William Jones (Nofel)/Pennod 4 - Golden Streak

Pennod 3 - Amynedd William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 5 - Deud Gwd-bei

PENNOD IV

GOLDEN STREAK

"GŴR mwyn" y gelwais i William Jones, onid e? Credaf fod y disgrifiad yn un cywir a theg, ond yn wir, wrth imi fanylu ar ei hanes cythryblus, y mae'n rhaid imi gyfaddef bod cysgodion o amheuaeth yn tueddu i grynhoi yn fy meddwl. Efallai am fod y gair drwg a ddefnyddiodd cyn troi i'w wely wedi rhoi ysgytiad go arw imi.

Disgwyliwn i'r "gŵr mwyn" fynd ar ei liniau wrth ei wely a chrefu am faddeuant iddo ef ei hun ac i'w wraig. Hoffwn pe medrwn gofnodi hynny, ond y mae'n rhaid imi gadw at y ffeithiau. Na, yn syth i'w wely, gan deimlo'n ffyrnig at y byd a'r betws, yr aeth William Jones. Gwelai, drwy'r ffenestr, aur a phorffor y machlud ym mhellterau nef y gorllewin, ond ni chymerodd yr un sylw o ogoniant yr hwyrddydd. Gorweddodd ar ei ochr dde, yna ar ei gefn, yna ar ei ochr chwith, ond ni allai gysgu. Arhosodd Leusa i lawr yn o hwyr, yn mwynhau rhyw nofel Saesneg am wraig a chanddi gariad ar y slei, a chymerodd ei gŵr arno chwyrnu'n groch pan ddaeth

hi i'w gwely. Syrthiodd Leusa i gysgu ar unwaith, gan freuddwydio am Ronald Colman yn ei hachub o grafangau William Jones, ac aeth y gŵr mwyn ac amyneddgar wrth ei hochr ati i gyfrif defaid. Yr oedd wedi corlannu dau gant tri deg a naw pan ddechreuodd genau Leusa gynhyrchu sŵn go angherddorol. Chwyrnu yw enw'r sŵn pan ddaw o enau dynion, ond gan na chwyrnodd un ferch erioed, ni ddyfeisiwyd enw arno pan fo'n deillio o'i genau hi. Collodd William Jones ei afael yn y ddafad nesaf, ac aeth y cwbl i gyd, fel defaid William Morgan, ar grwydr. Bodlonodd wedyn ar gyfrif tipiadau'r cloc, ond yr oedd anadlu trwm Leusa fel pe'n mynnu gwrthod cadw amser gyda'r cloc.

Ia, peth hawdd oedd bygwth mynd i'r Sowth, ac nid rhyfedd bod Ifan Siwrin yn chwerthin am ei ben. Beth a wnâi ef yn y Sowth, yng nghanol y paganiaid powld a swnllyd a oedd yn byw ar draws ei gilydd yn hagrwch cymoedd culion? Eto, rhoddai Meri ei chwaer air da i Fryn Glo, y lle a ddewisasai hi a Chrad a'r plant i fyw ynddo. Ond heb waith yr oedd cannoedd yno, a Chrad yn eu plith, a heb waith, efallai, y byddai yntau ped ai. Efallai? Na, byddai'n fwy na thebyg, gan na wyddai ef ddim am dorri glo. Ac eto ...

Clywodd gloc y gegin yn taro un o'r gloch. Beth a wnâi Now John Ifans yn y Sowth, tybed? Twt, ni fyddai'n ddim gan hwnnw gardota hyd yr ystrydoedd ond iddo gael arian i yfed. Ond ni allai ef, William Jones, fyw bywyd felly. Na, ffolineb oedd bygwth fel y gwnaethai: fe wellhâi pethau yfory, byddai Leusa'n diwygio, a'i fyd ef yn llawer esmwythach. Llithrodd i gysgu cyn hir, a breuddwydiodd fod Ifan Siwrin yn ei arwain fel mwnci wrth gadwyn drwy gwm poblog yn y Sowth. Dilynid hwy gan dyrfa fawr yn chwerthin am ei ben ac yn taflu wyau drwg ato. Crechwen Leusa oedd yr uchaf, a gwelai hi yn ymwthio drwy'r dorf ac yn lluchio dyrnaid o chips i'w wyneb. Deffroes, yn chwys i gyd, i wrando ar y cloc yn taro pedwar ac ar Leusa'n dal i anadlu'n swnllyd wrth ei ochr.

