William Jones (Nofel)/Pennod 8 - Sabath

Pennod 7 - Y Nefoedd, Dyma Le! William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 9 - Sowthman

PENNOD VIII

SABATH

DEFFROES William Jones yn fore, ond arhosodd yn ei wely, gan syllu’n freuddwydiol o gwmpas y llofft. Trawai llif yr heulwen ar y mur chwith, a gwyliodd y rhimynnau hirion o olau yn disgleirio ac yn pylu bob yn ail ennyd. Diar, dyna beth glân oedd goleuni, onid e? Ac wedi i'r sylw chwyldroadol hwn fynd trwy ei feddwl, gwenodd ar y darlun o Grad a Meri i'r dde o'r ffenestr. Y darlun a dynnwyd ar ddydd eu priodas ydoedd, Crad mewn dillad milwr â gwên go wirion ar ei wyneb, a Meri'n edrych yn ddifrifol iawn, fel petai hi'n sylweddoli iddi ymgymryd â dyletswydd go fawr. Aethai yn agos i ugain mlynedd heibio er hynny, a newidiasai'r blynyddoedd lawer ar y ddau wyneb yn y darlun. Dyna dew oedd Crad y pryd hwnnw!—tew a llon a difater, heb boen yn y byd. Ymddangosai Meri hefyd yn ddeugain, yn hytrach nag ugain mlynedd, yn ieuangach nag oedd hi yn awr. Oedd, yr oedd hi wedi heneiddio cryn dipyn er pan welsai hi bum mlynedd yn ôl, meddai William Jones wrtho'i hun.

Canai bronfraith mewn gardd islaw, a meddyliodd William Jones fod ei llais yn rhy bêr i ryw anialwch o le fel hwn. Mewn dyffryn glân a gwyrddlas y dylai hi diwnio, uwch murmur nant ac yn su awel mewn dail. Caeodd ei lygaid, a dug hyfrydlais y fronfraith ef i'r darn hwnnw o Afon Gam lle gwyrai'r coed yn do uwch clychau'r dŵr a ddisgynnai'n rhaeadr fechan, wen. I'r fan honno y dylai'r fronfraith hon ehedeg, yn lle cymryd arni ei bod yn ei mwynhau ei hun mewn diffeithwch fel hwn.

Clywodd sŵn Meri'n mynd i lawr y grisiau cyn hir, a chododd yntau. Safodd eto wrth y ffenestr i syllu ar y cwm islaw, ar ystrydoedd tlawd a syth y pentref, ar ffrâm ddu, galed, Nymbar Wan, fel crocbren haearn uwch y siediau a'r wagenni segur, ar y llethrau moel a chlwyfedig, ar wg tywyll y tip glo uwchlaw iddynt. Na, ag iddi ddewis o lwybrau tawel dan lesni coed, ni ddylai bronfraith ganu mewn lle fel hwn.

"Diar, be' wyt ti isio codi mor fora, dywad?" meddai Meri wrtho pan gyrhaeddodd y gegin.

"Ond mae hi ymhell wedi wyth."

"Mae hynny'n fora ar ddydd Sul, William. Mi fydd y lleill yn 'u gwlâu am yn agos i ddwyawr arall."

"Ond 'roedd Crad yn deud wrtha' i neithiwr 'i fod o'n mynd i'r capal bob bora Sul."

"Mi fydd o, ond un ar ddeg, nid deg, y maen nhw'n dechra' yma."

"O?" Enghraifft arall o ddiogi a difaterwch y Sowth.

"Na hidia; mi gawn ni damad o frecwast hefo'n gilydd."

"Sut mae Crad y dyddia' yma, Meri?" gofynnodd iddi wedi iddynt eistedd wrth y bwrdd.

"O, mae o'n well o dipyn 'rŵan. Mi fuo fo'n cael pylia' ofnadwy yn 'i wely'r nos—bron â mygu, fachgan—ond mae o'n cael llonydd oddi wrth rheini ers tro. Mewn rhyw ffordd ma'n dda 'i fod o allan o waith, ne' 'wn i ddim be' fasa' wedi digwydd 'tasa' fo wedi dal i fynd dan ddaear. 'Roedd o'n mynnu mynd ar fy ngwaetha' i."

Ar ôl brecwast aeth William Jones allan am dro, gan fwriadu dringo'r llwybr i'r mynydd. Ond wedi iddo gyrraedd pen yr ystryd, troes i'r chwith ac i lawr i'r pentref i gael golwg mwy hamddenol ar y lle. Chwaraeai twr o blant ym mhob heol, ac yn eu plith yr oedd cŵn y greadigaeth. Ysgydwodd William Jones ei ben yn drist: beth a ddywedai Mr. Lloyd? Pan gyrhaeddodd y brif heol, gwelodd ddwy siop wrth ochrau'i gilydd â'r ddau air TO LET yn fawr ar eu ffenestri, ac yr oedd un arall, siop esgidiau, yn wag tros y ffordd iddynt. Pur dlawd yr ymddangosai eraill, a hysbysai amryw eu telerau arbennig-hyn-a-hyn ar law a hyn-a-hyn yr wythnos: gallech brynu rhywbeth, o fwced i biano, felly. Nodiodd William Jones ar ŵr bach cyflym a godai ei ben, yn wên i gyd, o'r papur Sul yr oedd newydd ei brynu. "Bora bach ffein?" meddai yntau, gan ateb ei gwestiwn ei hun ag "Odi, wir, w!" a gwên arall ar gynnwys y papur. Newyddion da o lawenydd mawr am Golden Streak, efallai. Pam na roesai'r dyn goler a thei am ei wddf? Yn enwedig ar fore Sul fel hyn.

