William Jones (Nofel)/Pennod 7 - Y Nefoedd, Dyma Le!

Pennod 6 - Anhuedd William Jones (Nofel)

gan T Rowland Hughes

Pennod 8 - Sabath

PENNOD VII

Y NEFOEDD, DYMA LE!

TYNNAI William Jones tua phen ei daith; rhyw chwarter awr arall, a byddai ym Mryn Glo. Hyderai i Grad dderbyn y teligram a yrasai iddo o Gaer ac y deuai rhywun i'w gyfarfod i'r stesion.

Arhosodd y trên mewn gorsaf fechan yng ngwaelod y cwm, a syllodd William Jones braidd yn ofnus ar y pentref a ddring- ai'r llethr gerllaw. Ystrydoedd sythion, unffurf, o gerrig llwyd, yn hongian o dan ryw dip glo anferth. Daeth dau ŵr canol oed i mewn i'r cerbyd.

"Shwmâi?" meddai un.

"Go lew, wir, diolch."

"O, Northman, ifa?"

"Ia, o Lan-y-graig ... Sir Gaernarfon."

"Shwd ma' petha'n dishgwl yn y chwareli 'na 'nawr?

"Y?"

"Shwd ma' petha'n mynd yn y chwareli lan 'na?"

"O, go lew, wir."

"Gwd, w. Ma'n dwym 'eddi'."

"Y?"

"Hoil twym?"

"Ydi, wir." Hyderai William Jones iddo roi'r ateb cywir. Suddodd y glowr yn ôl i'w sedd, gan sychu ei dalcen: gwthiai ei gyfaill ei wefusau allan wrth geisio tanio pwt o sigaret go amharchus ei liw a'i faint.

"Dod am sbel fach?"

"Na, i aros. Meddwl mynd i weithio i'r pwll glo."

Llosgodd taniwr y sigaret ei wefus. "Yffarn dân!" meddai. Ond nodiodd y gŵr arall yn ddeallus a diniwed.

"Ymh'le?" gofynnodd.


"Bryn Glo."

"Yffarn dân! Odi fa'n mynd i shinco pwll newydd yno, Twm?" A rhythodd gŵr y sigaret ar William Jones fel petai'n gweld rhyw greadur o fyd arall.

"Pwll Bryn Glo 'di cwpla', 'chi'n gweld," eglurodd Twm.

"Stop tap ers blwyddyn," ategodd ei gyfaill.

"Wedi be' ddwetsoch chi?" gofynnodd William Jones.

"Cwpla', stopo, cau. Y ddau bwll, Nymbar Wan a'r Pwll Bach. Y Pwll Bach 'di cwpla' ers dwy flynadd."

"Nes i dair, bachan," meddai'r ysmygwr yn rhyfelgar.

"A ma' 'da Fe dŷ mawr yn ymyl Caerdydd, tŷ yn Llunden, a thŷ ar y Rifiera."

"Lord Stub, yr ownar, 'chi'n diall." Nodiodd Twm tuag at ei gyfaill. "Shinc yn Gomiwnist," chwanegodd.

Chwythodd Shinc ei bwt o sigaret o'i geg a chwiliodd yn ofer yn y boced tu fewn i'w gôt am un arall. "Dyw E' ddim yn smoco stymps," meddai.

"Diar annwl, ers tair blynadd!" rhyfeddodd William

Jones mewn ymgais i gadw'r siarad i fynd. "Tair blynadd!"

Syllodd Shinc yn syn arno. A fuasai'r dyn yn byw o dan dwbyn? Petai'n ŵr o America neu Affrica, gallai rhywun ddeall y peth, ond o Sir Gaernarfon y daethai hwn. A heb wybod bod y Pwll Bach wedi'i gau! "Yffarn dân!" meddai drachefn.

"Ôs 'da chi dylwth 'lawr 'ma?" gofynnodd Twm.

"Y?"

"Os 'da chi frawd ne' whâr ym Mryn Glo?"

"Chwaer. Meri Williams."

"Meri Williams ... Meri Williams. .. 'Wyt ti'n 'nabod Meri Williams, Shinc?"

"Nagw'i. B'le ma' hi'n byw?"

"Nelson Street-nymbar sefn."

"Nelson Street ma' Shinc 'ma'n byw. Pwy sy'n nymbar sefn, Shinc?"

"Dai Morgan sy'n nymbar five, wedyn Crad Williams yn nymbar six, wedyn ..."

"Crad ydi 'mrawd yng nghyfraith."

"Ie, 'na fe, Crad sy'n nymbar sefn. Bob yn ail dŷ ma' nhw'n nymbro, ti'n diall, Twm. Crad!" A gwenodd Shinc, gan ysgwyd ei ben.

"Bachan yw Crad," meddai Twm.

"Bachan bidir yw Crad," cytunodd Shinc. Golygai "budr" rywbeth go wahanol yn iaith William Jones, ond teimlai'n reddfol fod rhyw gamddeall yn rhywle.

Ymlusgodd y trên yn araf a swnllyd i fyny'r cwm. Ar y chwith iddynt yr oedd glesni coed lle llechai tŵr rhyw eglwys hynafol.

"Ynys-y-gog," meddai Twm. "Hen iawn, ma' nhw'n gweud. Ac 'ych chi'n gweld y ffarm 'co?".

"Uwchben yr eglwys?"

"Ia. Ma' welydd hon'na yn llathad o drwch. Ffarm Ynys-y-gog. Fan 'na 'roedd y Sgweiar yn byw 'slawar dydd."

Tewch!"

"Y?"

Ond ni cheisiodd William Jones egluro i Twm nad gofyn iddo dewi yr oedd.

Yr oedd golygfa go wahanol ar y dde. Ymwthiai rhyw ddwsin o ystrydoedd ac un neu ddau o gapeli mawr ysgwâr tua'r pwll a'i beiriant-codi uchel, du. Safai'r olwynion yn llonydd a rhydlyd, a gwelai William Jones fod y glaswellt yn aildyfu rhwng yr heyrn ar ben y pwll.

