William Jones (Nofel)/Pennod 12 - Un Actor
← Pennod 11 - Dau Actor | William Jones (Nofel) gan T Rowland Hughes |
Pennod 13 - Eleri → |
PENNOD XII
UN ACTOR
Prin y mae eisiau d'atgoffa, ddarllenydd hynaws, am orchestion diorchest William Jones ar y radio. Cofi amdano fel y pysgodwr Huw Parri yn "Y Chwarelwr," ac fel Ben Roberts, y Gogleddwr nerfus ond hynod garedig a dewr, ym mhenodau'r ddrama-gyfres, "Y Pwll Du." Ym mhob pennod ond un. Bu farw, mor dawel a di-sôn ag y buasai fyw, yn y bumed, gan ddwyn y dagrau'n llif i'th lygaid. "Nos dawch, yr hen hogia'," meddai wrth droi ei wyneb tua'r mur, a'r munud nesaf clywai'r glowyr eraill sŵn yr achubwyr yn torri llwybr drwy'r cwymp. Ond nid oedd modd deffro William Jones- nage, Ben Roberts, onid e? Neu efallai iti ei gael ar ei orau fel "ymofynnydd pryderus" yn y gyfres "Holi ac Ateb"? Pan holai'r Meddyg, swniai fel petai'n cael annwyd a chur yn ei ben bob yn eildydd ac iddo grwydro'r byd i chwilio am feddyginiaeth, ac wrth iddo holi'r Garddwr, hawdd oedd tybied mai rhyw Job a'i amynedd yn ddiderfyn a welai'r malltod ar ei ffa a'r malwod hyd ei fresych ac adar y greadigaeth yn difa'i afalau. Ac, wrth gwrs, fe gofia'r plant am William Jones fel Sam, y milwr ungoes, yn "Y Siop Deganau." Prin y mae eisiau d'atgoffa am hyn oll, ond rhyw olwg o hirbell a gefaist ti ar y darlledwr, wedi'r cwbl. "Go dda, wir!" neu "Symol iawn!" meddit, yn ôl dy chwaeth a'th hwyl ar y pryd, a gwelaist, fel finnau, ddau neu dri o lythyrau ffyrnig -a dienw-yn un papur newydd yn cyhoeddi bod gwell actorion na William Jones ym mhob pentref yng Nghymru a'i bod hi'n hen bryd i'r B.B.C. roi cyfle iddynt. Pan ddarllenodd y pechadur y llythyr cyntaf un bore yn y Workmen's ym Mryn Glo, cytunodd ag ef ar unwaith. Ond yr oedd Crad yn wyllt.
"Y bwgan iddo fo!" meddai rhwng ei ddannedd.
"Pwy?"
"Y bôi tew hwnnw o Ynys-y-gog. Yr ydw i'n siŵr mai fo sgwennodd y llythyr. Y'sgerbwd! Y tebot!"
Ond nid oedd y dyn bach mor sicr, oherwydd gwyddai gystal â neb am ei ddiffygion fel actor. Teimlai'n grynedig o hyd bob tro yr âi ar gyfyl y meicroffôn, a mawr oedd amynedd Emrys Lloyd a'r swyddogion eraill lawer gwaith wrth geisio sicrhau'r oslef iawn neu'r pwyslais cywir. Ond cytunent fod mwy ym mhen William Jones nag a freuddwydiasent ar y cychwyn. Cadwai ei naturioldeb syml bob gafael, a rhoddai weithiau ryw arwyddocâd newydd, hollol annisgwyl, i ambell frawddeg. Nid oedd iddo un arlliw o'r "Actor" yn ôl syniadau Twm Edwards; ni thynnai ystumiau er mwyn eu tynnu. Pur gyfyng, fel y cofi, oedd cylch ei waith ar y radio—y dyn bach gwylaidd neu'r dyn bach ffwndrus bob tro—ond yr oedd, ym marn llawer, yn ddiguro fel cymeriad felly. Y feirniadaeth a glywais i amlaf oedd mai'r un un oedd ef ym mhob darllediad—fel Huw Parri, fel Ben Roberts, fel y milwr un- goes, ac efallai mai gwir y gair. William Jones oedd William Jones, ond dadleuai rhai fod hynny'n gryfder ynddo. Yn ffodus, adrodd ei hanes yw fy ngwaith i, nid ei amddiffyn na'i glodfori.
Ni chlywais i erioed farnau mor wahanol ar unrhyw bwnc dan haul. "Gwych! Rhyfedd o naturiol!" oedd sylw Mr. Rogers wrth ei wraig ar ôl gwrando ar "Y Chwarelwr." "Oples, bachan. 'Wy' ddim yn deall bois y B.B.C. 'na," meddai Twm Edwards wrth Shinc y bore trannoeth ar eu ffordd i godi tatws yn yr alotment. "Dim digon o snap," oedd dedfryd Jack Bowen. "Y tempo yn berffath, William," meddai David Morgan. Dywedai rhai iddo swnio'n rhy lenyddol, eraill fod ei acen Ogleddol yn rhy amlwg, rhai ... Ond ymlaen—neu yn ôl—â'r stori.
"Nid i briodas yr ydw i'n mynd, Crad," meddai William Jones, ar gychwyn i Gaerdydd i'r ymarfer cyntaf ar gyfer "Y Chwarelwr."
"Rwyt ti'n colli dy wallt yn o ddrwg, 'ngwas i," oedd ateb y gŵr â'r brwsh.
"Mynd yn hen, weldi. Mi fydda' i'n dair ar ddeg a deu- gain yr wsnos nesa."
"Taw, fachgan! Rhaid inni gael te-parti.
Reit, mi wnei di'r tro 'rŵan. Hannar munud, imi gael taro'r brwsh 'ma dros dy het di."
Aeth Crad gydag ef i'r orsaf, gan gerdded yn bur dalog. "Pwy ôn nhw'n feddwl ŷn' nhw?" gofynnodd Twm Edwards i'r hysbyslen a ddarllenai y tu allan i Neuadd y Gweithwyr. Gan fod y rhan fwyaf o'r rhaglen wedi'i recordio ymlaen llaw, dim ond pedwar actor a oedd yn y stiwdio. Teimlai William Jones, ar y ffordd i'r lle â'r sgript o dan ei fraich, fod y B.B.C. yn talu arian da iddo am y nesaf peth i ddim- tair golygfa, un wrth droed y graig cyn tanio, un yn y caban- ymochel, a'r llall eto yn y fargen ar ôl y ffrwydriad. Diar, haerllugrwydd oedd cymryd y pres am gyn lleied o waith. Ond sylweddolodd yn fuan iawn yn y stiwdio fod yn rhaid iddo fod ar flaenau'i draed bob ennyd. Torrai rhyw sŵn neu'i gilydd o flaen neu yng nghanol llawer o frawddegau Huw Parri, a chan mai o stiwdio arall neu oddi ar recordiau y deuai'r sŵn, ni chlywai William Jones mohono. Felly, rhaid oedd iddo aros am arwydd—fflach o olau gwyrdd yn belydryn ar fur y stiwdio—cyn dweud ambell frawddeg, a rhyw brofiad go annifyr oedd yr aros hwnnw. Yn y caban- ymochel, er enghraifft, ceisiai swnio'n hollol ddidaro, ond a'i lygaid eiddgar yn gwylio'r pelydryn ar y mur, nid hawdd oedd hynny. Rhoddai disgwyl anesmwyth William Jones yn y stiwdio gyffro annaturiol yn llais Huw Parry yn y caban- ymochel, a chafodd Emrys Lloyd gryn drafferth gyda'r darn hwnnw. Efallai y cofia'r darllenydd beth o'r ymgom.