Wedi rhyw awr o droi a throsi penderfynodd godi. Rhuthr gwyllt oedd hi arno ef bob bore fel rheol, a dyma gyfle, meddai wrtho'i hun, i baratoi brecwast blasus a chymryd amser i'w fwynhau ac i gael mygyn braf uwch cwpanaid o de. Chwarter wedi pump, meddai cloc y gegin. Wedi cynnau tân a chludo'r pethau i'r bwrdd, eisteddodd yn y gadair freichiau i aros i'r tegell ferwi. Rhyfedd fel y collasai'r gegin ei graen yn ddiweddar! Cofiai'r cadeiriau a'r dresel a'r jygiau copr arni a'r canwyllbrenni ar y silff-ben-tân, y cwbl yn sglein i gyd. Ond yn awr, llwch ar bopeth. Hylô, onid arferai pum pâr o ganwyllbrenni addurno'r silff-ben-tân? Nid oedd ond tri yno yn awr, ac yr oedd ef yn berffaith sicr ... O, Leusa wedi eu rhoi o'r neilltu, y mae'n debyg... Gormod o waith i'w glanhau—er nad oedd llawer o ôl rhwbio ar y rhai hyn. Ac eto ... Torrodd fara-ymenyn ac yna trawodd ddarn o gig moch yn y badell ffrio. Os na chodai Leusa i wneud bwyd iddo yn y bore, fe ofalai ef amdano'i hun. O, gwnâi. Penderfynodd gael wy hefyd, ond er dyfal chwilio yn y gegin fach ac yn y cwpwrdd dan y grisiau, ni ddarganfu un. Dim gwahaniaeth, dim ods o gwbl.

Yr oedd ar ganol ei frecwast pan chwalwyd y distawrwydd gan sŵn y cloc-larwm yn y llofft. Gwenodd. Ni wnâi ddrwg i Leusa gael ei hysgwyd allan o'i chwsg swnllyd. Cig moch da. Pur flasus. Clywodd gamau brysiog yn dod i lawr y grisiau, ac agorodd ei lygaid yn llon. Leusa yn diwygio o'r diwedd!

"Be' sy?" gofynnodd hi pan ddaeth i mewn i'r gegin yn ei choban.

"Y?"

"Yr hen gloc 'na yn fy neffro i, a dim golwg ohonat ti yn y llofft."

"Mi godis i cyn i'r larwm fynd."

"Pam na fasat ti'n symud y nobyn ar ben y cloc 'ta'? A'r doctor wedi deud wrtha'i..."

"Doctor?"

"Mi es i ato fo'r diwrnod o'r blaen. Peidio ag ecseitio, medda' fo."

"O."

Troes yn ei hôl tua'r grisiau, gan daflu ei phen a cheisio ymddangos yn urddasol yn ei choban.

"Leusa!"

"Ia?"

"Sawl pâr o ganwyllbrenni oedd gynno' ni ar y silff-bentân ma?"

"Pump."

"Dim ond tri sy 'na 'rwan."

"Gormod o waith llnau arnyn nhw o lawar.'

"Lle mae'r lleill?"

"Mi gwerthis i nhw."

"O? I bwy?"

"I ryw ddyn o Fangor ddaru alw yma. 'Roedd o isio prynu'r dresal, ond mi wrthodis i. Dyn clên iawn." A difannodd Leusa i fyny'r grisiau.

