Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/Saeson Fflint

Siôn y Glyn Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Lewys Glyn Cothi

Y Cywyddau
Merch

Saeson Fflint

LEWIS GLYN COTHI

DEUTHUM ddywsul diwethaf
—Dyn wyf a luniodd Duw Naf —
I gaer ddwbl groengwbl gringam,
Y Fflint, a welwyf yn fflam!
Lle'r oedd neithiawr heb fawr fedd,
Sais yn eglur, Seisnigwledd.
Ar addaw cael yr oeddwn,
Oherwydd crefft, hoywrodd crwn.

Dechreuais, ffrystiais yn ffraeth,
Ganu awdl i'r genhedlaeth.
Gwatwaru, llysu fy llais,
Gofid yno a gefais.
Hawdd gan borthmyn haidd ac ŷd,
Faeddu fy holl gelfyddyd,
Ac am fy ngherdd y chwerddyn,
Parod gân fawl, prid gennyf hyn.
Sôn am bys wnai Siôn Beisir,
Sôn o'r ail am dail i'w dir.
Galw i'r ford, gwaelwr a fydd,
O bawb am Wiliam Bibydd!
Dyfod o hwn, defawd hawl,
Ger bron nid fal gŵr breiniawl,
A chod leddf, foel berfeddfaich,
Ymhen ffon rhwng bron a braich.


Hyllu, syn dranu sŵn drwg,
Rhwth gaul, a rhythu golwg,
A throi ei gorff yma 'thraw,
A chwyddo'r ddwyfoch eiddaw;
Chwerw foes, chware â'i fysedd.
A chroen gloch, chwerwon eu gwledd.
Ymysgrawtian 'mysg rhawter,
Tynnu ei glog fal tin y glêr.
Ffroeniaw bu, ffrwynaw ei ben
Ydd ydoedd at ei ddiden.
Ail sut i farcut yw fo
Abl ei awydd i bluo.
Chwythu o'r cranc, chwith yw'r cri,
Chwyddo'r god a chroch weiddi.
Canodd â llais cacynen
Cod ddiawl, a phawl yn ei phen;
Gwaedd hunlle'n lladd gŵydd henllom,
Gwaedd gast drist greg dan gist grom.
Gerwingest i grio ungerdd,
Gwythi ceg yn gwthiaw cerdd;
Llais garan yn llaes gery,
Gŵydd o frath yn gweiddi fry;
Maé lleisiau yn y gau god
Mal gwythi mil o gathod.
Gafr yw un llais, gyfran llog,
Glwyfus afiachus feichiog.

Gwedi darfod, gwawd oerferch,
Gwichlais hon, gochelai serch,
Cael ffîs o Wil y cawl ffa,
Lerdies nid o law wrda,
Ceiniogau, lle cynygian,
Ac weithiau'r dimeuau mân,

A’m gollwng yn drablwng draw
O'r goegwledd yn ŵr gwaglaw!


O ddifrif rhof ddiofryd,
I Fflint gaeth a'i phlant i gyd.
Ei ffwrn faith fal uffern fydd,
A’i phobl Seisnig a'i phibydd.
Fy holl weddi fo'u lladdiant,
Fy melltith i'w plith a'u plant.
Diau i'm hoes, od af mwy,
Iddi eilwaith na ddelwy.