- HUW PARRI: Mae 'sgotwr da yn gwneud 'i blu 'i hun bob amsar. Mi fyddai, beth bynnag.(Sŵn y ffrwydriadau dipyn yn nes).
- ROBIN HUWS: Maen nhw'n tanio'n o brysur tua'r Twll Mawr 'na hiddiw.
- HUW: Bydda', 'nen' Tad. A mi ddigwyddodd peth rhyfadd iawn yn y tŷ 'cw un noson. 'Ron i wedi gorffan gwneud March Brown, a dyna lle'r oedd y ddau bry gin i ar ddarn o bapur glân ar y bwrdd.
- ROBIN: Pa ddau bry?
- HUW: Yr un on i wedi'i wneud a'r un go-iawn on i'n ddefnyddio fel patrwm. Wel, wir, 'fedra' neb ddeud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw, wchi. A phan on i'n edrach arnyn' nhw, dyma bry copyn mawr yn dŵad i lawr 'i we o'r to ac yn cerddad o gwmpas y papur i 'sbïo ar y ddau bry.
(Sŵn ffrwydriad agos).
Wel, 'wnes i ddim meddwl y basa'r pry' cop.... Dyna fo, Robin.
- ROBIN: Ia, ffrwydriad go dda hefyd, Huw.
(Sŵn y plygion a'r man gerrig yn syrthio o'r graig). - HUW: Mae 'na blygion go fawr yn fan 'na, mi gei di weld. Mi rois i ddigon o bowdwr ynddo fo y tro yma... A fel 'ron i'n deud, dyma'r pry' cop yn 'sbïo ar y ddau bry' ac yn cydio yn un ohonyn nhw, a chyn i mi gael cyfla i'w stopio fo, i ffwrdd â fo i fyny i'r to. A wyddoch chi pa bry' ddaru o gymryd?
- ROBIN: Yr un go-iawn, wrth gwrs.
- HUW: Wel, naci, fachgan. Fy mhry' i! Fy mhry' i! Mi ddiflannodd hefo fo i ryw dwll bach yng nghongol y ceiling, a dyna'r dwytha' welis i o'r March Brown hwnnw, y pry' bach gora' wnes i 'rioed.
(Sŵn y "Corn Heddwch").
- Dyna'r "heddwch" hogia'. Tyd, Robin, inni gael gweld pa lanast' wnaeth y powdwr 'na. Tyd, mae digon o isio cerrig arno' ni y mis yma ar ôl llosgi cymaint o bowdwr i ryddhau dim ond baw o'r hen graig 'na. Tyd ...
Nid oedd angen swnio'n gyffrous wrth sôn am y "plygion go fawr," er enghraifft. Digwyddiad cyffredin, pob-dydd, i chwarelwr oedd gwrando ar ffrwydriad yn y twll amser saethu. Ond â'i lygaid disgwylgar yn rhythu ar fur y stiwdio i weld y golau, anodd ar y cychwyn oedd i William Jones ymddangos yn ddidaro, a bu beth amser cyn dysgu'r gelfyddyd o gil-edrych am y golau gwyrdd. Yr oedd eisiau iddo weiddi tipyn hefyd mewn un olygfa, ac ni fedrai yn ei fyw gofio camu'n ôl yn gyflym a throi ei ben ymaith. Ond ei bechod parod oedd siarad wrth ei gyd-actorion yn lle wrth y meicroffôn. "Tyd, Robin," meddai, gan droi at yr actor gerllaw iddo, a swniai ei lais, yn ôl Emrys Lloyd, yn dawel a phell. Ang- hofiai mai'r meicroffôn oedd "Robin" a phob cymeriad arall y dywedai rywbeth wrtho, a bod yn rhaid iddo daflu ei sylwadau i'r teclyn bob gafael. Yn wir, y peiriant hwnnw a deyrnasai yn y stiwdio: ato ef yr oedd yn rhaid gwyro ymlaen i sibrwd, arno ef yr oedd rhywun i wenu neu wgu, ac oddi wrtho ef yr oedd eisiau neidio'n ôl mewn braw. Yr oedd yn dda gan William Jones glywed llais Emrys Lloyd yn cyhoeddi seibiant a chyfle am gwpanaid o de.
Pan gyrhaeddodd Fryn Glo, yr oedd Crad yn yr orsaf yn ei gyfarfod, er ei bod hi'n tywallt y glaw. Teimlai William Jones yn ddig wrtho. Cawsai Crad wanwyn a dechrau haf pur hapus, ond daethai gyda'r tywydd poeth byliau o wendid trosto a blinai'n fuan iawn. Dychwelasai'r colli anadl hefyd, a châi ambell noson a'u dychrynai fel teulu.
"Be' goblyn oeddat ti'n dŵad allan heno?" oedd cyfarchiad y chwarelwr.
"Sut hwyl gest ti, William?" oedd yr unig ateb.
Am chwarter wedi wyth y noswaith ddilynol y darlledid "Y Chwarelwr," ond yr oedd yn rhaid i William Jones fod yn y stiwdio am hanner awr wedi pump ar gyfer yr ymarfer terfynol. Aethant drwy'r rhaglen i gyd am chwarter i saith, ac ymddangosai Emrys Lloyd yn bur fodlon arni pan yrrodd yr actorion am gwpanaid o de tua chwarter i wyth. Dywedodd William Jones droeon wrtho'i hun ac wrth y rhai o'i gwmpas fod y te yn dda iawn. Nerfus? Dim peryg'!
"Triwch gofio troi dalen eich sgript yn berffaith ddistaw, Mr. Jones, rhag i'r sŵn fynd i'r meic," oedd cyngor olaf Mr. Lloyd iddo. "Pob hwyl i chi!"
Ym Mryn Glo, aethai Crad i'r drws nesaf ryw awr yn rhy gynnar.
"Faint ydi hi o'r gloch, Meri?" gofynnodd ychydig wedi saith.
"Rhyw bum munud wedi saith."
"Mi a'i draw i'r drws nesa' i fod yn barod."
"Ond diar annwl, am chwartar wedi wyth y mae'r peth."
"Ia, ond 'falla'... falla' y byddan nhw'n dechra'n gynnar, wsti.
"Dydyn nhw byth yn gwneud hynny, Crad."
"O, ydyn'. Mi glywis i am ryw raglan yn dechra' awr cyn 'i hamsar."
"Chlywist ti ddim o'r fath beth. Ista wrth y tân 'na."
"Mi a'i draw at Dai Morgan am sgwrs."
