Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 16

Tudalen 15 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 17

GWAHAN
(Most. 131)

Er sôn dynion gan dannau is irwydd,
Er siarad am gampau,
Meddyliaid am f' enaid fau,
Cadi fwyn, y ceid finnau.

Ond caeth, lloer odiaeth lliw 'r ôd, i minnau,
O mynnwn gyfarfod,
Lle 'dd wyf[1] na elli ddyfod,
Lle 'dd wyt ti ni cha-f i fod.

—DIENW


GWEN.
(Most. 131)

Wyneb Gwen burwen lle bo, a'i golwg,
Gwae galon a'u canffo,
A gwae 'r mab, dirwydd-dab dro,
Ysywaeth, a'i ffansïo.

—DIENW.


GWYCHTER GWEN
(G.M.)

Mi wn uchter ser nos hirwen i 'm gwers[2],
Mi wn gwrs yr wybren,
Gwn rif gwellt a phob mellten,—
Ni wn hanner gwychter Gwen.

—ROSIER CYFFIN


Nodiadau golygu

  1. Lle 'dd wyf lle ydd wyf, lle yr wyf.
  2. gwers, pennill.