Torrodd William Jones frechdanau ar gyfer ei dun-bwyd yn hamddenol, a chwiliodd eto yn y gegin fach ac yn y cwpwrdd dan y grisiau am rywbeth blasus i'w roi rhyngddynt. Tamaid o gaws go sych oedd ffrwyth yr ymchwil.

"Be' sy hiddiw, William?" oedd cwestiwn Bob Gruffydd iddo yn y wal wedi ysbaid hir o dawelwch rhyngddynt.

"Dim byd. Pam?"

"Dy weld di'n o dawal a phell, fachgan. 'Ydi'r hen ddannodd 'na yn dy boeni di?"

"Ddannodd?"

"Huw Lewis yn deud dy fod ti isio tynnu dy ddannadd. Ac isio imi dy berswadio di i fynd at Huws Dentist. Ond gair go sâl ydw i'n glywad i hwnnw, wir. Mae'r dyn yn yfad yn o drwm, meddan nhw."

"Yr ydw i'n drofyn mynd ers tro, Bob. Ond i Gnarfon yr a 'i, mae'n debyg. Maen nhw'n fy mhoeni i'n o arw hiddiw." Rhoes Robert Gruffydd y gyllell-naddu heibio a chododd oddi ar y drafel.

"Wyt ti am ddŵad i lawr i'r twll, William?"

"Mi ddo'i ar dy ôl di, Bob, wedi imi orffan hollti'r clytia' yma.

"O'r gora'."

Tawelwch feddwl a geisiai William Jones. Beth arall a roes Leusa i'r dyn hwnnw o Fangor, tybed? Pam y cuddiasai hi'r peth rhagddo ef? Cofiai mor falch oedd ei fam o'r canwyllbrenni hynny ac fel y glanhâi hwy'n gyson. Dyna a drawai ddyn pan ai i mewn i'r gegin—y triongl hardd o ganwyllbrenni ar y silff-ben-tân. Pam y gwerthasai Leusa hwy? Rhoddai ef arian da iddi bob wythnos—yn wir, ei gyflog bron i gyd—ac ni wariai hi lawer ar fwyd iddo ef, yr oedd hynny'n amlwg ddigon.

"Wedi gwneud eich meddwl i fyny, William Jones?" Huw Lewis a oedd wrth geg y wal.

"Am be', Huw?"

"Y dannadd 'na."

"Wel, naddo, wir, fachgan. Maen nhw'n ..."

"Mi fydda' i'n gweld Huws heno, mae'n bur debyg. 'Fasach chi'n licio imi wneud apwyntment i chi? Be' am nos Lun?"

"Wel, na, yr ydw i am ohirio'r peth, Huw. Mae'r boen wedi mynd, fachgan, ac mae'n well imi ..."

"Gadewch imi gael 'u gweld nhw." Ac aeth Huw ar ei gwrcwd o flaen William Jones.

"Y nefoedd fawr!" meddai mewn dychryn pan agorodd y gwr â'r ddannoedd ei geg.

"Be', Huw?"

"Paiarïa!"

"Y?"

"Paiarïa." Ac ysgydwodd Huw ei ben yn drist, gan edrych fel un a welai ŵr condemniedig ar ei ffordd i'r grocbren.

"Be' 'di hwnnw, Huw?"

"Gadwch imi 'u gweld nhw eto, William Jones."

Rhythodd ar y dannedd, ac yna rhoes ebychiad o ryddhad.

"Dydi hi ddim yn rhy hwyr," meddai. "Gwenwyn ydi'r paiarïa 'na, ond 'dydi o ddim wedi cal gafal yn eich cês chi. Mi fyddwch yn iawn, William Jones, ond i chi 'u tynnu nhw ar unwaith. Mi wna' i apwyntment i chi ar gyfar nos Lun os medar Huws eich ffitio chi i mewn. Peth ofnadwy ydi'r paiarïa 'na, wyddoch chi. Pobol yn marw hefo fo bob wsnos a nhwtha' ddim yn gwbod 'i fod o arnyn nhw. 'Roedd Huws yn deud wrtha'i..."

