William Jones (Nofel)/Pennod 5 - Deud Gwd-bei

Pennod 4 - Golden Streak William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 6 - Anhuedd

PENNOD V

DEUD GWD-BEI

WEDI i'r hen Sally Davies arwyddo llyfr y rhent a chael cyfle arall i rwgnach am gostau byw, troes William Jones gamau araf tua'r mynydd. Yr oedd yr hwyr yn fendigedig, ond er iddo ddweud wrth amryw ar y ffordd fod y noson yn braf, ni theimlai ef hynny. Ac yntau yn ei wae, pa hawl a oedd gan Natur i liwio'r hwyr mor gain ? Rhoi ei arian ef ar geffylau ! Ni ddisgwyliasai ddirywiad mor ofnadwy â hynny.

Aeth heibio i lonyddwch gwasgarog, coch, yr ysgol, ond nid oedd ganddo atgofion melys am y lle. Cansen fawr Huws Bach y Sgwl, cyfarth y Miss Edwards honno a ddysgai Standard III, aroglau dillad plant ar ddiwrnod glawog, bwrn y Saesneg tragwyddol, diflastod diderfyn y wers olaf bob bore a phob prynhawn bron—pethau felly a ddeuai i'w feddwl. A chofiai adael am y chwarel yn llawen, gan gerdded yn dalog drwy'r pentref o'r gwaith gyda'r nos heb gymryd yr un sylw o athro neu athrawes a ddigwyddai ei gyfarfod ar y ffordd. Dysgodd ddarllen yno—ond yn awr ni ddarllenai ond y papur newydd wythnosol. Dysgodd ysgrifennu—ond nid ysgrifennai ond pwt o lythyr weithiau at Feri ei chwaer. Dysgodd gyfrif—i fesur llechen a sicrhau bod ei gyflog, yn iawn a llyfr y siop yn gywir. Crychodd William Jones ei drwyn.

Y mae arnaf ofn bod athrawon ac athrawesau lu yn fy meio am groniclo anniolchgarwch ffiaidd William Jones i'r gyfundrefn addysg. Beth, gofynnant, a allai neb ei wneud â'r hogyn yswil ac ofnus a mud a oedd yn un o ryw ddeugain ac ychwaneg ym mhob dosbarth? Hawdd iawn yw beirniadu, meddant, a rhoi bai ar yr athrawon truain. Ond hanner munud, ni feirniedais i neb, dim ond darlunio William Jones yn mynd am dro heibio i'r ysgol. Er hynny, gan fy mod yn ei adnabod yn weddol drwyadl, credaf y dylwn sôn am dair elfen yn ei natur na ddarganfu'r ysgol mohonynt o gwbl.

Yn gyntaf, yr oedd yn gerddor—neu, beth bynnag, yr oedd ynddo ddeunydd cerddor. Ef oedd seren ddisgleiriaf Band of Hope Siloh, enillydd cyson mewn cystadleuthau cerddorol ac unawdydd pêr ym mhob sosial. Cantor a oedd yn ddiwygiwr hefyd, yn ddadleuwr eiddgar iawn dros Ddŵr, dŵr, dŵr I bob sychedig un, a thros beidio â gwawdio'r meddwyn Na all symud cam, ond Cofio'i fod yn blentyn I ryw dyner fam.

Wili Jôs oedd y bachgen a alwai Huws Roberts allan i'r Sêt Fawr fel esiampl i'r plant eraill sut i ganu'r modulator, a gallai gyfieithu "Dyma Feibl annwyl Iesu" i gyd i sol-ffa yn ddibetrus. Oedd, yr oedd yn gerddor, ond beth a wnaeth yr ysgol ddyddiol â'i athrylith? Dim. Dywedaf eto—Dim. Ni allai William Jones gofio ond un gân a ddysgasai yn yr ysgol, a "Now the day is over" oedd honno. Ni chafodd gyfle hyd yn oed i ddadlau tros Ddŵr, dŵr, dŵr. Felly y collodd Gwlad y Gân un o'i chantorion melysaf.

