Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn

Ymhlith holl ryfeddodau'r nef Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn

gan William Williams, Pantycelyn

D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

111[1] Cariad a Gras yng Nghrist.
M. C.

1.WEL dyma gyfoeth gwerthfawr llawn,
Uwch holl drysorau'r llawr,
A roed i'w gadw oll ynghyd
Yn haeddiant Iesu mawr.

2.Ei gariad lifodd ar y bryn,
Fel moroedd mawr di—drai;
Ac fe bwrcasodd yno hedd
Tragwyddol i barhau.

3.Pan syrthio'r sêr fel ffigys ir,
Fe bery gras fy Nuw:
A'i faith ffyddlondeb tra fo nef,
Anghyfnewidiol yw.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 111, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930