"Pwll yr Abar," meddai Shinc, gan nodio tuag ato. "Lord Stub," chwanegodd cyn poeri drwy'r ffenestr. "Rodd pum cant yn gwitho yn yr Abar. Ond 'nawr. Poerodd Shinc drachefn. Yna rhoes ei law eto yn y boced fach tu fewn i'w gôt, rhag ofn bod stwmp yn ymguddio'n llechwraidd yno. Estynnodd William Jones ei flwch-tybaco iddo, ond gwrthododd Shinc y cynnig. Sigarennwr oedd ef.

"Pwy hawl sy 'da hwn'na i gau'r pwll a mynd off i'r Rifiera? A channodd o'i withwrs ar y dole. Y?"

Ni wyddai William Jones.

Fe'i ysgydwodd y trên ei hun i mewn i orsaf fach Ynys-y- gog. Neidiodd milgi i mewn i'r cerbyd atynt a dilynwyd ef gan ŵr tew a llon ac uchel ei lais.

"Ylô, bois, 'ylô! Jawch, ma' hi'n dwym 'eddi'. Ond 'smo Shinc yn dwym, Twm. Rhy dena' i 'wsu yn yffarn, bachan! Be' am redag ras i fi, Shinc? Fifty to one on Shinc, ontefa, Twm?" A chwarddodd y gŵr tew am hanner munud cyfan.

"B'le ti'n mynd, Jim?" gofynnodd Twm.

"Tre Glo. Mic yn sure thing yno 'eddi', bois. Odi, sure thing. Sigaret, Shinc?"


"Ta." Cynigiodd un i William Jones hefyd, ond ysgyd- wodd ef ei ben, gan ddangos ei bibell. Nid oedd Twm yn ysmygwr.

"Be' ddigwyddws dydd Merchar ym Mhontypridd, Jim?" gofynnodd Shinc wrth estyn matsen olau tua pherchennog y milgi. "Wedast ti fod y ras honno'n sure thing."

"Jiw, yr hen fenyw, fy mam, bachan."

"Be'?"

"Wedi 'i ffido fa lan ar y slei, bois. Ffagots, myn yffarn i, Twm! 'Roedd a'n ffaelu cyffro. Rhedag? Mi fasa' cart chips y Brachi yn 'i baso fa. Ond ma' fa mewn trim 'eddi', ond wyt ti, Mic bach? Fydd dim ci yn Nhre Glo all 'i wynto fa 'eno, Shinc. Fe fydd y ras drosodd cyn iddyn' nhw godi 'u clustia', bachan. Jiw, 'sa ti'n 'i weld a ar y mynydd 'na bora 'ma!"

Treuliwyd y pum munud nesaf yn olrhain hanes Mic, y milgi mwyaf gobeithiol yn y byd er i brofedigaethau lu ei gadw rhag ennill un ras hyd hynny. Ond yr oedd ei awr ar ddyfod.

Gan nad oedd fawr ddim gwerth yn ei farn ar gŵn, suddodd William Jones yn ôl i'r gornel i wylio'r tri gŵr rhyfedd hyn. Byr oedd y tri, ac nid oedd llawer o raen ar eu gwisgoedd. Ni ellid yn hawdd ddarganfod dau mor annhebyg â Shinc a Jim, un yn denau a nerfus a llym, a'r llall yn dew a di-hîd ac uchel ei sŵn. Cadwai Jim ei sigaret rhwng ei wefusau, gan siarad pymtheg y dwsin heibio iddi, ond daliai Shinc hi rhwng ei fysedd, gan dynnu'n chwyrn arni pan drawai hi yn ei geg. Ni chwarddai ef, dim ond taflu ei ben a gwenu braidd yn sur weithiau. Prin y gwelsai William Jones neb erioed ag wyneb mor fain : "fel rasal," meddai wrtho'i hun. Ymddangosai Jim, ar yr olwg gyntaf, yn weddol lewyrchus, â modrwy ar ei fys bach a thei lliwiog yn hongian allan tros ei wasgod, ond dywedai ei esgidiau a gwaelod ei lodrau a dwy lawes ei gôt mai twyllodrus oedd awgrym y fodrwy a'r tei. Yr oedd Twm hefyd yn gymharol dew a llon, ac ef a borthai barablu cyflym perchennog y ci. Tybiai William Jones fod y llodrau gwlanen a wisgai braidd yn rhy olau a llydain i ŵr o'i oed ef; yr oedd tros ei hanner cant a'r gwallt o dan yr het lwyd ddi-lun bron yn wyn. Prin y gallai ddychmygu Bob Gruffydd na hyd yn oed Dic Trombôn yn gwisgo trowsus fel 'na, ond yr oedd llawer o rodres o gwmpas gwŷr y De, onid oedd? Ni wyddai William Jones mai anrheg gan ryw gymdeithas ddyngarol oedd y trowsus urddasol hwnnw.

Wedi iddynt ddechrau blino ar sôn am yrfa ddisglair Mic, eglurodd Twm mai Gogleddwr oedd y "bachan diarth."

"Dod i whilo am waith yn Nymbar Wan, Jim," meddai Shinc yn ei ffordd dawel, sych.

Chwarddodd Jim eto'n hir ac uchel. Dyna fachan oedd Shinc! meddai. Cododd y milgi ei ben a dechreuodd yntau wenu-neu felly y tybiai William Jones.

"Nid jocan 'wy' i, bachan," meddai Shinc. "Ma' fa 'di dod bob cam o Sir Gaernarfon i whilo am jobyn ym Mryn Glo. Ffact."

Edrychodd Jim droeon ar William Jones ac ar Shinc bob yn ail mewn dygn ansicrwydd. Teimlai'r chwarelwr yn bur anghysurus ac ni wyddai pa un ai gwenu a nodio neu wgu a fyddai orau. Gwenodd.

"Oes cŵn lled dda 'da chi lan 'na?" gofynnodd Jim yn penderfynu newid y stori.

Ni wyddai William Jones, gan na welsai ef ras erioed. Eglurodd mai garddio oedd ei adloniant ef. Troes Twm ei ben o'r ffenestr â diddordeb mawr.