Yn ail, yr oedd William Jones yn adroddwr—neu, beth bynnag, yr oedd ynddo ddeunydd adroddwr. Nid oedd ei debyg, yn ôl Wmffra Roberts, am adrodd "Arwerthiant y Caethwas" a "Bedd y Dyn Tylawd" yn y Penny Reading. Nid anghofiai yn y pennill cyntaf fel Huw Êl ac ni thorrai i grio fel Jennie Mabel. Na, fe safai Wili'n gadarn ar ei draed, gan edrych yn syth i wyneb y cloc a chodi ei lais i bawb ei glywed. Y mae'n wir y rhythai ar y cloc ac y gwlychai ei wefusau ar ddiwedd pob llinell, ond arwyddion o'i ymgysegriad i'w waith oedd y rhai hynny. A chyn cysgu'r nos, fe freuddwydiai Wili amdano'i hun yn adrodd "Bedd y Dyn Tylawd" o flaen y Brenin a hwnnw'n tynnu ei fodrwy oddi ar ei law ac yn ei rhoi ar ei law ef ac yn ei osod, â chadwyn aur am ei wddf, ar holl wlad yr Aifft. Ond beth a ddigwyddodd yn yr ysgol bob dydd ? "Twincyl, twincyl, licyl star" oedd yr ateb a ddeuai i feddwl William Jones. Ac felly y collodd Cymru adroddwr gwir fawr.

Yn drydydd, yr oedd Wili Jôs yn nofelydd—neu, beth bynnag, yr oedd ynddo ddeunydd nofelydd. Y wers a fwynhâi fwyaf oedd honno a gâi yn ystod yr hanner awr olaf ar ddydd Gwener yn Standard IV. Darllen stori a wnâi'r athro, Mr. Richards, stori Saesneg am drysor cudd mewn ynys bell a rhyw ddihiryn ungoes ac unliygeidiog yn ceisio'i ddwyn oddi ar yr arwr. Darllenai Mr. Richards baragraff yn araf ac yna troai'n ôl i'w ddechrau i adrodd ei gynnwys yn Gymraeg: Ni ddeallai Wili Jôs y Saesneg, ond perliai ei lygaid pan siaradai Long John Silver Gymraeg. "Twt, mae'r llyfr gin i gartra," meddai Now Dic Tŷ Ucha' wrtho un diwrnod, "ac 'rydw i wedi'i ddarllan o i gyd." Gan yr ysai am wybod beth a ddaeth o'r anturiaethwyr a'r trysor, holodd Wili ei gyfaill yn fanwl.

Ond ni chofiai Now Dic ac nid oedd yr helyntion ffôl o un diddordeb iddo. Ni ddeallai Wili hynny o gwbl, a gofynnodd am fenthyg y llyfr. Ond wedi ei gael, araf a diflas fu ei daith o ddalen i ddalen, a dychwelodd ef i'w berchennog heb gael dim mwynhad ynddo. Caeodd yr ysgol am yr haf heb i chwilfrydedd Wili gael ei ddiwallu. Felly, cyn cysgu'r nos ac wedi deffro yn y bore, creodd benodau cyffrous a rhamantus am helyntion y gwŷr a geisiai'r trysor yn yr ynys bell. Wili ei hun, wrth gwrs, a ddaeth o hyd i'r aur a'r perlau, ac ef, ag un llaw yn gwarchod Enid May Owen, a oedd yn byw tros y ffordd, a laddodd Long John Silver â'i gleddyf. Yna daeth tyrfa o Indiaid Cochion o rywle, ond carlamodd Wili ac Enid May â'r trysor tros fynyddoedd creigiog a thrwy fforestydd tywyll i'r llong a oedd yn eu disgwyl mewn cilfach ddirgel.

Creodd Wili gyfrolau enfawr o anturiaethau yn y dyddiau hynny, nofelau Cymraeg a suddodd, ysywaeth, i ebargofiant. Yn eu lle llanwyd ei feddwl â ffeithiau pwysig a buddiol mai o Yarmouth (ac nid o Nefyn fel y tybiasai ef) y daw penwaig; bod pobl yn cael eu brecwast yn New York pan oedd ef, Wili Jôs, ar ei ffordd i'r ysgol bob prynhawn; bod mynyddoedd yr Himalaya yn uchel iawn, iawn; bod Tiber, tad Horatius, yn falch iawn o'i fab am ddal y bont; bod Abou Ben Adem ar ben rhyw restr am fod yn hogyn da; bod rhyw Frenin Charles wedi cael torri ei ben; ac mai ei le ef, Wili Jôs, oedd trio bod yn debyg i Nelson a Wellington, gwŷr na ddaliwyd mohonynt erioed yn dweud celwydd. Oedd, yr oedd Wili'n wybodus iawn. Gallai enwi siroedd ac afonydd Iwerddon i gyd, a gwnâi'r un gymwynas â Sgotland hefyd cyn gadael Standard V, gan daflu'r mynyddoedd i mewn yn y fargen. Gwn y dygaf anghrediniaeth i wyneb y darllenwr hynaws, ond mynnaf hefyd gyhoeddi'r ffaith y gallai Wili, ac yn Saesneg bob gair, roddi iddo restr gyflawn o allforion Jamaica. Anfelys i'r eithaf, er hynny, yw gorfod croniclo iddo fethu â gwerthfawrogi breintiau addysg, gan ddyheu am drowsus melfared a llwch y chwarel. Aeth y nofelydd, fel y cerddor a'r adroddwr, i drin llechi.