Wrth ddynesu at y Workmen's Hall, syllodd William Jones yn ddig ar y dwsin o lanciau a merched ifainc a gyfarfuasai yno i gychwyn ar eu beiciau i lan y môr neu rywle. Ni hoffai eu coesau noethion na'u gyddfau isel na'u sŵn gorlawen. Yna oedodd ennyd ar y bont i wylio lliwiau'r olew a nofiai ar dywyllwch araf yr afon islaw. Yr oedd siop yr Eidalwr gerllaw ar agor, a chlywai chwerthin a chlebran uchel ynddi. Oni wyddai'r taclau ei bod hi'n ddydd Sul? Troes William Jones yn ei ôl yn bur anhapus ei feddwl.

Cafodd y teulu wrth eu brecwast o weddill y sausage a ddygasai Wili John o siop y cigydd. Yr oedd dagrau ar ruddiau Eleri.

"Hylô, be' sy?" gofynnodd ei hewythr.

"O, meiledi yn daer am gael gadal yr ysgol," meddai ei mam. "Mae hi'n un ar bymtheg ac yn sâl isio mynd i weithio. I b'le, dyn a ŵyr.”

"I Lunden, fel Rachel."

"Hogan tros ffordd sy wedi mynd i weini at ryw Iddewon yn Llundain," eglurodd Meri. "Ac mae hi bron â thorri'i chalon yno, yn ôl 'i mam."

"Dyw hi ddim," meddai Eleri'n ystyfnig.

"Be wyddost ti? Dos di ymlaen hefo dy frecwast a phaid â bod yn fabi 'rŵan."

"Dere di 'nawr 'rŵan," meddai ei thad mewn cymysgedd rhyfedd o'r ddwy dafodiaith.

"Mae'n ddigon inni weld Arfon a Wili John wedi gadal yr ysgol," chwanegodd ei mam wrth Eleri, "heb orfod gwrando arnat ti'n swnian. Dy le di ydi gwneud dy ora' yno, gan dy fod ti'n cael cyfla i fynd yn dy flaen. Yntê, Wncwi William?"

"Ia ... Ia, wir," meddai William Jones yn ddwys.

Rhyw sylwadau o eiddo Arfon am dyrfaoedd a phrysurdeb Llundain oedd achos yr helynt. A dwyawr ganddo i aros am ei drên ar ei ffordd adref, aethai am dro i ganol y ddinas, gan ryfeddu at y goleuadau amryliw a droai nos yn ddydd, at y lluoedd o bobl ym mhobman, at y ceir yn gwibio yma a thraw. Troes i mewn i dŷ-bwyta anferth am gwpanaid o goffi, ac yno yr oedd darluniau a goleuadau cywrain ar y muriau, cannoedd o bobl wrth y byrddau, ac, mewn ffrydlif o olau a newidiai ei liw bob ennyd, fand o wŷr yn chwarae a chanu, pob un ohonynt yn gwisgo crys o sidan melyn. Teimlai Arfon yn euog wrth ofyn am ddim ond cwpanaid o goffi yn y fath blas o le, yn arbennig a'r dyn a weinyddai arno'n gwisgo ffrynt wen galed a bwa du. Cafodd fwy na gwerth ei dair ceiniog yn gwylio'r bobl o'i amgylch, y gymysgfa ryfeddaf a welsai neb erioed. Bwytâi un gŵr swper anferth gan ddal i ysmygu ei sigâr yr un pryd rhwng pob cegaid o fwyd; gwelai un arall gerllaw iddo, dyn â barf laes, aflêr, yn darllen yn uchel o lyfr o'i flaen ac yna'n annerch y byd yn gyffredinol, gan grychu a dadgrychu ei drwyn yn ffyrnig.

Cuddiodd William Jones y wên a ddeuai i'w wyneb wrth iddo ddilyn Crad a'r plant tua'r capel, ddeng munud yn rhy gynnar. Yr oedd cerdded Crad yn wahanol i'r hyn ydoedd y noson gynt, yn fwy defosiynol, yn drymach, yn arafach, a lled-ddisgwyliai i'w frawd yng nghyfraith agor ei lyfr emynau a ledio emyn yng nghanol yr ystryd. Hwy oedd yr unig rai yn y capel am rai munudau, ond dechreuodd y gynulleidfa fechan ymgasglu cyn hir. Gwyliodd William Jones hwy'n mynd i'w seddau-pobl ganol oed neu rai hŷn bron i gyd, a daeth cwestiwn yr hen Ddafydd Morus yn ôl i'w feddwl. Beth a ddeuai o'r capeli ymhen ugain mlynedd, tybed? Clywsai lawer o sôn am gynulleidfaoedd mawrion y Sowth, am bregethwyr yn ysgwyd tyrfaoedd, am ganu a ymchwyddai'n donnau ysblennydd. Ond yma, ym Mryn Glo, gwelsai mai'r papur Sul a beicio i lan y môr a siop yr Eidalwr a ddenai'r ieuainc—yn y bore, beth bynnag: ond efallai y byddai pethau'n o wahanol erbyn y nos. Gwelodd David Morgan yn cymryd ei le yn y Sêt Fawr, ac wrth ei ochr eisteddodd gŵr ifanc unfraich, myfyrgar yr olwg. "Hogyn Dai Morgan," sibrydodd Crad. Colli’i fraich yn y pwll." Yna daeth y gweinidog i mewn, gan ysgwyd llaw â'r blaenoriaid cyn dringo i'r pulpud. Gŵr tua deugain oed ydoedd, ond â'i wallt brith a'i wyneb dwys yn gwneud iddo ymddangos rai blynyddoedd yn hŷn na hynny. Wyneb tenau, cerfiedig; llygaid treiddgar, anniddig; talcen uchel, llydan; gwefusau go lawn, a llawer o chwerthin ynghudd ynddynt; gên gul, benderfynol—nid rhyfedd bod Crad yn edmygu'r dyn hwn, meddai William Jones wrtho'i hun. Yr oedd cywirdeb ac onestrwydd yn amlwg ynddo, ym mhob edrychiad ac osgo; ni thwyllai hwn mohonoch hyd yn oed ag ystum, ac nid yn hawdd y twyllech chwithau'r llygaid byw a chraff hynny. Wedi blynyddoedd yng nghysgod brawdgarwch diog Edward Lloyd, awdur a pherffeithydd pob cyfaddawd, ni fedrai William Jones ddygymod am funud ag ynni anesmwyth y gŵr o'i flaen. Arafwch duwiol, addfwynder cysglyd, a swnian pregethwrol oedd ei syniad ef o weinidog, a phan lefarai'r oracl i gyhoeddi'r emyn "tru chant tru deg a thru," gofalai wneud hynny mewn tôn annaearol. Ond yn syml a chywir y lediai hwn yr emyn cyntaf, heb affliw o gŵyn na chryndod yn ei lais. Felly y darllenai William Jones ei hun y geiriau, ac yr oedd hi'n amlwg nad oedd y John Rogers 'ma'n llawer o bregethwr. Rhodres oedd ymwrthod â rhodres fel hyn, a dyna, efallai, paham yr oedd Crad yn ei barchu. Yr oedd twyllo Crad yn waith go hawdd, meddai William Jones wrtho'i hun. Ac eto ...