Ymgasglodd y teulu i gyd o gwmpas set-radio Idris Morgan tuag wyth o'r gloch. Pur gyfyng oedd hi yn y parlwr, gan fod yno organ go fawr a silffoedd llyfrau a bwrdd-ysgrifennu yn ogystal â'r dodrefn arferol, ond dygasai Mrs. Morgan gadeiriau o'r gegin, ac yr oedd Wili John ac Eleri'n falch o gyfle i eistedd ar glustogau ar y llawr. Troesai Idris yr ystafell yn rhyw fath o stydi, a gwnaethai ei dad ysgwâr o bren, â brethyn oddi tano i'w gadw rhag llithro, i'w osod ar y bwrdd, a phiniai'r bachgen unfraich ei bapur ar hwnnw pan fynnai ysgrifennu. Yr oedd yn rhaid iddynt oll yfed glasiaid o ddiod fain, a rhoddwyd banana bob un i Wili John ac Eleri.
"Tro fo ymlaen eto, Idris," meddai Crad. "Rhag ofn."
Daeth llais rhyw ferch yn canu am noson serog a'r lloer yn llawn.
"Twt. 'Ydi hon'na wrthi o hyd?"
Eisteddai Mrs. Morgan, gwraig fechan nerfus a'i gwallt yn wyn perffaith, wrth ochr Meri, a gwgodd Crad ar yr hosanau a droedient.
"Wn i ddim sut y medrwch chi wrando a gweu," meddai. Daeth y gân i'w therfyn.
"Reit." A chroesodd Crad ei goesau a rhoi ei fawd yn nhwll-braich ei wasgod. Ond yr oedd gan y ferch leuadlyd gân arall am grwydro yn llaw ei chariad dan y serog nen.
"Ydi'r gryduras byth yn mynd i'w gwely, deudwch?"
chwyrnodd Crad. "Mae hi'n siŵr o fod ymhell ar ôl chwartar wedi wyth."
"Na, ma' munud arall i fynd," meddai Idris.
Aeth y munud heibio, ac yna cyhoeddodd llais raglen "Y Chwarelwr."
"Hen bryd hefyd," oedd sylw Crad.
"Odi Wncwl William yn y dechra'?" gofynnodd Wili John.
"Sh!" meddai ei dad.
Nid oedd Wncwl William yn y dechrau. Cafwyd golygfa mewn tŷ, un arall yn y wal, un wedyn yn yr efail, ond nid oedd sôn am William Jones.
"Shwd ma' nhw'n gwau y sawdwl ddwbwl 'ma? 'Odych chi'n gwpod?" gofynnodd Mrs. Morgan i Feri.
"O, mae gin i batrwm yn rhywla yn y tŷ," atebodd hithau. "Mi chwilia' ..."
"Sh!" Edrychai Crad yn ffyrnig.
"Mi chwilia' i amdano fo 'fory," sibrydodd hithau.
"Na Wncwl William!" meddai Wili John.
"Naci. Sh!" atebodd ei dad.
"Falle'u bod nhw 'di'i newid a ar y funad ddwetha'," meddai Eleri.
"Nac ydyn'. Sh!"
"Ne dorri 'i scenes a mas," awgrymodd Wili John.
"Naddo. Sh!"
Daeth llais Huw Parri cyn hir, a mawr oedd y cyffro yn y parlwr.
"Dyna fo!"
"Na fe!"
"Na Wncwl!"
"Ia, 'na fe!"
"Sh!"
Hylldremiai Crad ar unrhyw un a symudai neu a besychai yn ystod y rhan nesaf o'r rhaglen, a chyda rhyddhad y deallodd Wili John ac Eleri i'w hewythr gyrraedd diwedd ei drydedd olygfa. Caent hawl i anadlu wedyn.
Cytunent oll fod William Jones yn wych. Wrth gwrs, fe wyddai Crad fod "lot ym mhen yr hen William erioed," a David Morgan iddo ei ddangos ei hun yn "dicyn o fachan" pan ganai yn y côr. Ac uwch glasiaid arall o'r ddiod fain, proffwydwyd dyfodol disglair i'r gŵr ifanc.
Ar ôl swper, crwydrodd Crad a Wili John ac Eleri i lawr i'r orsaf i roi croeso brwd iddo.
"Mi roist y cwbwl i gyd yn y cysgod, William," oedd barn Crad. A nodiodd Wili John yn ddwys.
Aeth William Jones i lawr i Gaerdydd eto yr wythnos wedyn i gymryd rhan ym mhennod gyntaf "Y Pwll Du." Wedi i'r actorion ymgynnull yn yr ystafell-aros, daeth Ellis Owen, y cyfarwyddwr, atynt i wrando ar y darlleniad cyntaf ac i ofyn iddynt farcio ar eu copïau ymh'le yr oedd angen y golau gwyrdd cyn llefaru. Gyferbyn â William Jones, eis- teddai gŵr yn tynnu at ei ddeugain oed, a theimlai'r chwarelwr yn sicr iddo'i gyfarfod yn rhywle o'r blaen. Dywedai ei ddwylo mai athro ysgol neu rywbeth tebyg ydoedd. Wyneb tenau, myfyrgar; llygaid onest, chwerthingar, o las golau; talcen uchel iawn; gwallt crychiog yn dechrau britho uwch ei glustiau. Adwaenai ef, yr oedd yn siŵr o hynny. Ymh'le y gwelsai ef o'r blaen? Yn Llan-y-graig? Na, Deheuwr oedd hwn, a barnu oddi wrth ei iaith. Ym Mryn Glo? Na, ni chofiai ei gyfarfod ym Mryn Glo. Ceisiai llygaid y chwarelwr lynu wrth y sgript yn ei ddwylo, ond ni fedrai yn ei fyw beidio â thaflu golwg slei ar y gŵr. Daria unwaith, yr oedd mor sicr â bod ei enw'n William Jones. ... Enw? Beth oedd enw'r dyn tybed? Edrychodd ar ddalen flaen y sgript-Lewis James, Evan Thomas, David Jenkins, Ted Howells, Phillip. Yr argian fawr! Howells! Nid Lieutenant Howells? Ia, fo oedd o—wedi tyfu'n ddyn, a'r gwallt a fu'n gnwd unwaith yn awr yn denau a brith. Ond Howells, Howells oedd o.
"Chi yw Ben Roberts, ontefa, Mr. Jones?"
"O, mae'n ddrwg gin i, Mr. Owen." A sylweddolodd William Jones i'r cwmni o actorion ddechrau darllen y ddrama. Ar ôl y darlleniad, pan godai pawb i fynd i'r stiwdio, cydiodd y chwarelwr ym mraich Howells.
"Lieutenant Howells!"
"Jones! Fachgen! Jones!" gwaeddodd, gan roi ei ddwy law ar ysgwyddau William Jones.
"Odych chi'n 'nabod eich gilydd, 'ta'?" gofynnodd Ellis Owen, y cyfarwyddwr, a safai gerllaw.
"Nabod ein gilydd! Ellis, bachan, 'fyddwn i ddim yma 'eddi' oni bai am Jones 'ma. Ond fe 'weda' i'r stori wrthoch chi yn y cantîn. Fachgen! Jones!"
Gan fod Ted Howells yn hen gyfarwydd â darlledu, cymerodd ofal tadol o'r dyn bach yn y stiwdio, a thrwyddo ef dysgodd William Jones lawer am y gelfyddyd. Cyn gynted ag yr awgrymai llais Ellis Owen ryw welliant—a bu raid ail-lunio llawer o linellau Ben Roberts—brysiai Howells at ochr y chwarelwr i ysgrifennu ar ei sgript ac i sibrwd cyngor neu eglurhad. Yn wir, a rhan y Gogleddwr o goliar yn "Y Pwll Du" yn un go fawr, ni allai William Jones ei ddychmygu ei hun yn ei meistroli heb y cymorth hwn.