Dringodd William Jones heibio i'r eglwys, a heb yn wybod iddo'i hun bron, troes i mewn i'r fynwent ac ymlwybro i'r pen pellaf at fedd ei dad a'i fam. Wrth syllu ar enw ei dad ar y llechen, llithrodd ei feddwl yn ôl i'w fachgendod, a safodd yn hir wrth fin y bedd a'i feddwi yn llawn atgofion. Ni buasai Wili a'i dad yn gyfeillion mawr; yn wir, bron nad oeddynt yn ddieithriaid yn byw yn yr un tŷ. Y gŵr a ofalai ei fod yn mynd i'r Cyfarfod Gweddi a'r Seiat oedd Richard Jones i'w fab, y dyn a wgai arno bob tro y rhwygai ei drowsus, ac a'i daliodd un hwyr yn ysmygu papur llwyd yn y tŷ- bach. Ni welai'r bachgen ei dad yn ystod y dydd, wrth gwrs, ac yna, gyda'r nos, yr oedd rhywbeth yn y capel i'w cadw ar wahân. Edrychai Richard Jones â balchder mawr ar gerddor ac adroddwr disglair y Band of Hope ac ar yr hogyn a orfodai i ddysgu pennod gyfan ar gyfer y Seiat, ond nid oes gennyf braw fod yr un edmygedd yn y mab tuag at y gorfodwr. Mewn gair, pan bechai mewn rhyw ffordd, neu pan oedd rhyw ddyletswydd anfelys yn yr arfaeth, yr oedd y gyfathrach agosaf ac amlaf rhwng y ddau. Ei dad a ofalai ei fod yn "hogyn da," ac ni hoffai Wili fod yn greadur felly.

Yna, pan oedd Wili'n ddeuddeg oed, newidiodd pethau. Arhosai ei dad, a fuasai'n cwyno ers tro, gartref bob dydd, a châi'r bachgen ei gwmni bob pryd bwyd ac yn aml ar y ffordd i'r ysgol. Gwnaeth afiechyd y gŵr llym yn llariaidd ac ofnus, yn un a syllai'n ffwndrus-freuddwydiol ar bawb a phopeth. Lle chwyrnai gynt, fe agorai ei lygaid mawr yn ofidus yn awr; lle bu gorchymyn, yr oedd cais tawel a thrist. Nid oedd Wili ar un cyfrif i gynhyrfu'i dad, rhag ofn i bwl o besychu ysgwyd ei gorff bregus. Ac ufuddhaodd Wili, gan deimlo nad oedd gwialen fedw ar ei gefn yn ddim wrth y penyd hwn.

Difeddwl iawn yw hogyn deuddeg oed, a phrin y sylweddolai Wili fod llaw tlodi yn tynhau ei gafael ar ei gartref bob dydd. Câi ef a Meri eu dimai bob un ar ddydd Sadwrn o hyd, a galwai eu mam yn siop Huws Becar i brynu teisen- bwdin iddynt bob prynhawn Llun. Ni phoenai Wili fod ei ddillad yn fwy clytiog ac y gwisgai glocsiau yn lle esgidiau ; yn wir, teimlai y rhoddai'r breintiau hynny hawl iddo i fod yn fwy eofn a mentrus yn ei chwarae. Gallai ddringo coed ac ymwthio drwy wrychoedd drain yn awr heb boeni os rhwygai ei drowsus, ac onid dyfais ar gyfer cic-tun oedd clocsiau?

Yr hyn a ddiflasai holl enaid Wili oedd y golchi a'r manglio a'r smwddio tragwyddol a âi ymlaen yn y tỹ. Byddai ei fam wrthi bob bore ymhell cyn iddo ef godi; ac wedi gosod brecwast iddo ef a Meri, ymaith â hi i'r cefn neu i'r cwt i ddilyn ei gwaith. Llawer hwyr ar ôl yr ysgol, yr oedd yn rhaid iddo ef droi'r mangyl yn lle brysio i'r coed, lle'r oedd gwersyll Scouts Huw Êl. Gan fod Wili’n swyddog go uchel yn yr urdd honno (yr oedd ganddo dri marc coch ar ei frest, ac ef oedd perchennog dwy sach, yr hen badell ffrio, a dwy fforc), annheg iawn oedd ei gadw ef yn y tŷ, yn enwedig gan fod y Ciaptan, Huw Êl, yn gorfod edrych ar ôl y babi ambell noson.

