Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Marwnad Merch
← I Wallt Llio | Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron Y Cywyddau gan Dafydd Nanmor Y Cywyddau |
Siôn y Glyn → |
Marwnad Merch
DAFYDD NANMOR
BLIN yw hyder o weryd,
Hudol byr yw hoedl y byd.
Caru dyn ifanc irwen
A marw a wnaeth morwyn wen.
Dan weryd mae dyn wirion,
Anhap oedd roi wyneb hon.
O daearwyd ei deurudd
Mae'n llai'r gwrid mewn llawer grudd.
Och imi, pe marw chwemwy,
O bydd ei math mewn bedd mwy.
Och Dduw Tad, o chuddiwyd hi,
Nad oeddwn amdo iddi!
Och finnau, o chaf einioes,
I'w rhoi yn fud, arhown f'oes.
Gweddw am hon yn y bronnydd
Ydyw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd,
A cherdd bronfraith orchuddiwyd
Is y lan, ac eos lwyd.
Os marw yw hon îs Conwy,
Ni ddyly Mai ddeilio mwy;
Gwae finnau, nid gwiw f'annerch,
Os mewn bedd mae annedd merch.
Gwywon yw'r bedw a'r gwïail
Ac weithian ni ddygan ddail.
Os marw fis Mai y forwyn,
Och Fair, gan farw y ferch fwyn!
Och 'y nun, na chaem ninnau
Yr un dydd farw ein dau!
Ni fynnwn yn hwy f'einioes,
Gan na chaid amgenach oes.
Och, yn awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd.
Adyn ar ei hôl ydwyf,
Uwch ben Gwen ych bannog wyf.
Marw a wnaeth yn fy marn i
Yr haul wen a'r haelioni.
Anwych wyf oni chyfyd
O farw bun yn fyw i'r byd.
Ni welir dan bryd dirwy
Ar heol merch mor hael mwy.
Nid ydoedd, pan oedd yn iach
Dan aelwineu dyn lanach.
Lasar a godes Iesu
Yn fyw o'r bedd, yn farw bu.
Gwnaed Duw, am ddyn gannaid hir,
A minnau, godi meinir.
Dulas ydwyf fal deilen
O frig yw am farw Gwen.
Hon fo'r wythfed ddiledryw
Bun fain a wnel Beuno'n fyw.