"Lotment, sbo?" gofynnodd.

"Na, tipyn o ardd yng nghefn y tŷ."

Nesai'r trên at Fryn Glo a phwyntiodd Twm tua'r allotments ar y llethr islaw'r tip. Yno y treuliai ef a Shinc y rhan fwyaf o'u hamser, meddai, ac i lawr i farchnad y dref y buasent y prynhawn hwnnw i chwilio am fresych ifainc i'w plannu lle buasai'r tatws cynnar. Y cwbl wedi eu gwerthu allan, ond cawsent addewid am rai yr wythnos wedyn. A driodd William Jones dyfu tomatos o gwbl? Sut hwyl a gawsai ar y pys a'r ffa eleni? A ddechreuasai dynnu'r kidney beans eto? Cytunai'r tri'n ddwys fod eisiau glaw yn o arw.

Rhuglodd y trên i mewn i orsaf Bryn Glo. Y nefoedd, dyma le! meddai William Jones wrtho'i hun, gan syllu ar y tipiau glo'n gwyro'n dywyll uwch culni'r cwm. Cododd i estyn ei fasged oddi ar silff y cerbyd, ond gwthiodd Shinc ef o'r neilltu. Fe gariai ef y fasged, meddai.

Yr oedd tri'n aros i groesawu William Jones yn yr orsaf—Crad ac Arfon, ei fachgen, ac Eleri, ei ferch. Ceisiodd Crad gymryd y fasged oddi ar Shinc, ond ymaith â hwnnw a'i gyfaill gyda hi yn fân ac yn fuan tra oedd ef yn ysgwyd llaw â'i frawd yng nghyfraith. Rhyw un ar bymtheg oedd Eleri, a syllodd ei hewythr yn syn arni gan nad ydoedd hi ond naw pan dalodd Crad a'i deulu eu hymweliad diwethaf â'r Gogledd. Pictiwr o ferch, meddai wrtho'i hun, ond nid oedd golwg rhy raenus arni. Tybiai fod Crad hefyd yn edrych yn llwyd a thenau, ond efallai fod y tywydd poeth 'ma... Rhoes ei fraich am ysgwyddau Eleri, gan ddweud y dylai rhywun roi pwysau ar ben Arfon i'w atal rhag tyfu ychwaneg. Teimlai'n fychan iawn wrth ochr y llanc tal a chydnerth nad oedd ond hogyn rhwng deuddeg a thair ar ddeg pan welsai ef ddiwethaf. Ymddangosai Arfon yn o lewyrchus yn ei siwt olau a'i grys gwddf-agored.

"Pryd ddoist ti adra, Arfon?" gofynnodd iddo.

"Bora 'ma. Trafaelu drwy'r nos."

"O? Sut wyt ti'n licio tua Llundain 'na?"

"Slough, nid Llunden. Oreit, Wncwl William. Oreit, wir, w.' Ond nid oedd argyhoeddiad yn ei lais.

Aethant i lawr y grisiau o'r orsaf ac allan i'r ystryd. Gwelai William Jones amryw o wŷr, rhai ohonynt yn ddigoler, yn loetran wrth siop â'r gair BRACCHI yn fawr arni. Deuai sŵn canu croch o ryw beiriant ynddi, a chafodd y chwarelwr gip ar nifer o lanciau wrth fyrddau chwarae hirgul ac ar eraill yn yfed diodydd lliwiog o wydrau uchel. Yr oedd fel ffair yn y siop, a rhythodd y chwarelwr yn syn arni. Yna daethant at bont tros afon lydan. Afon? Syllodd William Jones i lawr ar ddüwch y dŵr ac ar y clytiau o olew a ymdreiglai hydddo. Gwelodd ddau neu dri o blant yn sefyll yn droednoeth yn y dŵr, gan chwilio â'u dwylo am gerrig llyfnion ynddo.

"Lle go wahanol i Lan-y-graig, William?" meddai Crad, wrth sylwi ar y syndod yn llygaid ei frawd yng nghyfraith.

"Ia, wir, fachgan."

"Y Workmen's Hall," meddai Arfon, gan nodio tuag at y neuadd fawr o briddfaen coch ar y dde iddynt.

"O?"

Safai twr bychan o wŷr dadleugar o'i blaen, un ohonynt—un o gymrodyr Shinc, efallai—yn ysgwyd ei ddwrn yn wyneb tri arall. Daeth y ddau air "Means Test" i glustiau William Jones ac yna, o ffenestri uchaf y neuadd, sgrechian tyrfa o blant yn mwynhau rhyw ffilm.


"Ia, wir, fachgan," meddai drachefn, wrth sylwi ar wŷr o bob oed yn loetran hyd yr ystryd. Yr oedd y lle hwn yn ei ddychrynu braidd.

Aethant heibio i Glwb swnllyd ag ynddo lawer o chwerthin a siarad a rhai lleisiau'n canu, ac yna sylwodd William Jones ddwy ddafad fudr a grwydrai'r ystryd o'u blaenau, gan wthio'u trwynau i bobman. Ni welsai ef erioed ddefaid yn crwydro o'r mynydd yn Llan-y-graig i hel eu tamaid hyd yr ystrydoedd. Y syndod oedd na chymerai na phobl na chŵn sylw yn y byd ohonynt.

Atebai Crad ac Arfon gyfarchion rhywrai byth a hefyd fel y cerddent ymlaen, a thybiai William Jones i'w frawd yng nghyfraith a'r hogyn droi'n swagrwyr tebyg i bobl y lle anwaraidd hwn. Yna dechreuasant ddringo'r llethr, ac ni hoffai o gwbl yr heolydd tlawd, anorffen, a fforchiai o'r neilltu. Araf y cerddent, a sylwodd fod Crad yn anadlu braidd yn drwm. Troesant ar y dde cyn hir, a gwelai eu bod yn Nelson Street. Safai cerbyd ice-cream ar fin y ffordd ac o'i amgylch y dyrfa o blant a chŵn, ac ar y palmant oedai gwraig fawr, dafodrydd, flêr, yn magu baban gwichlyd mewn siôl a fuasai'n wen unwaith, ac yn gwisgo am ei phen gap ei gŵr. Gwenodd ar William Jones, ac yna nodiodd yn awgrymog tua chymydog a ddeuai allan o dŷ tros y ffordd.

