Y Casglwr/Rhifyn 1/Mawrth 1977/BRODYR Y BODIAU DUON

WELE GYCHWYN Y Casglwr : Rhifyn 1, Mawrth 1977
BRODYR Y BODIAU DUON
gan Guto Roberts

BRODYR Y BODIAU DUON
HEBRAEG O GAER - BEIBL O'R BALA
Copïwyd o'r archif ar wefan Y Casglwr: http://www.casglwr.org/yrarchif/1brodyrybodiauduon.php

BWRIADASWN ysgrifennu llythyr at ddarllenwyr y Casglwr ond gan fy mod innau hefyd yn aelod o Gymdeithas Bob Owen sylweddolais y buaswn felly yn fy nghyfarch fy hun!

Cystal i mi gyfaddef felly mai wrth enw arall yr hoffwn gyfarch y gymdeithas sef, yn syml ddigon "Cymdeithas y Bodiau Duon", - nid am y gallesid ei restru fel "chwip o enw", ond yn unig am ei addasrwydd i ddisgrifio'r frawdoliaeth ryfedd hon o gasglwyr hen lyfrau; prin fod neb o'r tu fewn na thu fas i'r Gymdeithas a feiddia wadu nad du a ddylasai bodiau pob casglwr fod, ac anaddasrwydd o'r mwyaf yn ei chyfarfodydd blynyddol fyddai amlygiad o fodiau glan.

Gan mai trowsus melfared a wisgai fy nhad erstalwm o fewn terfynau'r fferm cymerodd flynyddoedd i mi i ddygymod a gweld ffermwr mewn llodrau brethyn; a'r un mor chwithig i mi a fyddai gweld casglwr hen lyfrau heb fodiau duon; ac ar y Sul hyd yn oed disgwyliwn iddynt fod o leiaf yn bygddu!

Dichon mai "tuedd" ac nid "hobi" y dylesid galw'r "chwiw" ryfedd hon a geir mewn bodau meidrol, ac y mae i'r duedd lyfryddol ryfeddol hon ei nodau digamsyniol. Fel yr awgrymwyd mae'n gwneud ei ôl yn allanol ar ddyn ond y mae hefyd yn dueddol o fynd i'r gwaed a phryd hynny does dim dal. Prin fod Ilygad sy'n ddigon craff i'w weld na dealltwriaeth sy'n ddigon byw i'w amgyffred, ond siawns nad oes beiriant o fesurydd yn rhywle a allasai ymateb i'r wefr a'r cynhyrfiad pan yw yn ei anterth.

TEBYGAF MAI moddion seiadu i aelodau'r Gymdeithas ydyw tudalennau'r Cylchgrawn, ac felly, fel aelod digon dinod ni ddylaswn lai na chynnig cyngor i'r newydd ddyfodiaid.

Oferedd a dweud y lleiaf a fyddai cynghori beth na pha rai i'w casglu a phrofiad yn y maes hwn fel pob maes arall yw'r athro diogelaf. Teg er hynny (o'm profiad bach fy hun) a fyddai awgrymu sut i gadw pen pan ddaw cyfnod cynhyrfus yr hir ddisgwyliedig lyfr.

Amser, hwylustod a'r ysfa brin honno ym mêr esgyrn y casglwr sydd yn ei arwain i Siop Lyfrau - rhyw "weled yr ydym yn awr mewn drych" chwedl Paul ond pan ddeuir "wyneb yn wyneb" a'r llyfr prin ar y silff, rhaid bod yn ofalus a deheuig. Yn ofalus er eich mwyn eich hun ac yn ddeheuig yn eich perthynas a'r siopwr. Geill y don neu'r cynhyrfiad ddyfod mor sydyn, yn wir geill ddod mor ddirybudd nes taflu dyn oddi ar ei echel a'i yrru i ymddwyn yn anghyfrifol.