Felly hefyd y darllenodd y pregethwr y bennod ar Ddoethineb o Lyfr Job. Clywsai William Jones Mr. Lloyd yn darllen y bennod honno droeon, a'i lais cwynfanllyd a chrynedig yn canu fod "llwybr nad adnabu aderyn ac ni chanfu llygad barcud" ac yna, fel petai ar foddi ac yn ymestyn am gangen i hongian wrthi, yn galw'n ymbilgar, "Pa le y ceir doethineb?" Ond codi ei ben o'i Feibl a wnâi'r dyn hwn, a syllu'n ddifrifol o amgylch ei gynulleidfa wrth ofyn y cwestiwn. Pan droes ei lygaid treiddgar i'w gyfeiriad ef, dechreuodd William Jones feddwl yn wyllt ym mha le yr oedd Doethineb, rhag ofn y byddai'n rhaid iddo ateb ar goedd. "Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi," meddai llais tawel Mr. Rogers, "ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyd â myfi. Ni cheir hi er aur pur, ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian. Ni chyffelybir hi i'r aur o Ophir, nac i'r onix gwerthfawr, nac i'r saphir. Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi ..." Felly y pentyrrai'r llais clir gyfoeth ar gyfoeth, ac yna cododd y pregethwr ei ben i syllu o sedd i sedd. "Gan hynny o ba le y daw doethineb ?" gofynnodd, "a pha le y mae mangre deall ?" Ni fedrai William Jones yn ei fyw gofio diwedd y bennod a'r ateb i'r cwestiwn, er iddo grychu ei dalcen a hyd yn oed roi ewin ei fawd rhwng ei ddannedd yn yr ymgais. Daria, ymh'le yr oedd hi, hefyd? Ei ateb i bron bob cwestiwn yn yr Ysgol Sul oedd "Iesu Grist," ond ni wnâi hwnnw'r tro wrth drin Llyfr Job. "Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw," aeth y darllenwr ymlaen, "a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd." Dilynodd William Jones bob adnod yn astud, nes dyfod yr ateb o'r diwedd—"Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg sydd ddeall." Ia, dyna fo—"ofn yr Arglwydd ;" yr oedd o'n gwybod, ond i'r peth fynd yn angof. Ond be' oedd "ofn yr Arglwydd?"

Yr adnod honno oedd testun y bregeth, a thawelwyd chwilfrydedd William Jones cyn hir. Clywodd am wybodaeth dyn, heb ei chyffwrdd â gwyleidd-dra duwiol, yn anrheithio gwledydd â rhyfel, dinasoedd â thlodi, cymoedd â diwydiant haerllug: clywodd hefyd am ryw wraig o'r enw Madame Curie a rhyw wr o'r enw Albert Schweitzer yn troi eu gwybodaeth yn ddoethineb trwy ei chyflwyno i wasanaeth eu cydddyn yn wrol a gostyngedig, gan ogoneddu Duw yn eu gwaith. Teimlai William Jones yr hoffai wybod mwy am y bobl hyn, ac efallai y medrai gael gafael ar ryw lyfr yn cynnwys eu hanes. Y gwir oedd na threngasai'r anturiaethwr cynnar ynddo, y gwron a ddarganfu'r ynys bell a chyfandiroedd newydd yng nghwmni Enid May, a phe câi ef y cyfle, dyna a wnâi yntau yr yfory nesaf—troi ei wybodaeth yn ddoethineb, trwy wasanaeth i'w gyd-ddyn. Ei wybodaeth? Sut i rwygo'r graig yn y twll ac i hollti a naddu yn y wal. Ond erbyn hyn gadawsai'r pregethwr yr enwogion i holi beth oedd doethineb ymhlith pobl syml a chyffredin fel hwy. A'r un oedd yr ateb—ymroi i wasanaethu eraill mewn gair a gweithred er eu budd hwy ac er gogoniant Duw. A phenderfynodd William Jones ei bod hi'n hen bryd iddo ef fod o ddefnydd i eraill yn lle meddwl o hyd am ei gysuron a'i gynlluniau ei hun. Ac am Leusa! ... ond cododd i ganu'r emyn olaf, gan ddilyn yn ufudd ac eiddgar yr arweiniad a roddai llaw David Morgan i'r gynulleidfa.

"Wel, be' wyt ti'n feddwl ohono fo, William ?" oedd cwes- tiwn Crad ar y ffordd adref.

"Dydi o ddim fel pregethwr, fachgan." "Y?" "Ddim yn gwneud llais, na mynd i hwyl, na gwisgo colar galad a thei du. Mae o yr un fath â chdi ne' fi." "Ond pa ods am hynny?" Yr oedd tôn Crad braidd yn llym.