"Dyn diarth o off, sbo!" meddai ymhen ennyd. "S odd. 'da fi gwpwl o docins yn fy mhoced, i Barry Island elwn i am wthnos yn lle aros yn y twll 'ma." Taflodd Crad winc fawr ar William Jones, a cheisiodd yntau fwynhau'r digrifwch.

Edrychai pob tŷ fel ei gilydd, y llwch glo'n ddu ar eu cerrig llwyd; rhyw bot rhedyn mawr yn ffenestr pob parlwr, a'r ffenestri a'r drysau oll yn dyheu am baent. Ond sylwodd William Jones, er hynny, fod y ffenestri a'r llenni'n lân iawn, a bod cerrig y drws a rhyw hanner cylch ar y palmant o'u blaenau wedi'u sgwrio'n wyn, ac y disgleiriai'r darnau o bres ar bob drws yn llachar yn yr haul. Rhyfedd, meddai wrtho'i hun, fod rhyw lendid fel yna'n blodeuo yng nghanol yr hagrwch hwn. Tipyn o rodres, efallai.

Yr oedd yn dda ganddo gael troi i mewn i'r tŷ, a gwelai ar unwaith fod croeso mawr yn ei ddisgwyl-y gegin fel pin mewn papur a gwledd yn ei aros ar y bwrdd. Diolchai William Jones fod ei chwaer yn esiampi dda i'r bobl ddifater a gwyllt o'i chwmpas, yn dangos iddynt sut i lanhau tŷ a gosod pryd o fwyd. Sylwodd ar wynder y llenni ar y ffenestr, ar lewych y pres ym mhobman, ac ar garreg yr aelwyd wedi'i sgwrio'n wen. Man glas o'r Gogledd, meddai wrtho'i hun, wedi'i blannu yn niffeithwch y De. Ac eto ... ni fuasai Meri mor fanwl a llwyr yn Llan-y-graig, a chofiai'r ffraeo aml rhyngddi hi a'i mam ar bwnc y tynnu llwch; yr hen wraig a'i chadach yn ei llaw bob gafael a Meri'n dadlau mai gwastraff ar ynni ac amser oedd y dystio tragwyddol. Ond yma, y mae'n debyg, yng nghanol y blerwch o'i hamgylch, penderfynasai droi ei chartref yn batrwm, a gwenodd yn hapus arni. Caledodd ei wên ychydig pan ganfu fod ei hwyneb yn bur denau a llwydaidd a'i gwallt yn gwynnu'n o gyflym. Ond dyna fo, yr oedd hithau, fel yntau, yn ynd yn hen; yr oedd hi dros ei hanner cant, onid oedd?

Wedi'r daith hir, mwynhaodd William Jones ei de'n fawr, a diflannodd ei bryderon wrth sgwrsio a chwerthin hefo Crad. Un da oedd yr hen Grad, meddai wrtho'i hun, gan wrando ar ei atgofion am bysgota ar y slei yn Afon Gam ers talm. Cofiai'r chwarelwr anniddig a chwerthingar a fuasai ei frawd yng nghyfraith gynt, ei orchestion fel pêl-droediwr, ei siwrnai i America i wneud ei ffortiwn, ei athrylith a'i afradlonrwydd yn neuadd y billiards, ei ymadawiad cynnar i'r rhyfel, ei ail ymgais i wneud ei ffortiwn—y tro hwn yn y gwaith glo ar waethaf cymhellion a dadleuon ei frawd yng nghyfraith. Ia, un da oedd yr hen Grad ! Beth ddywedodd y dyn yna yn y trên hefyd? "Bachan budr." Gwgodd William Jones ar ryw ddyn a welai drwy'r ffenestr yn brasgamu hyd lwybr ei ardd, gŵr ysgwâr ei ysgwyddau, cyflym ei gam, sicr ohono'i hun, a'i gap wedi'i daro'n haerllug ar ochr ei ben. Hy, pwy oedd o'n feddwl oedd o? "Powld" oedd y gair yn y Gogledd am bobl y De. A gwir y gair, meddai'r chwarelwr wrtho'i hun.

Cafodd hanes y teulu—Crad allan o waith ers blwyddyn; Arfon yn Slough, gerllaw Llundain; Eleri yn yr Ysgol Ganol. raddol; Wili John, yr ail hogyn, yn tynnu at bymtheg oed, wedi mynnu gadael yr ysgol honno i fod yn was mewn siop gigydd. Ac yn awr, gan fod Arfon a Wili John yn ennill tipyn o arian, torrwyd dole y teulu i lawr. Wynebai Meri'r dyfodol â phryder yn llond ei llygaid, ond chwarddai Crad, gan daflu ei ben yn ddifater. Fe newidiai pethau eto, meddai ef, ond nid oedd ei chwerthin, yn nhyb William Jones, mor llawen ag y dymunai Crad iddo fod.

"Dod â'r petha' 'ma o'r 'lotment i chi, Mrs. Williams," meddai llais dwfn, cerddorol, o'r gegin fach, a daeth gŵr byr tros ei drigain oed i mewn atynt, gan daro basgedaid o gynnyrch ei ardd-ffa, pys, tatws a letys-ar y seld.

"Chymera' i monyn nhw, wir, David Morgan," meddai Meri. "Mae digon o'u heisio nhw arnoch chi."

"Pidwch â siarad dwli, ferch. Mada ni fwy nag ŷn ni'n moyn. Shwmâi, Crad?"

Cyflwynodd Crad ei frawd yng nghyfraith i'w gymydog.

"David Morgan," meddai, "arweinydd Côr Bryn Glo. Y côr cymysg gora' yn y byd, yntê, Dai?"

"Di bod, bachan, 'di bod. Jawch, 'na lwcus ych chi!" meddai wrth William Jones.

"Be'?"