Sosbenni, padelli, heyrn smwddio, dillad yn hongian yn y cefn ar dywydd sych ac yn y gegin ar dywydd gwlyb-dyna'r pethau a lanwai feddwl William Jones wrth iddo gofio'r amser hwnnw. A gwelai, yn wyneb llwyd ei dad, ddau lygad dwys a syn yn dilyn symudiadau cyflym ei wraig aflonydd, weithgar. Eisteddai Richard Jones drwy'r rhan fwyaf o'r dydd yn ei gadair freichiau wrth y tân, yn plygu ymlaen at y gwres, yn ŵr tawel a thrist a rhynllyd. Gwellhaodd dipyn at yr haf, a chrwydrai hyd y pentref ac i'r mynydd hefo Mot, ei gi. Rhoes yr haul wrid ar ei ruddiau, a gallai gynorthwyo ychydig hefo'r golchi a'r manglio, gan ddechrau sốn eto am ailgychwyn yn y chwarel. Ond wedi pwl o besychu un diwrnod, syllodd yn hir ar yr ysmotyn o waed ar ei gadach poced, a'i fraw yn floedd yn ei galon. A chyn hir aeth yr ysmotyn yn ystaen.

Pan aeth ei dad i orwedd, ymddiswyddodd Wili o Scouts Huw Êl, gan sylweddoli bod yn rhaid iddo ef a Meri wneud a allent i helpu eu mam. Ni sylwasai ar y tywydd o'r blaen, dim ond beio'r glaw weithiau am ei gadw rhag mynd allan i chwarae, ond yn awr, yn ddistaw bach, chwanegai weddi am wynt a haul at ei bader bob bore a phob nos. A threfnodd Rhagluniaeth Fedi a Hydref sych a chynnes i Wili, heb resi o ddillad gwlybion yn hongian uwch aelwyd y gegin; rhoes hefyd geiniogau lawer yn y jwg ar y dresel, y fan lle cadwai Ann Jones pres a enillai. A chafodd Wili a Meri ddillad newydd.

Ni welai'r plant lawer ar eu tad y pryd hynny, ond gyrrai eu mam hwy i fyny i'r ystafell wely am ychydig ambell gyda'r nos. Âi eu gweld yn drech nag ef, a thorrai i grio'n rhwydd iawn. Ni ddeallai Wili hynny o gwbl, ac ni hoffai'r peth: "hen fabi” oedd bachgen a griai yn yr ysgol, ac un o reolau Scouts Huw Êl oedd y diaelodid unrhyw un â deigryn yn ei lygaid.

Yna, yn sydyn, dug Tachwedd ei dywydd gwlyb ar waethaf paderau Wili.' Y niwl yn treiglo i lawr o'r mynydd byth a hefyd, y glaw syth, diderfyn, y dillad gwlybion yn hongian ar draws y gegin, aroglau sebon a soda drwy'r tŷ i gyd, niwlen las ar ddodrefn a drysau, y ffenestri agerog yn cau allan y byd soeglyd—ni hoffai William Jones atgofio'r dyddiau hynny. Ac yna, wedi i'r niwl a'r glaw fynd heibio, rhuthrai'r gwyntoedd ystormus i daflu'r llond lein o ddillad ar ddaear wleb yr ardd. A phan flinai'r gwyntoedd, deuai'r rhew i droi'r dilladau ar y lein yn ystyllod diymadferth, llonydd. Anamlach ydoedd tincian y ceiniogau yn y jwg yn awr.

Dydd Sul oedd hoff ddiwrnod Wili yn y cyfnod hwnnw, y dydd pryd na fyddai un golwg o'r sosbenni a'r padelli a phan safai'r heyrn smwddio mewn llonyddwch disglair ar y pentan. A dyna gysurus a chyfeillgar oedd y tân ar y Sul! Buasai'n ffwrnais drwy'r wythnos, ond câi ef a'r tŷ i gyd a'r fam ddiwyd ysbaid o orffwys yn awr. Yr oedd Wili yn hoff iawn o'i fam bob Sul, gan y cymerai hi hamdden i fwyta gyda hwy wrth y bwrdd yn lle rhuthro ymaith i symud tegell oddi ar y tân neu i droi lliain er mwyn iddo gael sychu'r ochr arall. A chymerai hamdden hefyd i siarad â hwy, amdani ei hun yn ferch fach ym Meirion, ac am ei thad yn gyrru gwartheg bob cam i Lundain, ac am ei hewythr, y llongwr a aethai droeon o amgylch y byd. A châi Mot, y ci, faint a fynnai o fwyd a mwythau ar y Sul.