"Dim o gwbwl. Yr ydw i'n meddwl mai fo ydi'r dyn mwya' ydw i wedi'i gwarfod erioed."

Taflodd Crad olwg dig tua'i frawd yng nghyfraith, gan fedd- wi mai cellwair yr oedd, ond gwelodd ei fod o ddifrif. "Ydi, mae Mr. Rogers yn ddyn mawr," meddai. "Dim lol o'i gwmpas o," chwanegodd, yn methu â meddwl am deyrnged huotlach.

Tra oedd Eleri a Wili John yn yr Ysgol Sul a Chrad yn cael rhyw awr o orffwys, aeth William Jones am dro hefo Arfon yn y prynhawn. Crwydrasant wrth ochr yr afon i fyny'r cwm i gyfeiriad Tre Glo, a gwrandawai ei ewythr ar y bachgen yn sôn am undonedd ei waith yn Slough ac am ei lety digysur. "Ond pidwch â gweud gair wrth 'Mam, Wncwl," oedd rhybudd Arfon. Yna aeth i sôn am y ddrama a luniai yn ei oriau hamdden, y campwaith a ddygai fri a chyfoeth iddo. Ynddi dychwelai rhyw fardd ifanc o Sais, y tybiai pawb iddo farw yn y Rhyfel Mawr, yn ôl i'w gartref, a drowyd yn rhyw fath o amgueddfa bur enillfawr gan ei wraig a'i gŵr ariangar. Gwel y bardd na thelir fawr ddim sylw i'w gerddi, dim ond i'w goffadwriaeth fel milwr ifanc, hardd yr olwg, ac er iddo syrthio mewn cariad â'r ferch a ofalai am drugareddau'r tŷ, try ymaith yn dawel a thrist yn niwedd y ddrama, gan ddewis byw yn nhir angof.

"Beth ych chi'n feddwl ohoni, Wncwl?"

"Wel, wir, reit dda, fachgan, er na wn i ddim am ddrama, wel'di. Ond ..."

"Ond be', Wncwl William?"

"Meddwl yr on i fod y bywyd yn un go ddiarth iti, Arfon.

'Fydda' ddim yn well iti sgwennu am le fel Bryn Glo 'ma ac am bobol fel dy dad ac Eleri a ... a Mr. Rogers a ...a David Morgan?"

"S dim drama yn y lle yma," oedd barn Arfon. "Ma' fa 'di marw, Wncwl."

"Falla' mai yn hynny y mae'r ddrama, fachgan," meddai ei ewythr, gan sylwi ar ryw ddyn bach a syllai'n ddig tuag olwynion segur Pwll Bach ar draws y cwm, olwynion nad oedd ond i'w cysgodion un symud. "Falla', wir, wsti."

Bu tawelwch rhyngddynt am amser, ac yna darluniodd William Jones ryw ŵr a gyfarfuasai yn y trên y diwrnod cynt, dyn a roddai ei ben allan ym mhob gorsaf i ddwrdio pob porter am fod y trên yn hwyr. Chwarddodd Arfon yn isel, ac yna safodd yn sydyn ar y llwybr.

"Chi sy'n reit, Wncwl William," meddai.

"Y?"

"Obothdu'r ddrama 'na. Rhaid i'r bachan 'na ddod 'nôl i Fryn Glo ac i sgwennu barddoniaeth newydd am bobol fel Mr. Rogers a Dai Morgan a ..."

"A'th dad."

"Ie, a 'Mam. A Wili John."

"Ac Arfon Williams." A chwarddodd y ddau wrth droi'n ôl tua'r pentref.

Beth a ddeuai o Arfon, tybed? gofynnodd William Jones iddo'i hun ar y ffordd yn ôl. Yr oedd yn fachgen glân, eiddgar, byw ei feddwl, un dwys fel ei fam, ond dyna ef yn y Slough 'na mewn gwaith dienaid a llety digalon yn lle cael ymhyfrydu mewn llyfrau a mwynhau breintiau addysg. Ac yn ôl a glywsai gan Grad, yr oedd ugeiniau o rai tebyg iddo yn ninasoedd Lloegr. Piti garw. Yr oedd hi'n bryd i rywun wneud rhywbeth i atal y llif o'r cwm a'r cymoedd hyn i Loegr. Oedd, wir, yn hen bryd i rywun wneud rhywbeth.

Wili John oedd y parablwr mwyaf amser te. Dyfeisiasai ef a Gomer Rees, hogyn Shinc, gynllun i ddwyn bywyd yn ôl i Fryn Glo. Y drwg oedd na wyddai'r Bobl Fawr yn Llundain hanes y cwm, a'r ffordd i'w deffro oedd trefnu gorymdaith arall i'r brifddinas. (Fe fuasai un go dila rai blynyddoedd cyn hynny). Yr oedd gwŷr y cwm i gyd i ymuno â hi'r tro hwn, ac wedi iddynt gyrraedd Llundain, i mewn â hwy yn dorf i'r Tŷ Cyffredin. Yno, araith ysgubol gan Shinc, a'r Prif Weinidog yn neidio ar ei draed ac yn cydio yn ei het i ddal y trên cyntaf i Fryn Glo. Rhagredegwyr y fyddin enfawr, ar gefn eu beiciau, fyddai Gomer a Wili John, a chan un faner ac arni fygythiadau didosturi a'r llall yn ysgwyd cloch anferth ym mhob pentref a thref ar y ffordd.

"Ddega' o weithia' yr ydw' i wedi deud wrthat ti am beidio â chlebran hefo dy geg yn llawn o fwyd," oedd barn ei fam am y cynllun. A thawodd y chwyldroadwr, gan daflu golwg dig tuag at ei Wncwl William, a oedd, yn ôl Gomer, yn un o'r cyfalafwyr. Dim ond cyfalafwr a allai fforddio byw ar ei arian.