"Dod lawr 'ma 'eddi'. Ma' 'da ni Sacred Concert nos 'fory. Côr Pendyrus. Wyth o'r gloch-ar ôl y Cwrdd."

"Ar ôl y capal," eglurodd Crad, rhag ofn na wyddai ei frawd yng nghyfraith beth oedd cwrdd." "Côr meibion o'r Rhondda Fach ydi Pendyrus, a ma' nhw'n trio cal arian i fynd i fyny i'r 'Steddfod yng Nghaernarfon. Y rhan fwya' ohonyn nhw ar y dole, wyt ti'n gweld, William."

"Beth ych chi'n feddwl o'r lle yma?" gofynnodd y cerddor.

"Wel, wir, lle ... lle go wahanol i Lan-y-graig acw."

"Dyw a ddim yn dishgwl yn llawar o le, odi fa?"

"Y?"

"Lle go hyll i edrach arno fo," cyfieithodd Meri.

"Wel, ... 'wn i ddim... Na, 'falla' nad ydi o ddim yn hardd iawn."

"Hardd?" Chwarddodd David Morgan yn dawel, gan symud i sefyll wrth y ffenestr ac i edrych i lawr ar y pentref a'r cwm islaw. "Wy' i 'di bod ym mhob part o Loeger ac yn 'Merica—'da'r côr, chi'n diall—a 'wy' 'di gweld digon o lefydd pertach. Ond 'fasa'n rhaid i chi whilo'n lled bell am bobol i wado dynon y cwm 'ma."

"Am bobol well na'r rhain," eglurodd Crad.

"Smo nhw i gal yn unman, gwedwch chi beth ych chi'n lico." Syllodd ar y dyffryn islaw. "Ond 'odd Bryn Glo 'ma yn lle pert unwaith, siŵr o fod. Porfa las ym mhobman a'r afon 'co yn lân ac yn bur, yn cwrlo'n wen obeutu'r cerrig, a chôd yn tyfu ar y glanna'. 'Wy' i ddim yn cofio'r lle fel 'na, wrth gwrs, achos 'on i'n llanc yn dod yma, ond 'odd 'r hen Ddaniel Rees, arweinydd y Côr Meibion pan ddetho i yma, yn arfer dala brithyil 'da'i ddwylo wrth y Bont 'co pan odd a'n grwt. Ond 'na fe, y bobol sy'n 'neud y lle, ontefa?"

Gŵr bychan, effro, byw ei lygaid a chyflym a sydyn ei lafar, oedd David Morgan-Dai Top Note i bobl y cwm. Tyfai ei wallt gwyn yn gnwd uwch ei glustiau a thu ôl i'w ben —fel y gweddai i gerddor. Sylwodd William Jones ar farciau dulas y glo ar ei dalcen ac ar ei drwyn.

"Odych, wir, 'ych chi'n lwcus, w," chwanegodd ymhen ennyd. "Ond yw a, Crad? Dod lawr 'ma 'eddi', a'r consart nos 'fory. A ma digon o dicedi ar ôl. Jawch, 'wy'n cofio amser pan allech chi ddim cal ticed fish cyn y consart. Ond 'nawr, â'r dynon mas o waith... 'Odych chi'n gerddor?"

Na, nid oedd William Jones yn gerddor. Buasai'n dipyn o ganwr yn y Band of Hope ers talm ac yn denor mewn wythawd a ffurfiwyd yn y capel rai blynyddoedd wedyn, ond nid oedd côr yn Llan-y-graig a phur anaml y cynhelid cyngerdd yno.

"Ia, llenorion ac adroddwyr ych chi lan 'na, ontefa?"

Nodiodd William Jones, gan deimlo'n ddiolchgar am y deyrnged haelfrydig hon, er i'r syniad wibio drwy ei feddwl nad oedd Bob Gruffydd na Thwm Ifans na Huw Lewis na Dic Trombôn yn fawr o lenorion.

"Yn y gwaith glo oeddach chi'n gweithio, Mr. Morgan?"

"Ia." Cododd ei ysgwyddau, gan fingamu braidd. "S dim gwaith llawn 'di bod yma ers blynyddodd, a 'wy' mas 'nawr ers yn agos i dair blynadd, ers pan gaeon nhw Pwll Bach. Tair blynadd o 'olide, ontefa, Arfon? A dim ond ryw dair ne' bedair shifft yr wthnos am sbel cyn 'ynny..."

"Pedair yn amlach na thair, 'êd," meddai llais o ddrws y gegin. Shinc, y gŵr a gyfarfuasai William Jones yn y trên, a oedd yno. Daeth i mewn atynt â her yn ei lygaid.

"Ac 'ych chi'n gwpod pam?" Nid atebodd neb. "Wel, fe'weda' i wrthoch chi. Pan on ni'n gwitho tair shifft, 'on ni'n cal y dole am y rest o'r wthnos. Ond pan on ni'n gwitho pedair shifft, 'odd dim dole i gal. A rhag iddyn' nhw dalu dole, odd y Labour Exchange a'r ownars yn deall 'i gilydd. 'Faint o waith ôch chi'n gal, Dai, ar y bedwaredd shifft?"

"Wel, dim llawar, wir, Shinc, ond ..."

"Na fe, 'chi'n gweld. A 'nawr wedi i chi witho'r holl flynyddodd dan ddaear, be' sy 'da chi? Y dole a'r Means Test. A be' sy 'da fi? A be' sy'da Crad 'ma? Llwch glo yn 'i lungs ac Arfon yn ..."

Taflodd Meri olwg rhybuddiol tua'r areithydd, a thawodd yntau, gan daro'i law yn frysiog ym mhoced ei gôt.

"Dod â hwn i chi ddarllan 'on i," meddai, gan estyn pam- ffled bychan i William Jones. "The Curse of Capitalism. A ma' fa'n wir bob gair." Ac yna i ffwrdd â Shinc.