Edrycher, felly, o leiaf deirgwaith ar feingefn y llyfr prin er gwneud yn siŵr eich bod yn medru darllen. Yna, rhodder un cam yn ôl a chau'r ddau lygad. Wedyn (a'r ddau lygad ynghau) rhodder dau gam ymlaen i gyfeiriad y llyfr; sylwer fod yr ail gam yn bwysig gan mai hwn yw'r unig foddion i ddod a dyn at ei goed yn y fath sefyllfa. Cyn gafael yn y llyfr edrycher yn gyfrwys-ofalus dros yr ysgwydd er gwneud yn sicr a ydyw'r siopwr yn eich gwylio - os ydyw, cydier yn ogystal yn y ddeulyfr sydd un o boptu'r llyfr prin a Ilithro'r tri gyda'i gilydd oddi ar y silff. Agorer, bodier a chraffer â golwg ddeallus ar y naill a'r llall o'r llyfrau nad oes arnoch eu hangen, yna'n sydyn a thrystfawr ail osod y tri yn ôl ar y silff. Wedi hyn, yn ddidaro yr olwg llithrer hirfys y llaw arall dros ymyl uchaf meingefn y llyfr prin a'i wahodd megis yn gariadus â'r byrfys, ar fawd i'r llaw.

HWN YN ddiamheuol yw'r adeg i fod yn ofalus; o'r funud y cyffwrdd y llyfr a chledr y llaw teimlir rhyw ias anniffiniol yn parlysu'r corff, yna, yn araf ond yn sicr try yn gryndod ysgafn a theimlir y gwaed yn cyflymu, yn araf gyson i ddechrau ac yna pan agorer clawr y llyfr a chael cip ar yr wyneb-ddalen try yn gryndod dychlamus di-reolaeth drwy'r corff.

Ni ellid bod yn rhy ofalus am y munudau nesaf, a theyrnased Pwyll. Onid oes bris wedi ei nodi ar y llyfr, symuder yn araf ddi-daro i gyfeiriad y cownter; arhoser yma ac acw i gael golwg ar ambell i hen wythnosolyn neu fisolyn; bodier y clawr melynddu, ond na ddangoser unrhyw ddiddordeb ynddo a thafler (yn ofalus ddigon) ond diseremoni i'w briod fan ar ben ei gymrodyr, a pho hynaf a phrinnaf y bo'r cylchgrawn hwnnw, mwyaf tebygol yw'r siopwr o gael ei gamarwain.

Safer lathen oddi wrth y cownter, ac o fynych arfer gellir lluchio'r llyfr yn daclus ddigon 'i wyneb i waered o dan drwyn y siopwr, yna (ond gan ddyrchafu y llygaid yn gamarweiniol i gyfeiriad y silffoedd uchaf) gofynner ;

"Faint da chi'n ofyn am hwnna?" Pan ddatguddir y pris, boed ddrud, rhesymol neu rad, cyfynger y r ateb i ddeuair addas a phwrpasol sef :

"Ia wir."

OS PENDERFYNIR prynu (ond cyn gwneud) rhodder un tro pwyllog o gwmpas y siop ac os na fydd casglwr adnabyddus arall o fewn ei muriau gellir mentro allan i'r stryd a chael cip ar gynnwys y ffenestr); ac yna cyn ildio a dychwelyd at y cownter, tanier sigaret neu getyn gan dynnu'n chwyrn a phan gyrhaeddir y siopwr geill y cymylau mwg fod o gymorth i guddio'r euogrwydd ffŵl geir ar yr wyneb o dalu'r pris uchel : geill hefyd fod yn gymorth cyfamserol os digwydd i'r pris fod yn nhueddau'r prisiau isel ac i'r siopwr sylweddoli ei gamgymeriad yn ddiweddarach.

Ni wn a restrir y cam nesaf yn y llyfr adnabyddus hwnnw, 'Rheolau'r Ffordd Fawr', ond gallwn dybio mai'r cyngor amserol ar adeg fel hyn a fyddai: Peidiwch gyrru ar ôl prynu llyfr prin.