Ymhlith holl ryfeddodau'r nef

Fy meiau trymion, luoedd maith Ymhlith holl ryfeddodau'r nef

gan William Williams, Pantycelyn

Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

110[1] Ffrwyth yr Ymgnawdoliad.
M. C.

1.YMHLITH holl ryfeddodau'r nef,
Hwn yw y mwyaf un—
Gweld yr anfeidrol ddwyfol Fod
Yn gwisgo natur dyn.

2.Ni chaiff fod eisiau fyth, tra fo
Un seren yn y nef,
Ar neb o'r rhai a roddo'u pwys
Ar ei gyfiawnder Ef.


3.Doed y trueiniaid yma 'nghyd,
Finteioedd heb ddim rhi';
Cânt eu diwallu oll yn llawn
O ras y nefoedd fry.

4.Fe ylch ein beiau i ffwrdd â'i waed,
Fe'n canna oll yn wyn;
Fe'n dwg o'r anial maith i maes,
I ganu ar Seion fryn.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 110, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930