Aethant am gwpanaid o de tuag wyth, ac eisteddodd y chwarelwr nerfus gyda Howells ac Ellis Owen a dyn tawel canol oed o'r enw David Jenkins. Mynnodd Howells adrodd hanes gwrhydri William Jones yn Ffrainc, a phan ddychwelodd pawb i'r stiwdio, teimlai'r dyn bach yn anghyffyrddus: yr oedd yn amlwg yr edrychai'r actorion arno gyda pharch ac edmygedd. O'r blaen, rhyw wincio ar ei gilydd yr oeddynt, yn arbennig ar ôl clywed parodi dyn digrif o'r enw Lewis James-
"Pam, Arglwydd, y gwnaethost ei gorff a mor hir
A choesau'r hen fachgan mor fyr?"
Ond yn awr, yr oedd arwr yn eu plith. Go daria'r Howells 'na, oedd sylw William Jones wrtho'i hun.
Aeth y ddau i'r orsaf gyda'i gilydd, gan fod rhan helaeth o'u taith un trên. Adroddodd William beth o'i helynt, a chafodd yntau hanes Howells. Pa bryd y deuai Jones draw i'w weld? Beth am y Sadwrn wedyn? Campus! Byddai Olwen a'r plant wrth eu bodd.
Edrychai William Jones ymlaen at ddweud y stori wrth Grad, ond pan gyrhaeddodd Fryn Glo, Wili John a'i cyfarfu yn yr orsaf.
"Lle mae dy dad, 'ngwas i?"
"Yn 'i wely, Wncwl. Y doctor 'di bod."
"O?"
"Ma' fa 'di methu cal 'i anal am awr, Wncwl, a ma'fa mor wannad â chath."
Yn y tŷ, gwelodd ei brawd ar unwaith y pryder yn llygaid Meri.
"O, tipyn o orffwys, a mi fydd yr hen Grad yn iawn eto," meddai wrthi. Ond yr oedd ofn yn ei galon.
"Da'i ddim i fyny i'w weld o heno, Meri, rhag ofn 'i fod o'n cysgu," chwanegodd.
"Mae'n rhaid iti fynd. Clyw!" Yr oedd curo taer ar lawr y llofft.
"Sut hwyl gest ti, William?" oedd cwestiwn Crad pan aeth William Jones at ochr ei wely.
"Reit dda, fachgan. 'Wyddost ti pwy welis i yno?"
"Gwn. Ifan Siwrin!"
"Howells. Lieutenant Howells oedd hefo mi yn y Fyddin.
Ac 'rydw i'n mynd draw ato fo ddydd Sadwrn."
"Yn lle mae o'n byw?"
"Ddim ymhell o'i hen gartra yn y Rhondda. Mae o'n athro ysgol yno, ac mae gynno fo ddau o blant, y rhai dela welist ti 'rioed, yn ôl y llun ddangosodd o imi."
"Piti na chawn i dy glywad di nos 'fory, hefyd, fachgan.
Y doctor 'na am imi aros yn fy ngwely."
"Twt, paid â phoeni; 'rwyt ti wedi darllan y sgript."
Ond fe gafodd Crad wrando ar bennod gyntaf "Y Pwll Du." Daeth Wili John adref yn gynnar o'i waith gyda'r nos drannoeth.
"Be' sy gin ti, dywad?" gofynnodd ei fam.
"Set-radio. On apro. No obligeshion. Dau swllt yr wthnos"
A heb ofyn cymorth neb, cysylltodd y set â'r trydan yn y mur a hongiodd wifren ar y polyn lein a gostwng un arall i bridd yr ardd. Cyn pen awr yr oedd Crad, ar ei eistedd yn ei wely, yn fflamio rhyw ddyn a draethai'n lleddf ar ddyfodol y Seiat. Pam goblyn na rôi rhywun daw ar y creadur?
Nid oedd dim terfysglyd iawn ym mhennod gyntaf "Y Pwll Du." Darlun ydoedd o bedwar coliar a bachgen newydd adael yr ysgol am y lofa yn paratoi i fynd i'w gwaith un bore- astudiaeth ddiddorol o bum cymeriad a chefndir eu cartrefi. Yn y penodau eraill y ceid hanes y cwymp, treigl araf y dyddiau dan ddaear a phryder y ceraint ar y lan. Ond gwrandawai Crad ar bob gair o enau Ben Roberts ag awch: nid oedd wiw i neb symud llaw na throed.
"Campus, William! Y gora' ohonyn nhw, 'ngwas i. O ddigon," oedd dyfarniad y claf pan ddychwelodd yr actor.
"Chdi a Howells."
"Rydan ni'n dau yn mynd draw i'w gartra fo ddydd Sadwrn, Crad-hynny ydi, os byddi di'n teimlo'n ddigon da."
Ond ei hunan yr aeth William Jones yn gynnar y prynhawn Sadwrn hwnnw. Trigai Howells mewn tŷ cymharol newydd ar lethr werddlas, braf, a mawr oedd y croeso a gafodd y chwarelwr gan Olwen Howells a chan y plant, Ieuan a Mair. Gorweddai tipyn o barc o dan y tŷ, ac yno y treuliodd y ddau ddyn a'r plant y rhan fwyaf o'r prynhawn yn gwylio pedwar llanc yn chwarae tennis. Lle buasai hagrwch tip glo, yr oedd cwrt tennis yn awr.
Amser te, "Y Pwll Du" oedd diddordeb pennaf Ieuan a Mair. Shwd yr oedd Dada ac Wncwl yn gallu siarad yng Nghaerdydd iddynt hwy eu clywed ugain milltir i ffwrdd? Ceisiodd eu tad egluro'r dryswch, ond nid gwaith hawdd oedd ateb rhai o'r gofyniadau. Ategodd William Jones yr eglurhad gydag ambell "la" doeth, er bod yr un cwestiynau yn ei boeni yntau. Fel un o gyfeillion eu tad ar y radio yr edrychai'r plant ar Wncwl; ni wyddent ddim am y noson erchyll yn Ffrainc. Ond honno a gofiai eu mam wrth benderfynu bod yn rhaid i'r ymwelydd gymryd chwaneg o'r jam neu damaid arall o gacen. Ni wyddai William Jones sut y medrai lusgo adref ar ôl bwyta cymaint. Diar, rhai da am fwyd a chroeso oedd pobol y Sowth, yntê?
Ar ôl te, cerddodd ef a Howells i lawr i waelod y pentref i weld tad a mam yr athro. Cronnai'r dagrau yn llygaid Mrs. Howells wrth iddi ysgwyd llaw ag ef, a thaflai olwg tyner a phell tua'r mur lle'r oedd darlun hardd o'i mab mewn gwisg filwrol. Ysgydwodd William Jones ei ben a gwenodd wrth groesi'r parlwr i syllu ar y llun. Diar, fel yr aethai'r blynydd- oedd heibio, yntê, mewn difrif! Ymh'le yr oedd y bachgen a chwaraeai Rygbi erbyn hyn? O, athro yn Llundain oedd John, y mab ieuangaf. A'r ferch a enillai ar ganu mewn eisteddfodau? Yn America, yn briod a chanddi hithau, fel Ted, ddau o blant. Yn America! Tewch, da chi!