Syllodd William Jones yn freuddwydiol ar y garreg o’i flaen. "Ebrill 10, 1896," meddai hi, a chofiai'n glir yr hwyrnos pan ddaeth ei fam i lawr y grisiau i roddi ei breichiau am ysgwyddau Meri ac yntau, gan wylo a dweud wrthynt fod yn rhaid iddynt fod yn ddewr iawn. Tair ar ddeg oedd ef a Meri'n ddeuddeg, ond ni wyddai Wili pam yn y byd yr oedd yn rhaid iddo fod yn ddewr. Yn wir, pan ddeallodd y câi adael yr ysgol ar unwaith a mynd i'r chwarel, curai ei galon â llawenydd mawr. Dewr? Ac yntau wedi gofyn a gofyn am y fraint o weithio yn y chwarel.

Yr oedd Wili'n falch o gael gadael yr ysgol er iddo syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad yno. Y mae'n wir fod llygaid croes gan Enid May, ond yr oedd ganddi wallt du fel y frân a'r chwerthin pereiddiaf a glywsai neb erioed. Yr oedd hi bob amser yn chwerthin; beth bynnag a ddywedech neu a wnaech, fe chwarddai Enid May dros bob man. Ac ef, Wili Jôs, a ddeffroai'r chwerthin hwnnw'n fwy na neb. A chyn cysgu'r nos fe freuddwydiai amdano'i hun yn darganfod cyfandir newydd ac yn marchogaeth gydag Enid May drwy Lundain i sân cymeradwyaeth anferth y tyrfaoedd hyd fin y strydoedd. Ond wedi i Wili fynd i'r chwarel, cafodd Now Dic y maes iddo'i hun, ac er na chwarddai Enid May lawn cymaint yn ei gwmni ef, ymddangosai'n hapus ddigon.

"Heddwch i'w llwch," meddai'r llechen las o'i flaen, ond ni allai William Jones feddwl am ei fam yn mwynhau "heddwch." Er bod ei dwylo'n gignoeth bron yn nyddiau'r golchi, yr oedd yn rhaid iddi gael glanhau'r tŷ a thynnu'r llwch oddi ar y dodrefn byth a hefyd. "Y mae'n rhaid i chi fynd at Jones Drygist i gael rhywbeth at eich dwylo, Mam," fyddai sylw Meri yn aml bob gaeaf. "Ydi, Meri fach," fyddai'r ateb. "Mi a' i yno 'fory." Ond ni ddeuai'r yfory, a bodlonai Ann Jones ar rwbio lard a brwmstan i'w dwylo a cheisio lleddfu'r boen trwy eu dal o dan ei cheseiliau. Beth pe gwelai hi'r hen dŷ yn awr? gofynnodd y mab iddo'i hun—llwch yn amlwg ar bopeth, tyllau yn y matiau ac yn llenni'r ffenestri, a'r dodrefn oll yn ddi-sglein. Pa bryd oedd hi? O, ia, bore heddiw pan gododd y syllodd ar olwg tlodaidd y gegin. Ysgydwodd William Jones ei ben yn drist.

Gadawodd y fynwent a dringodd y ffordd i fyny'r Fron, gan droi cyn hir i'r llwybr a arweiniai i'r Hendre. Yno y trigai Twm Ifans, ei gyfaill pennaf. Buasai'r ddau yn bartneriaid yn y chwarel am flynyddoedd, ond cawsai Twm orchwylion ffarmwr a chwarelwr yn ormod iddo, a dewisodd ymgysegru i ofalu am y tyddyn yn unig. Gwelai William Jones ei gyfaill wrth gytiau'r ieir yng nghongl cae uwchlaw'r tŷ, a brysiodd ato. Yr oedd wrthi'n hongian cadwyn haearn o frig to un o'r cytiau.

"Mi ges lwynog yma neithiwr, fachgan," meddai, "ac mi laddodd ddeg o ieir."

"Be' wyt ti'n wneud hefo'r tsiaen 'ma ?" "Yr hen Richard Huws, yr Hafod, oedd yn pasio gynnau. Hongian tsiaen wrth y cwt, medda' fo, ydi'r peth gora' i ddychryn llwynog. Mi tria' i o, beth bynnag. Sut hwyl sy arnat ti, William ?"

"Dwad i ddeud gwd-bei wrthat ti, Twm."

"Y?"

"Dwad i ddeud gwd-bei wrthat ti."

"O? 'Wyt ti'n mynd i'r 'Mericia ?"

"I'r Sowth. 'Fory."