Yr oedd cynulleidfa lawer cryfach yn y capel yn yr hwyr, ond sylwodd William Jones eto mai pobl mewn oed oeddynt gan mwyaf. Cofiai Meri, meddai hi ar y ffordd i'r gwasan- aeth, amser pan na fyddai gobaith i rywun gael sedd yn y capel heb gyrraedd yno cyn chwarter i chwech, ond yn awr, y galeri i gyd yn wag a llawer o seddau gweigion ar y llawr. Yr ifainc ? o, yn crwydro'r ffyrdd neu â'u trwynau yn y papurau Sul. Ysgydwodd William Jones ei ben yn ddwys. Ond rhywbeth tebyg oedd pethau yn Llan-y-graig, o ran hynny. Petai gan yr ifainc 'ma rywbeth i'w gynnig yn lle'r gwasanaeth crefyddol, rhywbeth gwell na beic a gliniau noeth... Ac eto, yr oedd golwg iach ac effro iawn o gwmpas y bobl ifainc hynny a welsai ar gychwyn i rywle yn y bore. Fe wnâi fyd o les i rai o flaenoriaid Llan-y-graig gael beic a throwsus bach a chrys agored yn lle dillad parch a het galed. Gwenodd William Jones wrth feddwl am yr hen Wmffra Roberts a Mr. Lloyd yn gyrru'n wyllt ar gefn tandem. Sylweddolodd fod Crad yn ei wylio'n syn, a gwnaeth ymgais i ymddwyn yn fwy gweddus yn y deml.

Nid oedd William Jones yn ganwr, er bod ganddo lais pur swynol. Rhyw lusgo drwy bob emyn y byddai'r gynulleidfa yn Llan-y-graig, a Richard Ifans, yr arweinydd, yn dal yn hir ac yn uchel ar nodyn olaf pob bar, gan ddisgwyl i bawb arall ymdawelu i wrando ar hyfrydwch ei lais. Yn wir, er dyddiau'r Band of Hope, pan alwai Huws Roberts Wili Jôs ymlaen i diwnio yn y Sêt Fawr, bodlonodd ein gwron ar fywyd digân. Rhwng ymgais i anghofio bref Richard Ifans a cheisio'i berswadio ei hun nad oedd sgrech Leusa wrth ei ochr mor anfelys ag y tybiai ef, go annifyr y teimlai wrth godi i ganu emyn yn y capel. Dyna un peth a boenasai gryn dipyn arno wedi iddo syrthio mewn cariad â Leusa-ei llais. Y mae'n debyg y credai hi ei fod yn un peraidd, ac mai'r gred honno a eglurai'r sgrechian wrth siarad ar y stryd ac wrth ganu yn y capel. Neu a oedd hi'n bosibl na chlywai rhywun mo'i lais ei hun? Efallai, wir. Prin yr agorai na Richard Ifans na Leusa eu cegau byth wedyn pe rhoddai Rhagluniaeth iddynt ddim ond chwarter munud o glywed eu lleisiau eu hunain. Dywedasai rhywun yn y caban ryw ddiwrnod nad trwy'r glust ond trwy'r esgyrn y cludid llais y dyn ei hun i'w ymwybyddiaeth, ond mai â'r glust y gwrandawai ar bawb arall. Wel, yr oedd esgyrn Richard Ifans a rhai Leusa'n hollol ddideimlad erbyn hyn... Rhoes William Jones y meddyliau hyn o'r neilltu wrth godi i ganu'r emyn cyntaf ac i gydio yn y llyfr a ddaliai Eleri iddo. Gwelai ryw ddyn yn y sedd o'i flaen. yn sgwario'i ysgwyddau ac yn taro'i fawd yn mhoced ei was- god. 'Roedd ganddo feddwl ohono'i hun fel tipyn o ganwr, yr oedd hi'n amlwg, a mingamodd William Jones wrth edrych arno. Go debyg yr ymddangosai ei wraig, a safai wrth ei ochr, a'r gŵr bychan wynepgoch yng nghanol y sedd a'r dyn tal a thenau yn y sedd o'u blaen. Ond dyna nhw, rhai powld fel ’na oedd pobl y Sowth, onid e?... Tawodd yr organ a chododd David Morgan, yr arweinydd, ei law. Agorodd William Jones ei geg i ganu'n beiriannol ac isel fel y gwnâi yn Llan-y-graig, ond ymhen ennyd troes ei ben i wrando ar y lleisiau o'i amgylch yn ymdoddi i'w gilydd ac i syllu’n syn ar yr eiddgarwch a lanwai'r wynebau. Clywai'r pedwar llais yn gynghanedd felys a'r dôn yn ymchwyddo ac yn tawelu, yn cyflymu ac yn arafu, mewn ufudd-dod i'r llaw a arweiniai. Rhoes William Jones yntau ei fawd ym mhoced ei wasgod a sgwariodd ei ysgwyddau. Onid oedd yntau'n denor? Oedd, yn llawn cystal tenor â'r dyn o'i flaen. Diawch, mae'r hen William yn medru canu, meddai Crad wrtho'i hun.

