Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Marwnad Gruffydd Grug

Ceiliog Bronfraith Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Wiliam Llŷn

Y Cywyddau
Geirfa

Marwnad Gruffydd Grug

WILIAM LLŶN

Y BARDD:

Y bardd bach uwch beirdd y byd,
Och, nad ydych yn dwedyd!
Gruffydd braff, graffaidd broffwyd,
Gweddw yw'r iaith,—ai ’mguddio'r wyd?
Ba dir hwnt, o baud yr hawg,
Bwrdd yr iaith, bardd Hiraethawg?
Dewi'r beirdd, nid o air bost,
Dyblwr iaith, Duw, ble'r aethost?
Os i ryw daith, drudfaith dro,
Ond hir yr wyt yn tario?
O Duw deg, od ydwyd iach
Ddi-ball, pam na ddoi bellach?
Os claf wyd, proffwyd y pryd,
Claf yw addysg celfyddyd.
Od aethost i le dethol,
Y gwawd a'r dysg, aed ar dôl.
Hiraethog ddoeth, o doeth does,
Hiraethog fydd rhai wythoes.
Ni welais gam o'th dramwy,
Er ys mis nac er ys mwy:
Gelwais arnad, gloes oerni,
Och Fair, pam na 'tebwch fi?


Y MARW:

Ni ad to bedd ateb ym,
Am ran iaith,-marw a wnaethym.
Ti a'm gwelaist i'm golud,
Ddoe yn falch, a heddiw'n fud;
A'r pwyll a'r synnwyr a'r pen
A’r cellwair sy ’ng nghôr Collen.
A gro'r llawr is goror llan,
Osodwyd lle bu'r sidan.

Y BARDD:

Dyrd yma, neu dor d'amod,
Drwy dor y clai, daradr clod.
Ymrwymaist, fardd breuhardd bris,
I'r ŵyl a'r Doctor Elis.
Od ydoedd i'th fryd adael
Y gŵr hwn a ddug air hael,
Ond oedd dost diwedd y daith
Na chenit yn iach unwaith?

Y Marw:

Nid oedd modd; yn y dydd mau
Y dringodd rhyw daer angau;
Mae'n gwarchae'r man a gyrcho,
Mewn ffydd nid oes man i ffo.
Eryr gwyllt ar war gelltydd,
Nid ymgêl pan ddel ei ddydd,
A'r pysg sydd ymysg y môr
A ddwg angau'n ddigyngor

Y byd oll, be deallwn,
Ar y sydd a erys hwn.
Aristotlus fedrus fu,
Ar ddysg oll, urddas gallu;
Tydain, ail tad awen oedd,
Taliesin teulu oesoedd;—
Pob un oedd, aeth pawb yn wâr
Ar ei ddiwedd i'r ddaear.

Y BARDD:

Fathro Gruffydd, o’th guddiwyd
Mewn arch oer, di 'mannerch wyd.
Gorwedd yr wyd mewn gweryd,
Gryf wraidd, ben digrifrwydd byd.
Ond irad mynd i orwedd
Awen y byd yn un bedd ?
Gwiail a gad, tyfiad da,
Yn wŷdd o enau Adda;
Doeth fardd, felly daw o’th fedd,
Ganghennau'r groes gynghanedd.
Yn iach! yn ôl ni chawn ni
Ystyried chwedl na stori.
Ni cheir marw, ni châr morwyn,
Ni thyf fyth gwmpniaeth fwyn.
Och, gloi' 'i fedd, iach gelfyddyd,
Och, roi barn ar achau'r byd.
Beth a dyf byth o dafawd ?
—Blino ffrith gwŷdd blaenffrwyth gwawd;
Bwrw gwingoed brig awengerdd,
Braenu un cyff brenin cerdd,

A thy dadl fyth od ydyw,
Odid farn am nad wyd fyw.
Ba fyd ar gerdd seinwerdd sydd ?
Byd traffol hebod, Ruffydd.
Daearwyd gwawd eurdeg wedd,
Nis daearwyd nes d'orwedd.
Duw a'th ddug, ych bôn gwych gwâr,
Is y cwm eisiau cymar.
Gwn na bu er Gwion bach
Gau ar synnwyr gresynach,
Lle cefaist,—lleddaist ni'n llwyr,-
Oes a henaint a synnwyr.
Crist roes it einioes ennyd,
Crist a'th ddug, hardd ben bardd byd.
Crist enw rhawg, gras Duw i'n rhaid,
Ceidwad dyn, cadwed d' enaid.