Adroddodd yr hanes i gyd wrth Twm Ifans, ac adwaenai hwnnw ei hen bartner yn ddigon da i wybod ei fod o ddifrif. Pan dawodd William Jones, pwysodd Twm yn erbyn ochr y cwt a syllodd yn hir ar flaen ei esgid dde.

"Wn i ddim be' i'w ddeud wrthat ti, wir, fachgan," meddai, o'r diwedd, gan boeri ar y llawr. "Rhyw le go ryfadd sy tua'r Sowth ’na, lle gwyllt, ryff ofnadwy, meddan nhw i mi. Y mae ’na filoedd allan o waith yno. 'Fydda' ddim yn well iti roi dy droed i lawr hefo Leusa, dywad, a gofalu 'i bod hi'n cael llawar llai o arian i'w trin ?"

"Yr ydw i wedi penderfynu, Twm."

Trawodd Twm Ifans y morthwyl ym mhoced ei gôt. "Tyd i lawr at y tŷ inni gal gair hefo'r hen wraig," meddai.

Wedi iddynt gerdded rhyw ugain llath, safodd Twm yn stond. "Y cythral bach !" meddai, gan ruthro tua'r tyddyn. Dilynodd William Jones ef i ddarganfod Meurig, hogyn hynaf Twm, yn gwthio berfa ag ynddi dri o blant swnllyd ar draws ei gilydd. Diflannodd y tri i'r tŷ pan nesaodd eu tad, ond safodd Meurig ei dir.

"Dos â'r ferfa fudur 'na yn ôl i'r beudy, wnei di !" meddai Twm, gan roi clusten gynnes i'r hogyn. "Wyddost ti mai cario tail y bydd dy dad yn hon'na ? Gwadna hi ar unwaith !" Aethant i gyfeiriad yr ardd yng nghefn y tŷ, ac yno, mewn cadair ysgafn o dan goeden afalau, eisteddai Elin Ifans, mam Twm, yn gweu hosan.

"Ga'i ddeud wrthi hi ?" sibrydodd Twm.

"Cei, am wn i, wir."

Adroddodd Twm y ffeithiau pwysicaf wrth ei fam, ond daliai hi ymlaen â'i gwau yn hamddenol. Gwraig denau, go dal, oedd hi, yn tynnu at ei phedwar ugain, ond yn gyflym iawn ei thafod a'i cham o hyd.

"Wel, yr hen wraig ?" gofynnodd Twm o'r diwedd.

"Mi yrra' i'r ci ar 'i ôl o y tro nesa' y daw o yma hefo'i hen sbectol fawr a'i lais pwysig."

"Pwy, 'mam ?"

"Yr Ifan Siwrin ’na. Mi fedri di edrach ar ôl dy bres heb 'i help o. Plant yr hen Isaac Davies ydi o a Leusa, a 'ddaw dim daioni ohonyn nhw byth. Mi fasai'r hen Isaac, pe medrai 0, yn dwyn y llefrith allan o de rhywun! A be' sy wedi dwad o'i blant o ? Yr Ifan Davies 'na yn ormod o hen gyb i roi dima' at ddim, a'i chwaer o, Leusa, yn gwastraffu fel ffŵl. Cofia fi at Feri, dy chwaer, pan ei di i'r Sowth, William." "A finna'n meddwl y basach chi'n 'i berswadio fo i ailfeddwl," meddai Twm.

"Ailfeddwl ? Pam?"

"Wel, lle ofnadwy sy tua'r Sowth 'na, meddan nhw, a ..."

"Medda pwy?"

"Wel, mi glywis i..."

"Paid â lolian. 'Fuost ti yno 'rioed ?"

"Wel, naddo, ond ...."

"Dos di i'r Sowth, William, am dipyn," meddai'r hen wraig, heb gymryd sylw o ddarluniau anghyflawn ei mab o'r lle. "Dydi hi ddim yn rhaid iti aros yno os na leici di dy le, weldi. Mi wneiff les i Leusa dy golli di am gyfnod a gorfod byw ar lai o arian. Cofia na yrri di ddim mwy na phunt yr wsnos iddi hi am y rhent a chwbwl. Mae hynny'n hen ddigon iddi hi. Diar annwl, ydi. Mi fagais i deulu mawr ar lai na: hynny. Do, 'neno'r Tad. Yr ydw i'n cofio pan briodis i..." Ond troesai'r ddau tua'r tŷ erbyn hyn.

Yr oedd plant ei gyfaill yn hoff iawn o William Jones, oherwydd dywedai stori wrthynt bob tro y galwai yn y tŷ. Cydiodd Gwen a Megan ynddo yn awr, un ym mhob llaw, a'i arwain i'r parlwr, lle ceisiai Wil bach a Meurig, â'u gweflau'n las i gyd, dynnu lluniau.

