Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 37
← Tudalen 36 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 38 → |
CEGWM
Edrydd y gwledydd dy glod oherwydd
Dihirwch dy dafod;
Derfydd y gwledydd a'th glod
Wedi dofi dy dafod.
—DIENW.
CELWYDD
(Most. 144)
A ddywed gelwydd heb weddïo Duw,
Ffordd y dêl i rodio,
O dywed wir drahir dro,
Gwylied na chaiff ei goelio.
—WILIAM LLYN.
CONACH
(B.M. 14892)
Darn sy ohonot o Edeirnion genedl,
O ganol twysogion,
Darn o grydd fal derwen gron,
Darn arall o durnorion.
—GUTO'R GLYN, i Ifan Gruffudd Leiaf, a wrthododd iddo gysgu gydag ef.
CYFEDDACH
(C.M. 11)
Gad feddwon dewrion i daeru, dadwrdd,
A dwedyd heb allu,
Dos ymaith, ŵr llaith, o'r llu,
Gad y diawl gyda 'i deulu.
—HUW MORYS.