"Mae'n rhaid imi fynd i'r Cwarfod Gweddi nos Lun, Huw."

"O. Nos Fawrth 'ta'."

"Na, yr ydw i wedi ... wedi addo rhoi help i Bob 'ma i ... i drwsio'r tŷ."

"Wel, mi siarada'i hefo Huws heno i weld pryd y medar o'ch ffitio chi i mewn. Mi ro'i wbod i chi fora Llun, William Jones."

"Dyna chdi, fachgan."

Wedi i Huw Lewis ei adael, suddodd eto i fyfyr dwys. Oedd, yr oedd pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn ei hanes ef a Leusa, ac yr oedd hi'n hen bryd iddo wrthryfela, taro'i ddwrn ar y bwrdd, dangos ei awdurdod, rhoi ei wraig yn ei lle. Cofiai'r tro hwnnw yn y fyddin pan ddywedodd wrth y sarsiant am feindio'i fusnes. Disgwyliasai gael wythnos o garchar am ei haerllugrwydd, ond ni wnaethai'r sarsiant ond agor ei geg ac yna troi ymaith fel un a welsai ddwsin o ysbrydion. Dyna'r ffordd i drin rhywun fel Leusa, yn lle rhoi i mewn iddi o hyd, o hyd. Pan âi adref heno...

Yr oedd hi'n "greisis," chwedl y pregethwyr, yn hanes William Jones. Darllenais rywdro yn rhywle am hen fynach yn ei gau ei hun yn ei gell i droi a throsi'n noethlymun ar wely o ddrain. Felly y teimlai William Jones yn unigrwydd ei wal, er bod trowsus melfared a chrys gwlanen amdano. Ei feddyliau ef a droai ac a drosai'n ddiorffwys, a holltai'r clytiau o gerrig yn beiriannol hollol, gan nodio'n freuddwydiol ar hwn a'r llall a âi heibio ar eu ffordd i'r twll. Cododd oddi ar ei blocyn o'r diwedd yn benderfynol o ddangos i Leusa pwy oedd pwy a be' oedd be'.

Teimlai'n sychedig, a phenderfynodd fynd i'r caban am ddiod o ddŵr: câi air hefyd â'r hen Ddafydd Morus a ofalai am y lle. Dyna i chwi gymeriad! meddai William Jones wrtho'i hun ar ei ffordd drwy'r bonc. Trigai'r hen frawd ar ei ben ei hun ar fin y pentref, a thalai'r gwaith gyflog bychan iddo am ofalu am y caban: derbyniai hefyd geiniog y pen yr wythnos gan aelodau'r caban. Fel "Dafydd Gwen" yr adwaenai pawb ef, gan mai ei gwmni gwastadol oedd ei gath, Gwen. Cludai hi i'r chwarel bob dydd mewn basged o dan ei fraich, a siaradai â hi o fore tan nos. Cafodd William Jones ef yn pwyso ar goes ei frws llawr ac yn siarad â Gwen a eisteddai ar gongl un o'r byrddau: gan fod yr hen frawd yn bur drwm ei glyw, ni chlywsai'r sŵn traed yn nrws y caban.