"Stori, Yncl William !" gwaeddodd y lleisiau oll.

"Na, mae Yncl William wedi blino," meddai eu tad, "a 'does gynno fo ddim stori heno."

Ond ni wrandawai'r plant ar ryw esgusion felly, a gwthiwyd y storiwr i gadair freichiau.

"Mi a'i i fwydo'r ieir," meddai Twm. Ac ymaith ag ef. Pennod o'i nofel gynnar am y trysor cudd yn yr ynys bell a roddai William Jones iddynt fel rheol, ond dywedodd stori newydd sbon y tro hwn. Nid oes gennyf na'r gofod na'r gallu i'w hailadrodd yn ei eiriau ef, ac felly bodlonaf ar roi crynodeb byr ohoni. Gweld Cymro, ci'r Hendre, yn gorwedd yn yr haul y tu allan i'r ffenestr a ddug y stori'n ôl i'w gof. Cydymaith ffyddlon ei dad pan oedd yn wael fuasai Mot, y ci a arferai gyfarfod Wili Jôs o'r ysgol bob dydd. Ci du a gwyn ydoedd, rhyw gymysgedd o gi defaid a sbaniel, a thyfasai'n un o'r teulu, yn cael ei ddifetha gan bawb. Rhoddai Ann Jones ddigon o fwyd iddo bob dydd i'w gadw i fynd am flwyddyn, a gofalai Wili a Meri nad oedd ar ôl o felysion pan oedd gan- ddynt rai. "Lle mae Mot?" fyddai'r cwestiwn aml oni ddigwyddai'r ci fod yn y cwmni ar yr aelwyd. Rhuthrai i fyny'r grisiau bob bore i ddeffro'r plant, a dilynai hwy i'r ysgol a'u cyfarfod ar ddiwedd y bore a'r prynhawn, gan fynnu cludo rhywbeth yn ei geg bob gafael. A phan aeth Richard Jones yn wael, dilynai'r ci ef i bobman. Yna, un diwrnod, daeth Huw Rags ar ei rawd i'r pentref, ac wrth droi'n ôl i'r dref, dug y ci gydag ef yn slei bach. Mawr ond ofer fu'r holi a'r chwilio : gwerthasai Huw Rags ef i ryw ddyn a oedd yn byw ddeugain milltir i ffwrdd, a chadwodd hwnnw ef yn rhwym am ddyddiau. Ond rhyw noson, deffroes Richard Jones i glywed cwynfan a chyfarth ymbilgar o dan ei ffenestr. Brysiodd ei wraig i lawr y grisiau i ddarganfod y ci truan wrth ddrws y cefn. Cododd y teulu i gyd i weinyddu arno, a thrist iawn oedd canfod ei ludded a'i loes. Yr oedd yn rhy flinedig bron i ysgwyd ei gynffon, a syllasant â braw ar y doluriau ar ei gefn, ac ar ei bawennau gwaedlyd. Ymwthiasai, yr oedd yn amlwg, o dan weiren bigog. Ond er ei flinder a'i anafau, ymlusgodd i fyny'r grisiau y bore trannoeth at erchwyn gwely ei feistr claf, a buan y gwellhaodd o'i glwyfau ac y tewychodd eto fel cynt.

Cytunodd y plant i gyd ei bod hi'n stori dda iawn ac yr haeddai ei hawdur, fel chwedleuwr yr hen ddyddiau, brydo fwyd am ei dweud. Ond yr oedd Mrs. Jones yn ei ddisgwyl adref, meddai ef, a chododd i gychwyn ymaith. Daeth yr hen wraig i mewn o'r ardd a'i wthio'n ôl i'r gadair, gan benodi'r plant yn warcheidwaid arno tra byddai hi a'i merch yng nghyfraith yn paratoi swper.

Yr oedd hi wedi naw o'r gloch ar William Jones yn cyrraedd adref, ac oeraidd fu ei groeso. Safai'r peiriant gwnïo ar y bwrdd o hyd yng nghanol pentwr o sidanau lliwiog, a rhoddai chwaneg o'r samon urddas i'r droedfedd glir ar ben y bwrdd. Aeth yn syth i'r llofft fach a thynnodd y fasged wellt o'i chongl yno a'i chludo i'w ystafell wely. Crysau, hosanau, coleri, esgidiau, ei siwt ail-orau, dillad isaf-trefnodd y pethau'n ofalus yn y fasged. Yr oedd hi bron yn llawn pan ddaeth llais Leusa o'r gegin.