Yn ei weddi, diolchodd Mr. Rogers am y nerth a'r gwroldeb a flodeuai o'u hamgylch yng nghanol tlodi a chyni, am y sirioldeb na allai angen ei lesteirio. Tlodi a chyni? Ond nid oedd Crad a Meri a'r plant yn dlawd. Cofiodd William Jones y te ardderchog a gawsai ar ôl cyrraedd y diwrnod cynt, y swper blasus, y cinio bendigedig pan ddaethai o'r capel y bore hwnnw, y te... "Diolchwn, o Dad," meddai llais y pregethwr, "nad gofidio a llefain y mae Dy blant yn eu had- fyd, gan blethu eu dwylo mewn anobaith. Diolchwn am ddewrder y wên ar eu hwynebau, am y lleisiau sy'n ymddangos mor llon er gwaethaf drygfyd, am y llygaid di-syfl, am y dwylo parod, caredig." Ymddangos? Daria'r gair, yn mynnu'i ailadrodd ei hun fel hyn. Beth fuasai'r cytundeb rhyngddynt y noson gynt, hefyd ? O, ia, pymtheg swllt. Na, punt amdani, punt neu ddim. Ac am y tro cyntaf yn ei fywyd dywedodd William Jones Amen, er na wyddai'n iawn am beth. Aeth pen Crad i fyny mewn braw, a syllodd yn geg-agored ar ei frawd yng nghyfraith. A oedd y dyn yn trio cychwyn diwygiad neu rywbeth ? Gobeithio'r nefoedd na chodai ei lais y tro nesaf, rhag ofn i bobl gredu mai ef, Crad, a oedd wrthi.

"Duw, cariad yw." oedd testun y bregeth, a chrychodd William Jones ei drwyn dipyn wrth ei glywed. Hen destun, rhy hen o lawer. Un o ddywediadau mwyaf yr oesoedd, meddai'r pregethwr, cnewyllyn y grefydd Gristionogol. Aeth i sôn am ryw athronydd o'r enw Socrates a oedd yn byw yn Athen dros bedwar cant o flynyddoedd cyn Crist, gŵr a dreuliai ei ddyddiau mewn ymchwil am wirionedd ac a ferthyrwyd am chwilfriwio syniadau esmwyth ei gyfnod. Yr oedd yn amlwg fod gan Mr. Rogers barch mawr i'r Socrates 'ma, a siaradodd yn huawdl am ei feddwl onest, di-ildio, ac am wrhydri'r merthyr yn y diwedd. Am Wirionedd yr oedd ei lef a'i lafur yn ddibaid, ac os daeth athronwyr erioed o fewn cyrraedd i Wirionedd, ef a'i ddisgybl, Plato, oedd y rhai hynny. "Duw, doethineb yw," meddai Socrates, ac ymhen tros ddwy fil o flynyddoedd ar ôl ei farw, daliai'r byd i barchu ac i edmygu ei feddyliau aruchel. "Onid oes arnoch gywilydd," meddai wrth bobl ddoeth a chyfoethog Athen, "yn pentyrru arian ac anrhydedd a bri, heb falio dim am ddoethineb a gwirionedd a thwf yr enaid ?” Do, fe gafodd Socrates weledigaeth, meddai Mr. Rogers, a bu ei fywyd a'i farw ef ei hun yn fynegiant ohoni. "Duw, doethineb yw," oedd cred yr athronydd o Athen. "Ein Tad," meddai'r Nasaread.

Yna taflodd y pregethwr gwestiynau i'r gynulleidfa. Os oedd Duw yn ddoeth, paham y gadawodd i Socrates a'i holl wybodaeth a'i ddoethineb farw mewn carchar yn Athen? Os oedd Duw yn gariad, paham y goddefodd i'w Fab ddringo bryn Calfaria ? Sut y gallai wylio afiechyd a phoen a gormes a chyni? A welai'r tlodi a'r cur yn y cymoedd digysur hyn? A glywai leisiau croch yn yr Almaen ac yn yr Eidal yn gyrru'n wylltach dramp y traed tuag ing rhyfeloedd? A wyddai fod Ei weision a'i broffwydi ymhlith y miloedd o drueiniaid yng ngharchardai'r gwledydd? Duw yn gariad, a'r byd fel petai'n wallgof?

Syllodd William Jones yn anghysurus ar y pregethwr. Yr oedd o yn reit hapus, diolch, a'i feddwl yn ddigon tawel—ar wahân i'r hen helynt ’na hefo Leusa. Ond yn wir, yr oedd rhyw gwestiynau fel hyn yn gwneud i ddyn deimlo'n annifyr, ac yr oedd bywyd yn esmwythach o lawer hebddynt. Rhyfel? Fe gafodd o ddigon o hwnnw yn Ffrainc, ac nid oedd hi'n bosibi y deuai un arall mewn un genhedlaeth. Piti fod Mr. Rogers yn mynd ati i ddychryn y bobl fel hyn ac yntau wedi cael y fath hwyl ar bregeth y bore.