"Odych chi'n 'nabod Dai Morgan sha Bryn Glo 'na?" gofynnodd y tad.
"Rargian, ydw'. Byw drws nesa' iddo fo, ac yn perthyn i'w gôr o."
"Bachan! Cofiwch fi ato fa—Jim Hwals, yr arweinydd côr gora' yng Nghymru, gwedwch chi wrtho fa. A gwedwch fod 'da fi gystal côr ag ariôd, er bod hanner cant o'r dynon mas o waith. A gofynnwch a odi fa'n cofio'r got ros i iddo fa a'i dicin côr yn Nhre Glo? 'Na wep odd 'da Dai y nosweth 'onno, w!"
Gwrthododd William Jones aros i swper yn nhŷ Ted Howells. Pryderai am Grad, meddai, ond mynnodd Olwen iddo gymryd cwpanaid yn ei law cyn cychwyn. Brysiodd o'r orsaf ym Mryn Glo, a phwy a welai y tu allan i siop yr Eidalwr ond Wili John.
"Sut mae dy dad?" gofynnodd.
"Ma' fa mas."
"Ond 'roedd y Doctor. ... Mas ymh'le?"
"Yn nhŷ Gomer, 'wy'n credu."
"Wyt ti wedi prynu da-da at 'fory, 'ngwas i?"
"Na lle 'wy' i'n mynd 'nawr."
"Hwda. Tyd â rhai i minna'. Y rhai mint hynny."
"O.K."
Aeth William Jones yn syth i dŷ Shinc. Yno, yn y parlwr anhrefnus, dadleuai Crad na wyddai'r Comiwnyddion y gwahaniaeth rhwng trefn ac anhrefn. Yr oedd Shinc ar ei draed a'i ddyrnau yn yr awyr i wneud ei ddadleuon yn gliriach. Tybiai'r chwarelwr mai ei ddifyrru ei hun yr oedd Crad, ond ofnai iddo ddewis ffordd nad ystyriai'r meddyg yn fendithiol. Tawelwch a gorffwys fuasai ei gyngor ef.
"Ddaru'r Doctor alw pnawn 'ma, Crad?"
"Naddo, wir, William. 'Ddaeth y cradur ddim yn agos."
"Ond 'doeddat ti ddim i godi nes iddo fo dy weld di."
"Os ydi'r bôi yn meddwl fy mod i'n mynd i aros yn fy ngwely i'w blesio fo, mae o'n gwneud coblyn o gamgymeriad.
Be' 'tai o ddim yn galw am fis?"
"Ond gorffwys ddeudodd o, Crad."
"Gorffwys! Mi gysgis i drwy'r pnawn, ond ar ôl te dyma fabi Nymbar Wan—plentyn Sali Dew—yn sgrechian digon i fyddaru'r meirw, a rhyw gathod goblyn yn ffraeo yn y cefn 'cw, a rhyw ddyn bach piwis yn malu awyr ar y weiarles 'na. Gorffwys!"
Bu raid i Grad dalu am ei ryfyg drannoeth drwy aros yn ei wely yn lle mynd i'r capel. Er hynny, cafodd y gwasanaeth o Salem a phregeth Mr. Rogers—ar y radio. Ac wrth ei ddilyn, melys oedd dychmygu'r olygfa—Richard Emlyn, hogyn Shinc, wrth yr organ; David Morgan, yn ei goler galed a'i fwa du, yn taflu golwg rhybuddiol o flaen pob emyn ar ddau leisiwr anhydrin—Isaac Jones yn y Sêt Fawr a Mrs. Bowen yn un o'r seddau blaen; Idris wrth ei ochr yn gwrando'n astud ar bob nodyn a ddihangai o'r organ; Jac Jones, glanhawr y capel, yn pesychu'n uchel er mwyn i'w ferch yng Nghaerdydd ei glywed; a William Jones, rhwng Eleri a Wili John, yn credu y dibynnai llwyddiant y darllediad ar yr eiddgarwch yn ei lygaid ef.
Ond Mr. Rogers a oedd gliriaf ym meddwl Crad, a dychmygai bob ystum ac osgo o'i eiddo. Gwelai'r llygaid treiddgar yn yr wyneb tawel, cerfiedig; y pen a daflai'n sydyn y cnwd o wallt yn ôl o'r talcen; a'r bysedd hirion, nerfus, yn clymu am fin y pulpud. Nid oedd Crad yn weddïwr, ond deisyfai â'i holl natur y byddai'r gwasanaeth, a'r bregeth yn arbennig, y rhai mwyaf effeithiol a fuasai ar y radio erioed.
Y Samariad trugarog oedd testun y bregeth seml. Rhoes Mr. Rogers ddarlun byw, ond cynnil, o'r cyfreithiwr hunan-ddoeth a geisiai faglu Crist, ac yna o'r digwyddiadau a welsai neu a ddychmygasai'r Gwaredwr ar y ffordd a droellai'n serth o Jerusalem i Jericho. Aeth wedyn i sôn am Gymru. "Gwlad y Menyg Gwynion?" "Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri?" "Gwlad y Gân?" Crud yr Eisteddfod a'r Gymanfa? Cartref pregethwyr ac areithwyr mawr? Magwrfa'r athronydd a'r diwinydd? Aelwyd y crefyddwr a'r moesolwr? Efallai fod rhai o'r pethau hyn yn wir, er y credai y llithrai'r termau braidd yn rhy rwydd i'n llafar ni ein hunain. Ni bu cyfraniad y genedl, yn ei farn ef, yn un eithriadol i na llên na cherdd na dysg y byd, ac wrth iddo daflu golwg i'r dyfodol, ni welai arwyddion o'i wlad yn cyflwyno rhyw draddodiad neu fudiad arbennig iawn i genhedloedd eraill. Codai unigolion â gweledigaeth ac athrylith yn eu trem,
"Y rhai, mewn cnawd fel ninnau, ar wahân
Freuddwydiant eu breuddwydion."
Ond unigolion oeddynt. Ymh'le, ynteu, yr oedd cryfder
y genedl? Ni roddai Crist fawr o hanes y Samariad hwnnw,
ond hoffai'r pregethwr feddwl amdano fel gŵr a fagwyd gan
rieni duwiol a charedig ar aelwyd grefyddol. Hoffai gredu
iddo wrth gynorthwyo'r truan hwnnw, yn reddfol bron, heb
resymu'r peth o gwbl, gyfieithu ei ffydd i weithredoedd. Trigai
ef, Mr. Rogers, mewn cwm â'i bobl yn awr yn dlawd ac
archolledig, ond gwelai bob dydd ysbryd caredig y "cymydog"
a ddarluniasai'r Gwaredwr. Cymwynasgarwch a charedigrwydd—filoedd
o weithiau y rhyfeddasai atynt yn y cwm hwn
lle'r oedd ef yn fugail. Ond yn awr, yn y dyddiau blin, yr
oedd y rhinweddau hyn yn rhan o'u bywyd, bron mor naturiol
â'r lliwiau mewn gardd neu'r murmur yn llif yr afonig.
"Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri?" Efallai.