"William!" "Ia ?” "Ymh'le'r wyt ti? Tyd i gal dy swpar. Mae arna' i isio'r bwrdd 'ma i orffan fy ffrog newydd." Gwenodd yntau. "Yr ydw i wedi cael digon o samon am hiddiw," gwaeddodd.

Pan glybu hi ei sŵn yn agor drôr ar ôl drôr, brysiodd i fyny i'r llofft.

"Wel, y nefoedd fawr!" meddai, â pheth dychryn yn ei llais. "Be' andros wyt ti'n 'i wneud ?"

"Dim ond mynd i'r Sowth."

Edrychodd arno â'i cheg yn agored.

"Bora 'fory," chwanegodd, rhag ymddangos yn greadur anfoesgar. "Trên wyth."

Ni chredai ei fod o ddifrif, a chwarddodd. Gwenodd William Jones a nodio'n gyfeillgar arni, eto rhag bod yn anghwrtais. Darfu chwerthin Leusa a dechreuodd ar ei hwylo diddagrau. Yr oedd yn berfformiad digon da i dwyllo William Jones am funud, ac wrth edrych arni'n eistedd yn y gadair â'i phen i lawr, daeth pwl o edifarhau drosto. Efallai fod llawer o fai arno yntau hefyd, meddai wrtho'i hun. Gwelodd fod gwallt Leusa'n dechrau gwynnu, a chofiai mor loyw- ddu yr ydoedd gynt. Efallai petai mwy o fynd ynddo ef ...

"Oes 'na bobol yma?" gwaeddodd rhywun o'r gegin.

Brysiodd Leusa i ben y grisiau, ac yr oedd chwerthin yn ei liais wrth ateb.

"Oes, Ifan. Tyd i fyny yma os wyt ti isio hwyl!"

Hwyl! Caeodd William Jones ei wefusau'n dynn.

"Hylô! Be' 'di hyn ?" gofynnodd Ifan Davies pan ganfu'r fasged wellt.

"Mae o'n deud 'i fod o am fynd i'r Sowth bora 'fory. 'Welist ti'r fath giamocs yn dy fywyd ? Fo a Now John am agor gwaith glo newydd yno!"

"Diawch, mae gynno fo lot o deis, hefyd, hogan! Mwy o lawar nag sy gin i." Ac eisteddodd Ifan Siwrin ar erchwyn y gwely, gan syllu tros ei sbectol i'r fasged. "Wyddwn i ddim fod gin ti dei coch, William. Mi fydd 'i isio fo arnat ti tua'r Sowth 'na, wsti. Pwy sy'n mynd i gario'i fasged o i'r stesion, Leusa ?" A chwarddodd y ddau. "Hancesi pocad," oedd unig ateb William Jones, gan fynd i'r drôr i'w hymofyn. Cofiodd hefyd am y drôr fach gloëdig lle'r oedd y chwe phunt, a rhoes yr arian yn llogell ei drowsus. Anwybyddodd ei frawd yng nghyfraith yn llwyr.

"Be 'di'r lol yma, William?" gofynnodd hwnnw ymhen ennyd.

"Llyfr y Post Offis. Mae gin i dros ganpunt yn fan 'no." A dychwelodd y paciwr i'r drôr fach i nôl y llyfr. Penderfynodd Leusa grio eto.

"Hancas," meddai William Jones, gan estyn un iddi.

"Tria roi rhyw synnwyr yn 'i ben o, Ifan," ochneidiodd hithau.

"Petha' shefio.... Na, mi fydda' i isio'r rheini bora 'fory."

"William!" meddai Ifan Davies yn ei lais mwyaf awdurdodol.

"Sgidia' gwaith. Gwell imi fynd â nhw." A brysiodd i lawr y grisiau.

Arhosodd y brawd a'r chwaer yn syn ac amyneddgar wrth y fasged wellt, ond ni ddychwelodd ei pherchennog ati. Yn lle hynny, brysiodd drwy'r pentref i "ddeud gwd-bei" wrth Bob Gruffydd, ei bartner. Cafodd hwnnw ar fin troi i'w wely, a gwrandawodd ef a'i wraig yn geg-agored ar stori William Jones. Beth am ei waith yn y chwarel? Beth a wnâi ym "mhen draw'r byd," a miloedd yno yn gorfod loetran wrth gonglau'r ystrydoedd? Beth ped âi Leusa at gyfreithiwr? Beth am y tŷ a'r rhent a'r dodrefn? Beth am ...? Ond ymddangosai'r dihiryn fel petai uwchlaw mân ofidiau'r llawr. "O, mi fydda' i'n olreit," oedd ei ateb i bopeth.

Yr oedd ei gamau'n rhai cyflym a chadarn drwy'r pentref pan droes adref tuag un ar ddeg.