"Waeth gin i be' ddeudi di," oedd y geiriau a ddaeth i glustiau William Jones, "ond 'tydi'r byd 'ma ddim yn mynd yn well wrth fynd yn waeth. 'Ydi o?" Ni wyddai'r gath. "Faint oedd yn y Cwarfod Gweddi nos Lun? Y?" Ni chofiai Gwen. "Wel, mi ddeuda' i wrthat ti. Deg. Ar hugain? Naci, dim ond deg. A 'doedd dau o'r rheini ddim yn cyfri'. Dŵad yno i ganu'r organ yr oedd hogyn Dic Jones, a dŵad i agor a chloi'r capal yr oedd Ned Williams. A 'faint oedd yn y Seiat?" Collasai'r gath bob diddordeb a mynd ati i lyfu ei phawen. "Gwranda di arna' i pan ydw i'n siarad hefot ti, 'rûan. Gofyn yr oeddwn i 'faint oedd yn y Seiat, yntê? Tri ar ddeg, ac 'roedd 'na bedwar o blant ymhlith rheini. A dyma iti gwestiwn arall. Be' ddaw o'r capal ymhen ugain mlynadd? Y? 'Wyddost ti ddim? 'Wn inna' ddim chwaith. Ond paid ti â meddwl mai'n capal ni ydi'r unig un sy fel 'na. O, na. Mae hi'r un fath yn Hebron ac yn Siloh. A be' ydi'r risŷlt? Mi ddeuda' i wrthat ti. Pobol yn anwadal—dim dal ar neb. Dyna ti'r John Wilias 'na yn addo dwad â benthyg 'Yr Herald' imi ddydd Mawrth. Pa ddiwrnod ydi hi hiddiw? Y? Wel, mi ddeuda' i wrthat ti. Dydd Gwenar. A welis i ddim golwg o'r papur eto ..." Aeth William Jones i'r caban, gan gymryd arno mai newydd daro i mewn yr oedd.

"Ga' i ddiod o ddŵr gynnoch chi, Dafydd Morus?" "Mi gei di rywbath gwell na dŵr, William, 'machgian i." A thynnodd jwg a chwpan i lawr oddi ar silff. "Diodo lemonêd. Mi fydda' i'n dwad â dau lemon hefo mi i'r chwaral yn reit amal yn yr ha' fel hyn. ... 'Wyt ti'n 'i licio fo?"

"Reit dda, wir, Dafydd Morus."

"Ron i'n clywad dy fod ti'n hwyr at dy waith ddoe. Cysgu'n hwyr, William?"

"Y cloc-larwm ddaru stopio, ac mi gysgis tan nes oedd hi wedi'r caniad."

"O. Y wraig hefyd, William?"

"Ia. 'Dydi hi ddim hannar da."

"Y?"

"Ddim hannar da," gwaeddodd William Jones yng nghlust yr hen ŵr.

"Taw, fachgian. Nid 'i chalon hi, gobeithio?"

Nodiodd William Jones, ac yna ysgydwodd ei ben yn drist. "Cymar di ofal ohoni hi, William, 'machgian i. Yntê, Gwen fach? Dyna oedd ar Elin, y ferch 'cw, a finna'n deud y drefn wrthi hi am fethu fy neffro i amball fora. Mi rois i dafod iddi hi y bora y bu hi farw, wsti. Ond 'wyddwn i ddim 'i bod hi'n sâl, na wyddwn, Gwenno? 'Tasa' hi wedi mynd at y doctor yn lle diodda'n dawal... 'Gymeri di ddiferyn arall, William?"

"Dim, diolch, Dafydd Morus."

Dychwelodd i'w wal ac aeth ymlaen â'i hollti, er iddo fwriadu mynd i lawr i'r twll at ei bartner. Beth a ddywedasai'r doctor yna wrth Leusa, hefyd? Dweud wrthi am beidio â'i chyn- hyrfu ei hun, onid e? Daeth i'r casgliad cyn bo hir fod calon Leusa'n un bur wan, ac nad oedd yntau'n un hawdd iawn i fyw gydag ef, ac mai ei ddyletswydd oedd mynd â hi am dro Landudno drannoeth. Erbyn hanner dydd, pan ganodd y corn ac y daeth Bob Gruffydd i'r wal o'r twll, teimlai'n addfwyn ac edifeiriol iawn. Cofiasai hefyd fod gan Leusa bob math o boteli yn y llofft-pils at y peth yma, tabledi at y peth arall, ffisig at hyn, balm at y llall. Oedd, yr oedd yn rhaid bod Leusa'n bur wael.