Yna llefarodd y pregethwr mewn dameg wrthynt. Cofiai ddyfod i Fryn Glo bymtheng mlynedd cyn hynny, o'r wlad a'i bywyd digyffro i ganol miri a "mynd” y Cwm. Llifai ynni a llawenydd fel afon: a gofient hwy y cymanfaoedd a'r Cyrddau Mawr a'r cyngherddau, trên llwythog trip yr Ysgol Sul, y baneri a'r bandiau bob Llungwyn yng ngorymdaith enfawr y Gobeithluoedd? Gwelodd William Jones amryw yn troi i wenu braidd yn drist ar ei gilydd ac ambell un yn ysgwyd ei ben yn hiraethus. Gallent oll yn y dyddiau hynny, meddai'r gweinidog, gredu mai cariad oedd Duw. Yna daeth cymylau i'w nef, a diffoddwyd heulwen yr hawddfyd gynt. Credasai ef mai gŵr y tywydd teg oedd Shoni ac y torrai ei galon yn y ddrycin: clywsai ei chwerthin diofal gynt, fel chwerthin plentyn ag amrywiaeth ei deganau o'i flaen. Llithrodd y cymylau'n is, gan daflu cysgodion ar bob aelwyd, a hawdd oedd credu nad oedd Duw yn gariad mwyach: ciliasai wyneb y Tad. Neidiai myrdd o gwestiynau gwyllt i'w meddwl, a gwyddai ef am lawer, yn grefyddwyr ac yn ddigrefydd, a ysgydwai ddyrnau ffyrnig yn wyneb y nef. Hawdd oedd beio Duw am hunanoldeb dynion; hawdd, wrth sefyllian yn y gynffon hir yn aros am y dole, oedd ffromi a cholli ffydd a suro. Eto, ped eisteddai ef, Mr. Rogers, i lawr i gofnodi hanes y Cwm, credai mai'r penodau am y blynyddoedd llwm fyddai'r rhai grymusaf; hwy a ysbrydolid gan stori'r dewrder a'r aberth a'r cymwynasau dirifedi; hwy a ddarllenid eilwaith. gan bwy bynnag a gydiai yn y llyfr. Na, nid dadlau yr oedd mai cerydd y Tad oedd y dyddiau blin: rhyfyg dynion a'u creai hwy. Ond wedi eu dyfod, fe groniclai angylion eu hanes mewn llythrennau o aur, a gwyliai Duw â phryder ac edmygedd ymdrechion Ei blant yng nghanol yr ystorm. Fe ddeuai dyddiau hawddfyd eto—yn fuan, gobeithio—a dychwelai'r chwerthin diofal i heolydd y Cwm. Hwyliai llong eu bywyd eto i ddyfroedd tawelach a mwy heulog, a dywedent hwythau—efallai gan daflu tros y bwrdd yr ysbryd gwrol a dwys a chymwynasgar a fagwyd yn y ddrycin—mai cariad yw Duw. Yr oedd llawer o broblemau na allent hwy eu deall, cwestiynau y methodd rhai o feddyliau cryfaf yr oesoedd eu hateb. Hawdd oedd eu gofyn a'u gofyn drachefn, a'r meddwl truan fel rhywun dall yn ceisio ymlwybro mewn cors. Ond fe ddisgleiriai cariad Duw yn Ei Fab drwy holl niwl a thywyllwch y canrifoedd. Crwydrai dwsin o wŷr ifainc unwaith drwy bentrefi a dinasoedd gwlad Canaan, gan ddilyn y Meistr. Daethant i'w adnabod Ef, i gyfranogi o'i weledigaeth, i ryfeddu at y gwyrthiau a wnâi, i ymfalchïo yn Ei lwyddiant a'i boblogrwydd wrth ganfod y tyrfaoedd a gasglai hyd yr heolydd lle troediai. Duw, cariad yw, meddent wrth ei gilydd. Yna daeth gelyniaeth a gwawd, fflangell a choron ddrain a chroes. Cuddiasai'r Tad Ei wyneb: nid ydoedd Duw yn gariad mwyach. Llanwyd eu meddwl hwy â dryswch mawr: paham y caniatâi Duw i Rufain ollwng Barabbas yn rhydd a rhoi ar ysgwyddau diniwed y Meseia. faich gwrthun y groes? Ni wyddent; ni wyddent. Heddiw, ymhen yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, gwelem yn aberth y Groes arwyddlun perffaith o gariad y Tad, darlun a ysbrydolodd gelfyddyd a bywyd gorau'r oesoedd, goleuni na ddiffoddid. Duw yn cuddio'i wyneb? Nage, yn Ei ddatguddio'i Hun yn Ei wir ogoniant.

Yr oedd hi'n amlwg i Grad i'w frawd yng nghyfraith fwynhau'r bregeth. Cafodd gip ar y gloywder yn ei lygaid ac ar y wên o edmygedd a chwaraeai ar ei wefusau. Ond diolch i'r nefoedd na ddihangodd Amen ara!l o'i enau. Yna codasant i ganu, a theimlai Crad yn falch o'r llais tenor peraidd a ddeuai o'i sedd. Yr oedd yn gryfach, yn fwy ffyddiog, y tro hwn hefyd.

Daethant allan o'r capel yng nghwmni Twm Edwards, y gŵr a gyfarfuasai William Jones yn y trên y diwrnod cynt. Wel, beth oedd o'n feddwl o'r lle? A oeddynt am fynd i'r Cyngerdd? Oeddynt, Arfon a'i dad a'i ewythr. Sylwodd William Jones ar y bobl ifainc hyd yr heolydd, a sylweddolodd mai Saesneg oedd iaith y mwyafrif ohonynt. Problem anodd, meddai Crad. Yr oedd hi'n bryd gwneud rhywbeth, oedd sylw William Jones. Oedd, yn wir, cytunodd Twm, a siaradai Saesneg bob gair â'i blant. Aethant heibio i'r Clwb, a chlywed sŵn clebran a chwerthin uchel drwy'r lle. Yr argian fawr, sut y caniateid "Hylô, bois!” gwaeddodd Shinc o'r drws. "Cyrdda' Mawr 'da ni yma heno!" "Go lew, wir, diolch," atebodd William Jones. Aeth tri bws mawr heibio.

"Na nhw!" meddai Twm. "Whîl a sprag bob un, bachan! 'Na chi fechgyn!" Ac i ffwrdd ag ef ar eu holau, gan ddweud bod ganddo gefnder yn canu yn y côr. Eglurodd Crad mai coler big a bwa du oedd "whîl a sprag."

Yng Nghalfaria, capel mwyaf y lle, y cynhelid y cyngerdd, a chodasid yno lwyfan uwchben y Sêt Fawr. Gwyliodd William Jones y côr yn cerdded i'r llwyfan, pob un â'i "whîl a sprag" a'i ddillad tywyll. Pwy a feddyliai'r rhai hyn oeddyn' nhw? Mr. Rogers oedd y llywydd, ac wedi iddo offrymu gweddi fer, gwahoddodd y côr a'r gynulleidfa i ymuno i ganu emyn. Caeodd William Jones ei lygaid i wrando ar y môr o gân a godai o'i amgylch ac o'i flaen; ni chlywsai ef ei debyg erioed. Edrychodd o'i gwmpas ar y bobl, ar osgo eiddgar eu cyrff ac ar y disgleirdeb a oedd yn eu llygaid, gan ryfeddu bod cân yn eu deffro drwyddynt fel hyn. Ac yr oedd yn y gynulleidfa liaws mawr o bobl ifainc-yn addoli mewn moliant. Onid oedd acw, ym mlaen y galeri, rai o'r bechgyn a welsai'n cychwyn ar eu beiciau yn y bore?

