Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 36
← Tudalen 35 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 37 → |
BYD WRTH FODD
(Llsgr. R.N.J.)
Ni chadd dyn ronyn ond a rannodd—Duw,
Ni cheir dim o'i anfodd;
Odid un a'i dymunodd
Yr aeth ei fyd wrth ei fodd.
—DIENW.
BYW 'N LAN.
(Most. 144)
Englyn a thelyn a thân, ac afal,
Ac yfwyr mwyn diddan,
A gwin melys a chusan,
Dyn fain, lwys,—dyna fyw 'n lân!
—DIENW.
CADARN ANGHYFION
Y cadarn a'i farn a fo anghyfion,
Anghofia Duw 'r eiddo;
A wnêl camwedd,[1] drygwedd dro,
E dry 'i epil ar dripio,.
—SION DAFYDD AP SION.
CAWS DRWG
(Pen. 77, 264)
Caws du Llan Bendu, mal hen badell grach,
A gwrych ar ei dafell;
Caws yr ast o Dre 'r Castell,
Caseg a wnai caws gwyn well!
—TUDUR ALED.
Nodiadau
golygu- ↑ a wnel camwedd. Ni feddelid cytsain yn gyffredin gynt ar ol ffurfiau trydydd pers. unig y modd dibynnol.