"Hylo, yr hen Bob!" meddai wrth ei bartner, yn hynod garedig a chroesawgar. Edrychodd hwnnw arno â'i am- rannau'n crychu mewn syndod. "Wyt ti'n dŵad i'r caban, William?" gofynnodd.

Un tawel a myfyriol uwchben ei fwyd yn y caban oedd William Jones fel rheol, ond, a'r weledigaeth newydd yn goleuo'i feddwl ac yn cynhesu ei galon, rhoes glust astud a llygaid effro i bopeth o'i amgylch. Dangosodd ddiddordeb eithriadol, er enghraifft, yn helyntion ieir John Williams, a manteisiodd John ar hynny i adrodd wrtho ef ac wrth wynebau diflas a gelyniaethus y lleill y stori am yr hen geiliog a fynnai hebrwng pob iar i'r nyth ac aros wrth ei hymyl i ofalu ei bod hi'n cyflawni ei dyletswydd cyn iddo glochdar yn llon a'i hebrwng yn ôl o'r cwt. Gan y gwrandawent ar y stori am y canfed tro, syllai pob un ar ei fwyd mewn anobaith llwyr. Pob un ond William Jones, a borthai John Williams yn eiddgar. Rhythodd Bob Gruffydd ar ei bartner. A oedd y dyn yn drysu?

Yna, wedi i'r ceiliog hebrwng yr iâr olaf un o'r cwt, troes William Jones glust tua phen y bwrdd, lle'r oedd Huw Lewis yn egluro rhagoriaethau a gwendidau nifer o geffylau a oedd i redeg ras drannoeth. Ar ôl gorffen bwyta, cododd a chrwydrodd draw i loetran yn astud wrth ymyl y betwyr.

"Ac mi glywodd Huws y peth gan gefndar sy'n 'nabod rhywun sy'n perthyn i'r dyn sy'n gweithio yn stabal Golden Streak." Yr oedd Huw Lewis yn bur awdurdodol. "Golden Streak pia' hi 'fory, yntê, William Jones?" Chwarddodd pawb, gan fod gofyn barn William Jones ar bwnc o'r fath yn beth digrif dros ben. "Pwy oedd 'i fam o?" gofynnodd Huw, yn null yr hen bregethwyr. "White Hare. A phwy treiniodd o? Y dyn ddaru dreinio Derby Jane y llynadd. A phwy ydi'r joci? Jack Sparrow. Yr ydw i'n deud wrthach chi y bydd Golden Streak wrth y post cyn i'r lleill wbod bod y ras ymlaen."

Dychwelodd William Jones i'w wal yn llawen.

"Hylô, yr hen Bob," meddai eto wrth ei bartner, a theimlai hwnnw'n berffaith sicr erbyn hynny fod rhyw afiechyd mawr ar feddwl ei gyfaill.

"Y drwg hefo ni'r chwarelwyr, Bob," sylwodd William Jones ymhen tipyn, "ydi ein bod ni'n rhy sobor a difrifol o lawar, fachgan. Ddim yn mwynhau bywyd fel y dyle'ni, wsti."

"Os wyt ti am ddeud wrtha' i fod gwrando ar hanas ceiliog John Wilias a cheffyla' Huw Lewis yn fwynhau bywyd, William Ni orffennodd Bob Gruffydd y frawddeg, ond chwanegodd ymhen ennyd, "Tawn i'n clywad bod ceiliog John Wilias a'r Golden Steak 'na ..."

"Golden Streak, Bob."

"Wel, beth bynnag ydi 'i enw fo. 'Taswn i'n clywad bod ceiliog John Wilias a cheffyl Huw Lewis wedi'u claddu yn yr un bedd, mi faswn i'n dawnsio o lawenydd."

Gan na hoffai feddwl am Robert Gruffydd yn dawnsio, llawenydd neu beidio, newidiodd William Jones y stori.