Aeth y cerddor hefyd ymaith yn fuan wedyn, ac yna rhuthrodd Wili John, y bachgen ieuangaf, i mewn. Wedi rhoi dau bwys o sausage a chwd papur yn cynnwys toddion—anrhegion oddi wrth y cigydd a wasanaethai—i'w fam, eisteddodd yn awchus wrth y bwrdd i gael ei de. Gadawsai ei feic y tu allan, meddai, ac yr oedd mewn brys i ddychwelyd i'r siop. Edrychai ef yn bur iach, ond sylwodd William Jones fod ei arddyrnau yn o denau.

"'Faint ych chi'n aros, Wncwl William"? gofynnodd â chacen yn llond ei geg.

"Bwyta di dy de a phaid â chlebran," oedd gorchymyn ei fam.

"Ddewch chi 'da fi i'r Hall nos Fercher? Ma' George Arliss 'no."

Edrychai William Jones ymlaen at weld George Arliss a rhoes ddwy geiniog i Wili John a chwechyn i Eleri.

"Tyd, mi awn ni am dro i'r mynydd, William," meddai Crad, gan godi ac estyn ei gap oddi ar hoelen y tu ôl i'r drws.

"Fydda' ddim yn well i chi fynd i lawr y pentra ac ar hyd y gwastad wrth yr afon?" awgrymodd Meri. "Mae llwybyr y mynydd 'na yn o serth, Crad."

Ond i'r mynydd yr aethant, gan ddringo'n araf hyd y llwybr a droellai tros ei foelni gwyrdd-felyn. Yn araf, am fod anadlu Crad yn bur drwm. Atgofion oedd eu sgwrs—am yr Hen Gron a'i glocsiau, am yr ysgol yn Llan-y-graig, am y chwarel, am y rhyfel, am y ddadl fawr a fu rhyngddynt pan benderfynodd Crad fynd â'i wraig a'i ddau o blant i lawr i'r De. Eisteddasant cyn hir ar garreg wrth ochr y llwybr.

"Fi oedd yn iawn, wsti, Crad," meddai William Jones ymhen ennyd.

"Yn iawn?"

"Ynglŷn â dŵad i lawr i'r Sowth 'ma. Helbul ydach chi wedi'i gal fel teulu—streic hir 1921, streic hirach 1926, gwaith ansicr, a 'rŵan ..." Nodiodd tuag olwynion segur y gwaith glo yn y cwm islaw.

Rhoes Crad welltyn rhwng ei ddannedd a syllodd yn freuddwydiol ar y pentref islaw.

"Falla', wir, William," meddai'n dawel. "Ond y bobol sy'n gwneud y lle, chwedl Dai Morgan gynna'. A 'does 'na ddim pobol fel y rhain yn y byd, neb tebyg iddyn nhw." Edrychodd William Jones yn syn ar ei frawd yng nghyfraith. Ond dyna fo, pan oedd yn Llan-y-graig, hogiau'r bêl droed a'r rhai a oedd yn pysgota heb drwydded oedd ei gyfeillion ef. Ac yn awr yr oedd am droi creaduriaid fel y Shinc yna'n arwyr. Yn hollol fel yr hen Grad!

"Fyddi di'n mynd i'r capal 'rŵan, Crad?" gofynnodd â gwên.

"Bob bora Sul a phob nos Sul mor selog ag unrhyw flaenor, was. 'Wyt ti'n cofio'r job oedd Meri a chditha' yn gal i 'nhynnu i i wrando ar yr hen Lloyd yn malu awyr ers talwm?" A chwarddodd y ddau uwch yr atgof. "Ond 'rŵan, 'fydda' i byth yn colli. O barch i Mr. Rogers. Dyna iti ddyn, William!"

"Y gweinidog?"

"Ia. Mae o wedi cal galwad dro ar ôl tro i fynd o'r twll yma. Ond 'wyt ti'n meddwl yr aiff o? Dim peryg'! Mi glywis i iddo fo gal cynnig pumpunt yr wsnos a'i dŷ y dwrnod o'r blaen yn rhwla tua Chaerfyrddin 'na. Ond yma y mae ac yn rhoi chweugain yn ôl o'i gyflog, er bod hwnnw'n un digon bychan, bob mis. Mi gafodd o goblyn o job i berswadio rhai o'r blaenoriaid i droi festri'r capal'cw yn rhyw fath o glwb i'r di-waith, ond mi lwyddodd o'r diwadd ac mi fedrodd gal weiarles a phiano a llyfra' o rwla. A 'does dim diwadd ar 'i waith o hefo'r Urdd yma. Mae Wili John yn hannar- addoli'r dyn. A finna', o ran hynny."

"Fo sy gynnoch chi 'fory?"

"Ia, a fo ydi llywydd y consart nos 'fory. Ac os medri di aros dros ddiwadd yr wsnos nesa' 'ma, William, mi gei 'i glywad o'n siarad yn Saesneg yn yr Hall 'ma-rhyw gwarfod mae'r eglwysi wedi'i drefnu ar gyfar y bobol ifanc."

"Os medri di aros ..." Rhoes y frawddeg hergwd go arw i feddwl William Jones.

"Y dyn Shinc 'na," meddai, braidd yn ansicr ei lafar.

"Ia?

"Be' oedd o'n feddwl wrth ddeud bod llwch ar dy frest di?"

Ni ddywedodd Crad ddim am ennyd.

"Wnest ti ddim sôn gair yn dy lythyra'," chwanegodd William Jones. "Des 'na rwbath ar dy iechyd di, Crad?"

"Oes, fachgan, llwch glo ar fy mrest i, y peth maen' nhw'n alw'n silicosis. Mi fedris i ddal ati i weithio dan ddaear nes i'r pwll gau, ond rhyw lusgo fy hun i'r gwaith yr oeddwn i. Wedyn mi es at Doctor Stewart 'ma, ac mi ddeudodd o na fedrwn i ddim gweithio dan ddaear eto."

"Wyt ti'n cael compensation, Crad?"

"Mi apeliais am un. Mi es i lawr at y spesialist yng Nghaerdydd ac wedyn o flaen y Board, ond 'doedd dim digon o lwch ar fy mrest i imi gal compo. 'Glywist ti'r fath lol yn dy fywyd? 'Taswn i'n medru mynd dan ddaear am ryw flwyddyn arall i gal tipyn chwanag o lwch tu mewn imi, mi gawn i gompensation—a charrag fedd!"

