Y Casglwr/Rhifyn 1/Mawrth 1977/WELE GYCHWYN

Y Casglwr : Rhifyn 1, Mawrth 1977
WELE GYCHWYN
gan John Roberts Williams

WELE GYCHWYN
BRODYR Y BODIAU DUON
Copïwyd o'r archif ar wefan Y Casglwr: http://www.casglwr.org/yrarchif/1welegychwyn.php

LLAFUR cariad yw pob tamaid o'r CASGLWR cyntaf yma a diau y bydd y rhifyn ei hun yn gasgladwy yng nghyflawnder amser. A phwy yw'r casglwyr? Yn syml, pob un sy'n prynu llyfr hen neu newydd, neu sy'n prynu darlun neu record o unrhyw gyfnod. Nid at yr arbenigwr yr apelir, ond hyderir y cewch y cynnwys yn ddibynnol, yn gynorthwygar, yn ychwanegiad at eich gwybodaeth, ac yn ddiddan.

Efallai, yn y dyfodol, y medrwn fod yn fwy hael gyda'n cyfranwyr, ond ar y funud dim ond diolch yw ein lle am help pawb o bob cyfeiriad.

Cafwyd enw'r gymdeithas a sefydlwyd yn y Brifwyl yn Aberteifi, Cymdeithas Bob Owen, o un o fflachiadau ysbrydoledig (prin) Gwilym Tudur. Ac ar gyfer yr aelodau'n unig y cyhoeddir Y CASGLWR. Ar wahân i'r rhifyn hwn bydd un arall cyn y Brifwyl a'r trydydd cyn y Nadolig. Fe argreffir, yn ffyddiog braidd, bum can copi o'r rhifyn yma gan obeithio y medrir cael digon o aelodau am ddwy bunt y flwyddyn i hawlio'r rhan fwyaf ohonynt.

Rhifyn gwyliadwrus yw'r cyntaf yma ond gyda phrofiad a chydweithrediad yr aelodau mae'n bosibl ychwanegu at ei faint a'i apêŵl. Mawr obeithir y gwnewch y defnydd helaethaf ohono trwy gyfrannu, holi, llythyru a hysbysebu. Canys fe'i hargreffir yn y modd rhataf posibl er mwyn medru cynnwys y nifer mwyaf posibl o gyfraniadau.

I fod yn gefn i'r cylchgrawn, fe geisir sefydlu cronfa o fil o bunnau neu ragor i hybu'r gwaith; y llog yn unig a werir o'r gronfa hon. Ond yr aelodau sy'n bwysig, a phe buasai pob aelod yn sicrhau un aelod newydd arall ac yn anfon ei ddwy bunt (siec yn daledig i Cymdeithas Bob Owen a wna'r tro yn iawn) ni buasai'n rhaid pryderu o gwbwl am ddyfodol y Gymdeithas na'r cylchgrawn. Anfoner i'r parch. Dafydd Wyn Wiliam, Tresalem, Pontyberem, Dyfed os medrwch wneud y gymwynasfach hon, a diolch yn fawr.