"Yr ydw i am fynd i Landudno 'fory, Bob," meddai.

"O? Be' wnei di yn y fan honno, dywad?"

"Rhoi diwrnod i Leusa wrth lan y môr. Mi wneiff les mawr iddi hi."

Gwnâi diwrnod yn y môr fwy o les iddi, meddai Robert Gruffydd wrtho'i hun, ond ceisiodd amlygu diddordeb yn y cynllun.

"Mae hi'n dipyn brafiach arno' ni'r dynion nag ydi hi ar y merched, wsti, Bob," chwanegodd William Jones. "Mae gynno' ni ddigon i'w wneud yn y chwaral a digon o gyfle am sgwrs hefo'n gilydd a thipyn o hwyl yn y caban a'r cwt- 'mochal-ffaiar. Ond 'i hun bach yn y tŷ y mae'r wraig druan, a'r diwrnod yn hir iddi hi."

Oedd, yr oedd William yn dechrau drysu, sylwodd Robert Gruffydd yn drist wrth y gyllell-naddu.

Edrychai William Jones ymlaen yn eiddgar at bump o'r gloch, a gwenodd yn gyfeillgar ar bawb drwy'r prynhawn. Canodd y corn o'r diwedd, a throes ef a'i bartner tua'r swyddfa am eu cyflog ac yna tuag adref, gan longyfarch ei gilydd ar fis pur lewyrchus yn eu hanes.

"Mi ddo'i â phresant i Alun o Landudno 'fory," meddai William Jones wrth adael ei bartner. "Inja Roc."

"Mae o'n rhy hen i inja roc," oedd ateb cynnil Bob Gruffydd.

Clywodd William Jones rywun yn galw ei enw pan gyrhaeddodd ganol y pentref. Adnabu'r llais ar unwaith fel eiddo Sally Davies, hen wraig gyfoethocaf yr ardal a pherchen tair ystryd o dai. Croesodd y stryd ati.

"Dydwi ddim yn licio sôn wrthach chi, William Jones, ond gwraig weddw ydw inna', ac mae'r hen drethi 'ma mor drwm a hen gosta' byth a hefyd ar dai. Y to yn y tŷ yma a'r ffenast yn y tŷ arall a'r feis yn y nesa', a'r hen drethi 'ma yn mynd ag arian rhywun i gyd. Eich mam druan! Y gynta' yma'n talu'r rhent bob mis. Ac 'rydach chitha', chwara' teg i chi, wedi talu'n brydlon iawn. Mae hi'n anodd imi sôn am y peth wrthach chi, William Jones, ond gwraig weddw ydw'i, yntê? ..."

Beth gynllwyn a geisiai'r ddynes ei ddweud?

"Mae'n ddrwg gin i, Mrs. Davies, ond 'wn i ddim..."

"Ia, William Jones, mae pethau'n troi'n o chwithig weithia'. Ond mae'n rhaid i minna fyw, ac mae'r hen drethi 'ma yn mynd â'r arian i gyd. 'Ddeudis i ddim wrthach chi am ddau fis, ond 'roedd hi'n dri mis ddydd Llun dwytha', ond oedd?

A finna'n wraig weddw heb neb yn gefn imi, yntê?..."

"Mi ddo' i â'r arian heno, Mrs. Davies. Yn ddi-ffael." A brysiodd ymaith.

Y nefoedd fawr! Y rhent heb ei dalu ers tri mis! Hyd ychydig fisoedd cyn hynny ef a ofalai am y rhent, ond rhodd- ai'r arian i Leusa yn awr, gan y cwynai Sally Davies am y bobl a'i cadwai yn ei thŷ gyda'r nos. Aeth y meddwl a fuasai'n drobwll am oriau yn ystod y dydd yn awr yn grochan berw.