Ond fe wyddai fod yn y rhannau o Gymru a adwaenai ef bobl
garedig a thrugarog, gwŷr a gwragedd syml, di-lol, nad aethant
y tu arall heibio. Unwaith, flynyddoedd pell yn ôl,
canodd bardd o Iddew folawd pêr i enwogion ei genedl.
"Canmolwn yn awr y gwŷr enwog," meddai, ac aeth i sôn
yn naturiol iawn, am y llywodraethwyr a'r cynghorwyr, am y
proffwydi a'r dysgedigion, am y cerddorion a'r beirdd.
Gwŷr enwog.
"Bu rhai ohonynt hwy gyfryw ag a adawsant enw ar eu hôl,
Fel y mynegid eu clod hwynt."
Ond, yng ngeiriau bardd o Gymro,
"Fel y niwl o afael nant
Y disôn ymadawsant."
Neu, i ddyfynnu awenydd yr Apocryffa eto-
"Bu hefyd rai heb fod coffa amdanynt,
Ac a aethant fel pe nas ganesid hwynt,
A'u plant ar eu hôl hwynt."
Pobl syml a di-sôn, gwir fawredd pob cenedl. Gwelai'r pregethwr y rhai hynny mewn ambell wlad fel clai yn nwylo'r crochenydd, ac arswydai weithiau wrth feddwl am y dyfodol. Ond diolch fod y caredig a'r trugarog yn blodeuo o'n cwmpas yng Nghymru. "Eithr gwŷr trugarog oedd y rhai hyn," meddai'r bardd o Iddew, ac ni allai dalu harddach teyrnged iddynt.
"Byth y pery eu hiliogaeth,
A'u gogoniant ni ddileir."
Hoffai-yr oedd trydan ei deimlad fel pe'n goleuo llais y pregethwr-weld y wlad a garai, y Gymru hon, yn tyfu'n fawr ac yn enwog a'i meibion yn arwain y byd, ond pa orchestion bynnag a gyflawnai hi, gweddïai y cadwai, mewn llwydd ac aflwydd, mewn hindda ac mewn ystorm, harddwch yr ysbryd trugarog a oedd yn etifeddiaeth mor dda.
Arhosodd Crad yn ei wely y bore trannoeth, ond teimlai'n llawer gwell ar ôl cinio a chrwydrodd ef a William Jones i lawr y pentref am dro. Rhuthrodd Twm Edwards atynt gerllaw Neuadd y Gweithwyr.
"Otych chi 'di clywed, bois?"
"Clywad be?" gofynnodd Crad.
"Ma' pymthag o' ni 'di cal gwaith."
"Taw, fachgan! Ymh'le?"
"Yn Llan-y-bont. Ma' nhw'n mynd i gwnnu arsenal mawr yno, gwaith i filodd. Labro fydda' i, ond ma' rhai fel Seimon Jenkins y Saer 'di cal jobyn nêt. Fe fydd bws yn mynd o fan hyn bob bora ac yn ôl bob nos. 'Na dda, ontefa!"
"Arsenal?" meddai William Jones. "Be' 'di hwnnw, deudwch?"
"Miwnishons, bachan."
"Diar annwl! Ond 'on i'n meddwl mai ar gyfar rhyfal yr oedd isio llefydd felly?"
"Ia, ia, ar gyfar rhyfal y ma' nhw. Rhag ofan, 'chi'n deall. Y bachan 'Itler 'na. Ma'n bryd rhoi stop arno fa. 'Rodd Shinc yn gweud wrtho'i ..."
Ond brysiodd William Jones draw i'r Swyddfa Lafur.
Ysgydwodd y clerc ei ben. Y mae'n debyg y byddai gwaith ymhellach ymlaen, ond yr oedd yn rhaid cael yr adeiladau'n barod yn gyntaf, a chawsant ddigon o ddynion i hynny.
Efallai yr hoffai Mr. Jones alw ymhen rhyw fis?
Pan ddychwelodd at y ddau, dywedai Crad hanes ei bwl o afiechyd wrth Twm.
"Twt, 'dyw'r doctoriaid 'ma'n dda i ddim," oedd barn y dramaydd. "Pam nad ei di i lawr at yr hen Watkins i Ynys-y- gog, Crad? Ma' fa'n gallu gwneud gwrthia', bachan. 'Odd cefnder i gnither i fi yn 'oples cês—dau spesialist 'di rhoi 'mish iddo fa i fyw. Ond fe ath at Watkins, a 'nawr ma' fa'n O.K. Canser, a dau spesialist 'di rhoi ..
"Lle mae o'n byw?" gofynnodd William Jones.
"Watkins? 'Ych chi'n gwpod y ffordd sy'n troi lan at yr hen eclws yn Ynys-y-gog? Ma' 'na dŷ mawr coch hanner y ffordd, ar y llaw dde. Fe etho' i â'r wraig 'co yno pan odd hi'n dost 'da'i stwmog, a bachan, 'odd hi'n byta steak and chips cyn pen wthnos. Ffact."
"Ydi o'n ddrud?" gofynnodd Crad.
"Drud! Punnodd ar bunnodd 'odd Lizzie 'co 'di'u talu i'r Doctor 'ma, ond dim ond pedwar a 'wech gwnnws Watkins arna' i."
"Be' mae o'n roi i rywun sâl?" gofynnodd William Jones.
"Llysia??"
"Llysie' a phils a ffisig. Ma' pob math o stwff 'da fa. Cera draw i'w weld a, Crad. 'Bryn Gobeth'-'na enw'r tŷ. Jiw, ma' fa'n sgolar, bachan!"
"Fyddi di ddim gwaeth o'i drio fo," meddai'r chwarelwr ar ôl i Dwm Edwards eu gadael. "Be' am gymryd te go gynnar a dal y trên pump? Mi fûm i'n codi arian bora."
"Twt, rêl cwac ydi o, William. Yr ydw i wedi clywad am y dyn."
Er hynny, daliodd y ddau y trên, ac wedi cyrraedd Ynys-y- gog, aethant ar hyd y ffordd wledig a ddringai tua'r hen eglwys. Ar ôl rhyw hanner awr o gerdded araf, safent o flaen y tŷ mawr o briddfeini coch. "Bryn Gobaith," meddai'r llythrennau aur uwch y drws.
"A! Dau druan mewn ymchwil am feddyginiath! Croeso, fy nghyfeillion! Croeso i Fryn Gobaith!"
Ni wyddent am funud o b'le y daethai'r llais, ac yna gwelsant ddyn tal a thew yn camu at y ddôr ar hyd llwybr yr ardd.
"Y ffordd hyn, bererinion yn yr anial, y ffordd hyn!"
Dilynasant ef drwy'r ardd i ddrws yng nghefn y tŷ. "Llais Ifan Siwrin, myn coblyn," sibrydodd Crad. Ac yr oedd y dyn yn debyg i Ifan Davies, ond ei fod yn dewach o lawer a'i ben yn foel.
Aeth â hwy i mewn i ystafell braf yn edrych i lawr ar y caeau gwyrddlas rhyngddynt ac Ynys-y-gog. Eisteddodd Crad a William Jones wrth y lle tân a'r dyn wrth y bwrdd. Edrychodd arnynt tros ei sbectol fawr, ac yna agorodd lyfr- ysgrifennu o'i flaen. Rhoes ei ddannedd-gosod wên. "Yn awr 'ta'. Un yn dioddef oddi wrth ei nerfau a'r llall oddi wrth ei frest. Nerfau newyniaethus, ysgyfaint â dwst y garreg yn gronic ynddynt. Diagnosis cywir, onid e?"
