Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 38
← Tudalen 37 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 39 → |
CYNGOR DA
(Ll.S. 169, 23)
Cymer ddysg, dod ddysg, dywed dda, ŵr prudd,[1]
Ym mhob rhaid, gobeithia;
Llafur di a gweddía,
Medd Duw, llyna 'r moddau da.
—DIENW.
CYWIRDEB
(C.M. 14)
O'r swyddau goreu a gerir o'r byd,
Goreu bod yn gywir;
Ni freinia nef yr anwir,
Ni fynn Duw gwyn ond y gwir.
—DIENW.
CHWEDLEUA
(C.M. 24)
Meddwch, dywedwch ai da i'r hostwr
Eistedd i chwedleua
Ar hyd y dydd, hirddydd ha,
Tan nos yn y tŷ nesa'?
—DIENW.
CHWYRNWR
(C.M. 3)
Deffro, Dwm, gidwm gedym ei ddannedd,
Tyn oddiyna d' erddyrn,[2]—
Dyn fal ci, dan weflau cyrn
Drwy 'i gwsg yn dragio esgyrn.
—GUTO'R GLYN, i was oedd yn ei gwsg yn
rhincian dannedd.