"Os medri di aros ... Curai'r frawddeg fel gordd ym meddwl William Jones. Penderfynodd ddweud yr hanes i gyd wrth Crad.

"Doedd gin i ddim syniad fod petha' mor ddrwg yma, fachgan," meddai, "ne' 'faswn i ddim wedi dwad i lawr, mae'n fwy na thebyg."

"Ia, piti na fasat ti wedi dwad am dro pan oedd petha'n mynd yn iawn yma, fachgan. Diawch, 'roedd hi fel ffair yma yr amsar hwnnw—digon o arian, digon o fwyd, digon o fynd i bobman, consarts, ffwtbol, bocsio, cymanfaoedd canu, dramas, cyfarfodydd pregethu, te-parti ar bob esgus. 'Roedd y lle yn fywyd i gyd, ac mi gafodd Meri a finna' a'r plant amsar bendigedig. 'Roedd hi'n werth iti weld Shoni yr adag honno."

"Shoni?"

"Yr enw sy gan bawb ar goliar y cymoedd 'ma. Ond mi wnest yn iawn i ddŵad i lawr, 'tasat ti ddim ond yn cal syniad o'r asgwrn cefn sy yn y bobol 'ma, dole ne' beidio. Mi gredis i a Meri y basa' Shoni'n torri'i galon pan ddechreuodd petha fynd yn dlawd yma. Pobol y tywydd teg oeddan ni'n feddwl oedd o'n cwmpas ni, wsti. Ond 'fu 'rioed rai dewrach na nhw yn yr hen fyd 'ma, William. 'Rioed, fachgan."

"Dûad i lawr yma i chwilio am waith wnes i, Crad."

"Y?"

Adroddodd William Jones ei stori'n fanwl, a Chrad yn taflu llawer "Rargian Dafydd!" a "Nefoedd fawr!" i mewn iddi ac yn chwerthin nes y deuai'r dagrau i'w lygaid.


"A 'rŵan ..." meddai'r chwarelwr gydag ochenaid, wedi iddo orffen yr hanes.

"Cadw dy blydi chips'! 'Wyddwn i ddim dy fod ti'n gymaint o fôi, William!" A chwarddodd Crad yn hir eto.

"Ond 'rŵan, fachgan ..."

"Diawch, mi rown i ffortiwn—'tasa' gin i'r fath beth—am gal gweld wyneba' Leusa ac Ifan Siwrin pan oeddat ti wrthi'n pacio." A ffrwydrodd y chwerthin ohono eilwaith.

"Ond 'rwan, Crad, mae petha'n ..."

"Wyt ti'n siŵr nad carlamu i mewn ddaru o?' Un go dda oedd hon'na, William."

"Ond 'rwan, Crad, a'r pylla' 'ma ..."

"Y nefoedd, mae 'na siara yn Llan-y-graig heno, William 'Glywsoch chi'? 'Naddo. 'Be'?' 'Am William Jones?' 'Pa William Jones?' 'Gŵr Leusa Jane.' 'Be?' 'Wedi dengid i'r Sowth, cofiwch'! A daeth pwl arall o chwerthin dros Crad. "Tyd i lawr inni gal deud yr hanas wrth Meri."

Deuai aroglau ffrio chips o'r gegin fach pan gyrhaeddodd y ddau ddrws y tŷ, a rhoes Crad bwniad i William Jones yn ei ochr.

"Cadw dy blydi chips!" gwaeddodd, gan chwerthin yn uchel eto. Ond y tro hwn troes y chwerthin yn beswch a'i mygai'n lân, ac eisteddodd mewn cadair i ddyfod ato'i hun. Rhoes Meri ddiod iddo i'w yfed a gwnaeth iddo lyncu tabled a gawsai gan y meddyg.

"Wyt ti'n dechra' drysu, dywed?" gofynnodd.

Nid chwerthin a wnaeth Meri pan glywodd y stori, er i beth o'r hanes ddyfod, gydag addurniadau, o enau Crad. Gwyddai William Jones i'w chwaer gasáu Leusa drwy'r blynyddoedd, a chredasai ar ei ffordd i lawr yn y trên y byddai hi wrth ei bodd yn clywed am ei wrthryfel. Ond golwg bryderus a welai yn awr ar ei hwyneb ac ni thalai yr un sylw i ebychiadau ffrwydrol ei gŵr.

"Be' wnei di 'rwan, William?". gofynnodd. "Does 'na ddim gobaith iti gal gwaith, wsti."

"Mae gin i dros gant o bunna' yn y Post Offis, a phetaswn i'n talu punt yr wsnos i chi am fy lle a gyrru punt i Leusa, mi fedrwn i fyw am flwyddyn petai raid imi. Ond mi fydd petha' wedi troi ar wella cyn hynny."

"Roi di ddim punt yr wsnos i ni, 'ngwas i," meddai Crad. "Mae chweugain yn llawn digon, os mai penderfynu aros wnei di."

"Punt, a dim dima'n llai," oedd ateb William Jones, gan swnio'n herfeiddiol.

"Mi wyddost fod dyn y Means Test yn galw yma unwaith bob mis, William," meddai Crad, "ac mi gymer o yr ail chweugain allan o'n dole ni, wsti."

"Dydi o ddim o fusnas hwnnw be' fydd William yn 'i dalu inni," meddai Meri'n chwyrn. "Mi dorrwn ni'r ddadl drwy gytuno ar bymthag swllt." Troes ymaith i fynd ymlaen â'i gwaith yn y gegin fach. "Yr hen gnawas iddi," chwanegodd. "Mi ddeudis i ddigon wrthat ti cyn iti 'i phriodi hi."

Daeth Eleri i mewn, ac yr oedd hi wrth ei bodd pan ddeallodd i Wncwl William ddyfod atynt "am byth." Ond yr oedd Wili John yn ddigon dwys i ofyn y cwestiwn, "B'le ych chi'n mynd i witho, Wncwl?" Eglurodd ei ewythr iddo benderfynu byw ar ei arian am dipyn, a mawr oedd edmygedd y bachgen o ŵr a allai fforddio hynny. Dyna a wnâi yntau hefyd pan dyfai'n ddyn a chael ei siop gigydd ei hun, ond i rywle fel Barry Island yr âi ef.