"Dŵad yma yr oeddan ni, Mistar Watkins ..." Eisteddai William Jones yn ansicr ar fin ei gadair.
"Doctor Watkins, if you please."
"Ia. y... Doctor Watkins. Dŵad yma yr oeddan
"Mens sana in corpore sano."
"Y?"
"Gair mawr yr hen Rufeinwyr, fy nghyfaill. Ac ychydig a ddysgodd y byd er eu dyddiau hwy. Eich nerfau, onid e, fy ffrind?"
"Na, yr ydw i'n o lew, diolch, ond mae Crad 'ma ..."
"Mor ddall yr ydym! Mor ddiweledigaethus! Sefwch am funud, fy nghyfaill ... Diolch. Yn awr, eich llaw dde allan, gan bwyntio at y llun acw ar y mur. .. Da iawn. Yn awr, sefwch ar un droed ... Da, fy nghyfaill; da, fy ffrind..."
"Ond dŵad yma
"Yn awr, caewch eich llygaid ... Da, fy nghyfaill. Ac yn awr rhowch eich bys cyntaf ar flân eich trwyn.'
Wrth geisio ufuddhau, collodd William Jones ei gyd- bwysedd a suddodd yn ôl yn drwsgl i'w gadair.
"A! Onid y gwir a ddwedais i? Ewch â'ch meddwl yn ôl fy nghyfaill. A fuoch chwi, yn weddol ddiweddar, mewn rhyw sefyllfa straeniaethus?"
"Mewn be'?"
"Rhyw sefyllfa a odd yn dreth ar eich nerfau. Ceisiwch feddwl, fy ffrind."
Cofiodd William Jones am ei ymweliad â'r B.B.C.
"Wel, do, mi fûm i'n ..."
"Campus, fy nghyfaill. Ac yr oedd eich llwnc a'ch genau'n sych?"
"Wel, oeddan', ond dwad yma yr oeddan ni ..."
"A'ch llaw yn crynu?"
"Wel, oedd, ond ..."
"Y Great Sympathetic, fy ffrind."
"Y be'?"
"Y Great Sympathetic Nervous System yn ddiffygiol, yn dlawd, yn waniaethus, fy ffrind. Y mae Natur, fy nghyfaill, y mae Natur yn eich rhybuddio, yn gofyn i chwi, yn gofyn yn daer i chwi, gymryd gofal. A phan siarada ei llais hi ..."
"Ond dwad yma ..."
"A phan siarada ei llais hi, y mae clust y doeth yn astud wrandawol. Ond na thrąlloder eich calon. Y mae Doctor Watkins at eich gwasanaeth, y cymorth hawdd ei gael mewn ..
"Fi ydi'r dyn sâl," meddai Crad, "nid William. A Great Sympathetic ne' beidio, yr ydan ni am ddal y trên saith 'na."
Gwelodd y dyn fod Crad o ddifrif ac yn ŵr go anhydrin. Penderfynodd ei ddychrynu.
"Colier â'ch brest yn wan, ontefa, fy ffrind?"
"Ia, ac mi ddaethon ni yma gan feddwl ... "
"Y llwch ar furiau'r ysgyfaint fel y mortar acw ar y mur. A'r corff druan, sy'n dibynnu ar yr awyr iach a rydd Natur iddo, yn teneuo a gwanychu bob dydd, bob awr. Dewch i'r ffenestr yma am funud, fy nghyfaill." Cododd Crad a chroesodd at y ffenestr. "Beth a welwch chwi wrth gefan y ffermdy acw?"
"Ceffyl a dwy fuwch."
"Cywir, fyffrind. Ac onid oes golwg dda arnynt hwy? Mwy o fwyd, medd y meddygon wrth eich gwraig, onid e? Mwy o laeth a hufan ac wyau a ffrwythau, os gallwch chwi fforddio'r pethau hynny. A roddir llaeth a hufan ac wyau a ffrwythau i'r anifeiliaid hyn? Neu i'r ŵyn a'r defaid ar y mynydd acw?
A roddir hwy, fy nghyfaill?"
"Na, ni roddir y pethau hyn iddynt hwy," oedd ateb Crad gyda winc ar ei frawd yng nghyfraith.
"A welsoch chwi ddafad yn hongian yn siop y bwtsiwr? Do? A'r braster yn dew arni, ontefa? O b'le y daeth y braster 'wnnw? Ni fwytaodd y ddafad eich cigoedd a'ch wyau a'ch ffrwythau, dim ond y borfa las, ac yfed yr awyr iach ar y brynia'."
"Falla' y dylwn inna' fynd i bori am fis," oedd sylw amharchus Crad.
"Ond yn awr, gan eich bod chwi am ddala'r trên ... Brysiodd y dyn ar draws yr ystafell a thrwy'r drws. Clywent ei sŵn ymhlith ei boteli ymhen ennyd.
"Aros di imi gal gafal yn y Twm Edwards 'na," hisiodd Crad.
"Be' ma' Twm wedi'i wneud iti 'rŵan?"
"Mi ro'i steak and chips iddo fo! Y tebot!"
"Ond 'wyddost ddim, 'falla' fod gan y dyn 'ma ..."
"Athrylith, William, athrylith! Yn Saesneg, genius. Yn iaith Wili John, boloney. Mi fasa' wedi gwneud plisman bendigedig yn nrama Twm. Digon o lais a digon o giamocs. 'Dydi'r ffaith fy mod i'n sâl ddim yn rhoi hawl i bob ffŵl drio'i law ar fy ngwella i a stwnsian fel y mae hwn."
"Ond mi ddeudodd o'r gwir amdanat ti."
"Hawdd iawn iddo fo."
"O?"
"Mi ddeudodd fy mod i'n goliar. Y marcia' glas 'ma ar fy nhalcan i yn gweiddi hynny, 'ngwas i. Mi ddeudodd fod fy mrest i'n wan. Mi fedra' dyn dall gasglu hynny dim ond iddo wrando ar y fegin o frest sy gin i. Mi ddeudodd fy mod i'n dena'. Mi welodd hynny trwy a thros 'i sbectol."
"Sh!"
Dychwelodd y "Doctor."
"Y rhai hyn i chwi," meddai wrth William Jones, gan estyn blwch crwn iddo. "Cymerwch bump bob dwyawr, pump bob dwyawr."
"Diolch." A thynnodd y dyn bach ei bwrs allan.
"Yn awr eich achos chwi, fy nghyfaill," meddai wrth Grad.
"Y rhai hyn," gan roi blwch crwn arall ar y bwrdd, "ar ôl pob pryd. Y rhai hyn," gan daro blwch hirgul wrth ochr y cyntaf, "wedi deffro yn y bora a chyn cysgu'r nos. A'r rhai hyn bob dwyawr."
"Dim, diolch."
"Beth, fy nghyfaill?"
"Dim, diolch. Dydw' i ddim isio'r un o'r petha'."
"Ond, Crad!. Cododd William Jones yn frawychus o'i gadair.
"Tyd, William, mae'n bryd inni fynd am y trên."
"Ond ...'
