Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 17
← Tudalen 16 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 18 → |
GWYNFYD
(Most. 131)
Weithion, gwnelont eu gwaetha', ar unwaith
O Arennig i'r Bala,
Nid wyf brudd, nid ymguddia'[1]
Os f' enaid gannaid a ga'.
—DIENW.
HEB EI HAIL
(C.M. 14)
Ni bu 'r Enid na Branwen
Na Chymraes â chwi mor wen.
—IEUAN TEW BRYDYDD.
HEN GARIAD
(Most. 131)
Cenais, ban ellais, benillion, y bore,
Bwriais fawr beryglon;
Ac nid hawdd im ganu tôn
Ac wylo yn y galon.
Chwiliwch, ystyriwch ddwys doriad calon
A 'ch coeliodd yn wastad;
Gwrandewch, cry gwirion Dad,
Achwyn gŵr, eich hen gariad!
—DIENW.
HEN YSTORI
(C.M. 24)
Dy geraint, mewn braint a bri, Gwen annwyl,
Gwenwynig yw 'r rheini,
Y sydd chwannog i 'm crogi,
F' enaid aur, er dy fwyn di!
—DIENW.
Nodiadau
golygu- ↑ nid ymguddia', ni phlygaf ben.