, Nantmaden. "Shwd y'ch chi? Fe geso'i llythyr chi, a ma' dishgwl'ad mawr am danoch chi ym Mhenderyn. Ewch yn ol cyn gynted ag y galloch."
Yna cyflwynwyd Marged i'r pregethwr, a mawr oedd yr afiaith ar eu mynd gyda'i gilydd i'r Green Dragon am ychydig o luniaeth.
"Ma' unpeth yn lwcus iawn," ebe'r pregethwr, "Fe fydd Mr. Morgan, Nantmaden, yma yfory, ac yr o'wn i i ddychwelyd gydag ef yno.
Ond rhaid i fi fynd ymla'n i Drefeca. Felny fe gewch chi'ch dou eich cario adre yn'm lle i. Fe fydd yno roesaw tywysog ichi yn Nantmaden, credwch ch'i fi."