Eisteddasant wrth y bwrdd i gael swper, a dechreuodd William Jones adrodd hanes y profedigaethau a ddaethai i ran rhyw hen chwarelwr duwiol o Lan-y-graig o'r enw Richard Ifans. Yr oedd hi'n stori drist iawn—yr hen frawd yn colli ei ferch a gadwai dŷ iddo, yna'n mynd yn ddall ac i fethu gweithio ac yn y diwedd i dorri ei galon yn y wyrcws. Cadwai Crad ei wyneb oddi wrth y siaradwr, ond clywai William Jones a'i chwaer ryw ebychiadau go swnllyd yn dianc o'i enau. A oedd hanes yr hen Richard Ifans yn ormod iddo, tybed?. Yna, pan gyrhaeddodd William Jones fan tristaf y stori, darlun o'r hen frawd yn cael ei arwain o'i dŷ i gychwyn i'r wyrcws, rhoes Crad ei ben ar ei fraich i feichio wylo. Syllodd William Jones arno mewn braw, ond canfu Meri'r wên yn llygaid Eleri.

"Crad!" meddai, yn bur ddig. Cododd yntau ei ben, yn wên i gyd.

"Rhaid iti faddau imi, William," meddai. "Ond mi fydda' i'n chwerthin yn fy nghwsg heno. Meddwl am yr hyn ddeudist ti am y chips!"

"Be' 'wedodd Wncwl William am y chips, Dada?" gofyn nodd Eleri.

"Bwyta di dy swpar, dyna ferch dda," oedd ateb ei thad. Yna, "Lle mae Arfon?" gofynnodd.

"I lawr y pentra hefo'i ffrindia'," meddai Meri. "Dydi o ddim wedi'u gweld nhw er y 'Dolig."

"Diar annwl! 'Fuo fo ddim adra er y 'Dolig?" gofynnodd William Jones.

"Naddo," atebodd Meri. "Roeddwn i isio iddo fo ddŵad adra dros y Pasg, ond mae hi'n siwrna' go gostus ac 'roedd yn well ganddo fo yrru tipyn o arian adra na thalu'r trên."

"Be' mae o'n wneud yno?"

"Gneud gramophones," meddai Wili John, yn sicr ac yn falch o'r ffaith mai ei frawd ef a gyflwynai'r peiriannau hynny i'r byd.

"Sut mae o'n licio yno, Meri?"

"Mae o'n deud 'i fod o'n reit hapus, William. 'Wn i ddim. 'Roedd hi'n biti garw iddo fo adael yr Ysgol Ganolraddol, ond 'wnâi dim arall y tro ond mynd i ffwrdd i'r Slough 'na pan ddaru nhw gau'r pwll."

"Ers faint mae o yno?"

"Yn agos i flwyddyn, bellach. Mi wnaeth Crad a finna'n gora' glas i'w berswadio fo i beidio â mynd, ac mi ddaeth Mr. Jenkins, yr ysgolfeistr, yma'n unswydd i siarad hefo fo. Roedd o'n siŵr o gael ysgoloriaeth i'r Coleg, medda' fo. Ond 'doedd dim modd 'i gymall o. Mi wrandawodd ar Mr. Rogers, y gweinidog, un noson, ac 'roeddan ni i gyd yn credu y basa' fo'n setlo i lawr i stydio ar gyfar mynd i'r Coleg. Ond y dwrnod wedyn, mi welodd 'i dad yn aros yn y queue wrth y Labour Exchange ac mi sgwennodd i'r lle 'na yn Slough ar unwaith. Un 'styfnig ydi Arfon—fel finna', o ran hynny. ... Chwanag o'r chips 'ma, William?"

"Dim diolch, Meri, er 'u bod nhw mor dda."

"Y tatws gefis i gan David Morgan heno. Ac mi ddaeth Shinc yma wedyn ar ôl i chi fynd allan, hefo llond basgad o ffa—a rhyw bamffled arall. Diar, dyna garedig y mae'r bobol yma! 'Does 'na neb tebyg iddyn nhw, William. 'Does gynnon ni ddim alotment, 'wyt ti'n dallt, gan fod Crad ddim yn dda, ond fuon ni ddim ar ôl o datws a llysia' a ffrwytha' o gwbwl. . . Tyd, Eleri, mae'n bryd iti fynd i'r gwely."

Wedi rhyw hanner awr arall o sgwrsio, troes William Jones yntau tua'i wely. Pan gyrhaeddodd y llofft, gwelodd fod Wili John yn cysgu'n braf ar ôl gwibio yma ac acw ar ei feic drwy'r dydd, a thynnodd ei ewythr oddi amdano'n ddistaw bach. Safodd wrth y ffenestr yn hir yn syllu ar y cwm islaw. Cuddiai llenni o dawch a chysgodion, fel niwien ysgafn, ei hagrwch bellach, a hongiai cadwyni o oleuadau ar hyd-ddo, dwy ohonynt yn ymdroelli gyda'i gilydd am ryw filltir yn y pellter ac yna’n troi'n sydyn i'r dde o'r golwg. Ond nid oedd yma heddwch a thawelwch hyd yn oed ar noson braf o Orffennaf fel hon, meddai'r chwarelwr wrtho'i hun. Clywai leisiau gwyllt yn bloeddio rhyw gân Saesneg amrwd drwy ystryd gyfagos, a deuai hefyd sŵn aflafar cerddorfa-ddawns o rywle. Rhyw le rhyfedd oedd hwn. Y bobl yn gwneud y lle? Ia, meddai William Jones wrth droi ymaith oddi wrth y ffenestr, a dyna sŵn rhai o'r taclau powld y munud yma. Ni ddeallai Grad a Meri o gwbl. "Ddim yntôl," meddai gydag ochenaid wrth lithro i'w wely.