"Diawch, maen nhw'n edrach yn dda," sibrydodd Crad wedi iddynt eistedd.

"Pwy?"

"Y côr. Dyna iti hogia', William!"

"O?" Ebychiad go ddifater oedd yr "O?" Yr oedd yn amlwg fod Crad wedi ei lyncu gan y Sowth a'i sŵn a'i ymffrost.

"Edrych arnyn nhw, mewn difri, mor lân a theidi ar y llwyfan 'na. Côr o gant a deugain, a 'does 'na ond rhyw hanner dwsin mewn gwaith. Dyna iti hogia?!"

Cyflwynodd Mr. Rogers y côr i'r gynulleidfa. Teimlai'n wylaidd wrth wneuthur hynny, meddai, gan wybod ei fod ym mhresenoldeb gwŷr dewr iawn, gwŷr a ddaliai i ganu yn yr ystorm. Un amcan i'r cyngerdd oedd cynorthwyo'r côr i deithio i fyny i'r Eisteddfod Genedlaethol, a gwyddai y dychwelent o Gaernarfon nid yn unig yn fuddugoliaethus ond â'u cân yn drysor yng nghof a chalon y rhai a'i clywsai. "They learn in suffering what they teach in song," meddai un awenydd wrth sôn am y beirdd, ac er cyni'r gaeaf a ddaethai dros y cymoedd hyn, rhyfeddai'r byd at felystra'u cerdd. Gallai ef ddychmygu'r dyrfa enfawr ym Mhafiliwn Caernarfon yn gwylio'r côr hwn o'r Rhondda Fach yn cerdded yn rheng o wŷr llwyd a lluddedig ar ôl cychwyn cyn torri o'r wawr a theithio drwy'r dydd. "Trueni amdanynt!" fyddai'r si o sedd i sedd. Yna canent. "Trueni?" Yr oedd ef yn ddigon o broffwyd i wybod y codai'r dyrfa ar ei thraed mewn gor- foledd. Beth bynnag arall a fyddai yn y canu, byddai enaid ynddo, enaid a gyrhaeddodd ei lawn dwf ym mhryder y dydd- iau blin.

Ac wrth wrando ar y côr dywedodd William Jones Amen- yn dawel wrtho'i hun. Pur anaml y clywid côr yn Llan-y- graig—ar wahân i un y Bwl ar nos Sadwrn—a theimlai wrth eistedd yn y cyngerdd hwn iddo grwydro i ryw fyd dieithr, ysblennydd. Yr oedd syndod plentyn yn ei lygaid fel y pwysai ymlaen i syllu ar y côr, a theimlai'n ddig wrth ferch fach anniddig a eisteddai ryw dair sedd o'i flaen: yn ei gwely y dylai'r greadures yna fod. Digwyddodd edrych ar y cloc cyn hir, a sylweddoli gyda braw ei bod hi'n tynnu at ddeg o'r gloch; llithrasai'r amser heibio fel breuddwyd. Cododd Mr. Rogers i gyhoeddi enw'r darn olaf—"The Sword of the Spirit" o waith Caradog Roberts, un o'r darnau ar gyfer yr Eisteddfod. Eisteddodd William Jones yn ôl, yna ymlaen, yn ôl eto, yna ymlaen i bwyso ar y sedd ac i geisio cuddio'r dagrau a gronnai yn ei lygaid. A phan dawodd y côr, chwythodd ei drwyn yn ffyrnig.

A phrin y gallai Crad gael gair o'i ben ar y ffordd adref.

"Be' oeddat ti'n feddwl o'r consart, William?" oedd cwestiwn Meri amser swper.

"Wyddwn i ddim bod y fath ganu yn y byd, hogan," oedd yr ateb, a swniai braidd yn floesg.

"Trueni amdanyn nhw!" meddai Meri.

"Trueni?"

"Ia, allan o waith bron i gyd. Pam wyt ti'n swnio mor syn, William?"

"Wel ..." Ond ni cheisiodd egluro, er i rywbeth am "orfoleddu mewn gorthrymderau" wibio i'w feddwl. Ni theimlai fod gallu Mr. Rogers i drin geiriau ganddo ef; ni wnâi ond baglu drostynt.

Cyn tynnu oddi amdano, safodd yn hir eto wrth ffenestr y llofft. Yr oedd hi braidd yn hwyr, ac ni ddeuai sŵn o unman, dim ond anadlu rheolaidd Wili John o'r gwely. Uwch cwsg tywyll y tip glo hongiai cwmwl bychan aur a phorffor, ar ffurf croes, a syllodd William Jones arno. Am y Groes y buasai pregeth Mr. Rogers onid e? A "Gwaed y Groes" oedd un o'r darnau a ganasai'r côr. Hymiodd yr emyn yn dawel:

"Gwaed dy groes sy'n codi i fyny
'R eiddil yn goncwerwr mawr.
Gwaed dy groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr.
Gad im deimlo,
Gad im deimlo,
Gad im deimlo
Awel o Galfaria fryn,
Awel o Galfaria fryn."

Tybiai y clywai'r emyn, fel y canesid ef gan y côr, yn codi o blith cadwyni arian y goleuadau ar lawr y cwm ac yn dringo trwy wyll y llethrau a thros y bryniau i nofio ymhell, bell, i eithafoedd y byd. Diawch, oeddan', yr oedd y coliars 'ma 'n medru canu! Oeddan', wir, chwarae teg i bawb. Piti ’u bod nhw mor bowld, hefyd! Ond efallai mai rhywbeth ar yr wyneb... Efallai, wir....