Daeth sŵn y peiriant gwnïo i'w glustiau pan gyrhaeddodd y tŷ. Eisteddai Leusa wrth fwrdd y gegin, ac o'i blaen anialwch o sidanau. Cadwasai ryw droedfedd glir ym mhen y bwrdd, ac ar hwnnw yr oedd platiad o fara-ymenyn a phlatiad o samon a rhai llestri te. Yr oedd darnau o edau a thameidiau o sidan ym mhobman hyd y llawr, ac yng nghongl y gegin crochleisiai rhyw ferch drwy'r set-radio.

Trawodd William Jones ei dun-bwyd ar gornel y dresel yn chwyrn, ac yna aeth yn syth i fyny'r grisiau i'r llofft gefn. Yno, dan glo mewn drôr fechan, cadwai ddecpunt bob amser: credai mewn cael arian wrth law at unrhyw alwad sydyn. Cymerodd bedair ohonynt, ac, wedi cloi y drôr yn ofalus, brysiodd i lawr y grisiau.

"I b'le'r wyt ti'n mynd?"

"I dalu'r rhent."

Aeth Leusa ymlaen â'i gwnïo.

Pan ddychwelodd William Jones, cafodd y fraint o fwyta'r samon i gyfeiliant y peiriant gwnïo a'r radio, a chyn hir rhoes ei gyllell a'i fforc i lawr yn ddig.

"Rho dipyn o heddwch i ddyn gael 'i fwyd, wir," meddai, gan godi i dawelu'r gantores ar y radio.

"Mae'n rhaid imi orffan hefo'r patrwm yma," oedd ateb Leusa. "Mi gefis 'i fenthyg o pnawn 'ma gan 'Fanwy May, ac 'rydw i wedi addo mynd â fo yn 'i ôl heno. Mae'r material 'ma gin i yn y tŷ ers wythnosa', wedi methu cal patrwm on i'n licio ar 'i gyfar o. A phan ydw i'n cal patrwm, y mae'n rhaid i ti ..." A dechreuodd Leusa sniffian.

Fel rheol, rhoddai'r sniffian crio daw ar ddadleuon William Jones, a chodai mewn brys i roi ei fraich am wddf Leusa ac i'w hargyhoeddi ei fod yn bechadur trist ac edifeiriol. Ond y tro hwn ni wnaeth ond edrych yn ddiymod arni heibio i'r peiriant gwnïo. Gwelodd nad oedd deigryn yn ei llygaid, a daeth i'w feddwl mai ffug fuasai'r wylo funud ynghynt.

"Tra byddi di'n rhoi gorffwys i'r peiriant yna," meddai, "efallai yr hoffet ti egluro be' ddigwyddodd i arian y rhent."

Pwl arall o grio oedd ateb Leusa, gan swnian rhywbeth am bethau'n mynd yn ddrud a hithau'n ei gweld hi'n anodd i gael y ddau ben llinyn ynghyd.

"Rho'r gora' i'r sŵn 'na ac ateb fy nghwestiwn i."

Ond ni fedrai William Jones gael gair synhwyrol ganddi, a bodlonodd ar anwybodaeth—a thawelwch i fwyta'r samon.

Wedi gorffen ei fwyd, cododd ac agor drôr y dresel.

"Be' wyt ti isio yn fan 'na?" gofynnodd Leusa'n frysiog.

"Y llyfr rhent. Mi anghofis fynd â fo hefo mi gynna'.

Mi bicia' i eto i dŷ Sally Davies ... Hylô, be'ydi hwn?"

"Be?"

"Y papur bach 'ma ... Golden Streak."

"Wn i ddim. O, yr ydw i'n cofio 'rŵan. 'I godi o ar y ffordd y diwrnod o'r blaen a meddwl ..."

Gwelodd William Jones fod wyneb ei wraig yn fflam.

"Paid ag ecseitio, rhag ofn i'th galon di stopio." Ac aeth tua'r drws â'r llyfr rhent yn ei law.

"Wyt ti'n siŵr nad carlamu i mewn yma ddaru o?" gwaeddodd o'r drws.