"Tyd, ne' mi fydd rhaid inni aros awr a hannar am y trên wedyn."
"'Faint sy arnon ni i chi, Doctor?" gofynnodd y chwarelwr yn frysiog, gan deimlo y gwaeddai ei nerfau am ddogn o'r feddyginiaeth yn y blwch.
"Pedwar a 'wech, fy nghyfaill."
Daeth o hyd i'r arian a brysiodd ar ôl Crad. Cerddodd y ddau yn dawel ar hyd y ffordd.
"Crad?" meddai William Jones o'r diwedd.
"Ia, William?"
"Fydda' ddim yn well i ti. ... 'Fydda' ddim yn well i ti...?"
"Be'?" "Gymryd y pils 'ma. 'Falla' .. . 'falla' y gwnân' nhw les iti, wsti, oherwydd ..."
"Diolch, William.' A chymerodd Crad y blwch.
Aent heibio i'r ffermdy lle'r oedd y ceffyl a'r ddwy fuwch.
"Wyt ti'n gweld cynffon y fuwch goch 'na, William? 'I nerfau hi, wel'di." Ac ysgydwodd Crad ei ben yn drist.
"Trio hel y pryfad i ffwrdd y mae hi, Crad."
"Ond y mae'r fuwch arall yn reit llonydd. Na, 'i nerfau hi, William, 'i nerfau hi, 'ngwas del i."
Caeodd Crad fotwm ei gôt ag un llaw, ac yna camodd yn ôl a chodi ei fraich. Nofiodd y blwch crwn drwy'r awyr a disgynnodd wrth drwyn y fuwch goch.
"Good shot, yntê William!"
Ni wyddai William Jones pa un ai gwenu ai dweud y drefn a oedd ddoethaf. Ni wnaeth yr un o'r ddau, dim ond brysio ymlaen i gyfeiriad yr orsaf. Pa stori a ddyfeisient ar gyfer Meri, tybed? Y "Doctor" heb un math o feddyginiaeth at yr anhwyldeb a flinai Crad? Ia, fe wnâi'r esgus hwnnw.
Trannoeth, yn y prynhawn, derbyniodd lythyr oddi wrth Tom Owen, y Stiward, yn canmol ei waith ar y radio ac yn holi ei helynt. Mawr oedd y sôn am "Y Chwarelwr," ac rychai pawb ymlaen at benodau eraill "Y Pwll Du." Gwel- sai Tom Owen yn y papur hefyd mai William Jones fyddai'r holwr yn y gyfres o sgyrsiau, "Holi ac Ateb," a oedd ar gychwyn. Cofiai ei hen gyfeillion yn y chwarel ato'n fawr iawn, ac ef oedd testun llawer sgwrs yn y cabanau. Wedi chwaneg i'r un perwyl, "Ni wn beth yw eich cynlluniau yn awr, meddai'r llythyr, "ond os penderfynwch droi'n ôl i'r chwarel, bydd yn bleser gennyf wneud yr hyn a allaf trosoch." "Chwara' teg iddo fo!" oedd sylw Meri a Chrad pan ddangosodd y llythyr iddynt. Yna aeth William Jones a Mot am dro i fyny'r mynydd, ac eisteddodd cyn hir ar y ddaear gynnes i syllu ar draws y cwm. Yr oedd yn hen gynefin bellach â chroen anafus y llethr ac â hunllef y tip yn ymgreinio uwchben. Yn araf, fel yr edrychai, llithrodd tawch ysgafn dros yr olygfa ac ymwthiodd darlun arall i'r golwg drwyddo. Gwelai doeau tai a chapeli a thŵr eglwys Llan-y- graig yn ymffurfio yng ngwaelod y tawch, ac uwchlaw iddynt y llwybr melyngoch a ddringai tua'r chwarel. Chwaraeai'r awel yn y coed uwch Afon Gam a chrwydrai rhyw bysgodwr araf tua'r Pwll Dwfn yn is i lawr. Deuai sŵn plant o'r caeau gerllaw, a gwelai Gwen a Megan a Meurig, plant yr Hendre, yn cael hwyl yn y cynhaeaf gwair, a Thwm Ifans, eu tad, yn dweud y drefn wrth Gymro, y ci. Ciliodd y tawch, a syllodd William Jones eto ar Fryn Glo a'r llethr ddi-goed a thywyllwch y tip. "Ia, wir, Mot," meddai'n freuddwydiol, a chododd y ci ei lygaid mawr brown a gwthio'i drwyn yn ddeallgar i'w law.
Wrth gwrs, byddai'n rhaid iddo aros am rai wythnosau eto ar gyfer "Y Pwll Du" a'r "Holi ac Ateb" 'na a oedd i gychwyn ymhen pythefnos. A soniasai Howells fod y dyn a ofalai am Awr y Plant yn bwriadu cynnig rhan iddo mewn rhyw gyfres o ddramâu. Beth oedd enw'r gyfres, hefyd? Ni chofiai, ond clywsai mai helyntion nifer o deganau mewn ffenestr siop oedd y deunydd, ac mai milwr bach coch a syrthiasai oddi ar silff a thorri ei goes fyddai ef... Ac wedyn, fe fyddai'n rhydd i droi'n ei ôl.. Sut hwyl a gâi Bob ar ei fargen newydd, tybed? Cerrig rhywiog, meddai yn ei lythyr diwethaf... A ddaliai'r hen Ddafydd Morus i gludo'i gath i'r chwarel bob dydd? A John Williams i 'falu am ei ieir? . Ia, wir... Rhoddai ffatri arfau Twm Edwards a'i griw waith i filoedd... Ond dyna fo, yn y chwarel yr oedd ei le ef, yntê? Ac yr oedd hi'n hen bryd iddo ddychwelyd yno at yr hen hogia'. . Oedd, 'nen' Tad.... Nid gwaith hawdd fyddai gadael Bryn Glo, a methasai wneud hynny unwaith. Ond tipyn o deimladrwydd a ddaethai trosto y tro hwnnw, y ffwl gwirion iddo fo.. Chwarae teg i'r B.B.C., talent arian reit dda a medrai roi pres i Feri cyn mynd... Medrai. Byddai'n siŵr o deimlo'n chwithig am amser ar ôl blwyddyn yn y Sowth fel hyn, a hiraethu am Eleri a Wili John a Meri... A'r hen Grad. ... Ia, wir.... Na, ni hoffai'r olwg ar Grad, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef... A beth pe ...? Twt, codi ysbrydion oedd hel meddyliau felly. Ni ddigwyddai dim i Grad; cawsai byliau fel hyn o'r blaen, a dyfod trostynt. Ond, dim ond er mwyn dadl, dim ond fel damcaniaeth ... Ia, wir... Cyfarthodd Mot gan awgrymu iddo flino ar fod yn ei unfan gyhyd. Cododd William Jones.
"O'r gora', Motsi Potsi, mi awn ni. A 'wnawn ni ddim gadal yr hen Grad, 'wnawn ni?" Pranciodd a chyfarthodd y ci mewn llawenydd mawr. "Dim peryg'! 'Tasa' nhw'n cynnig job i ni fel Jineral Manijar, a'r hen Grad yn sâl, mi fasan ni'n deud wrthyn' nhw am fynd i ganu, on' fasan, 'ngwas i?"
Yr oedd hi'n amlwg y cytunai Mot.