Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 48

Tudalen 47 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 49

PAWB O'R UN ACH[1]
(C.M. 23)

O'r llescaf, coecaf gŵr caeth, dibarchus,
Hyd berchen brenhiniaeth,
Rhaid in' oll, ofergoll faeth,
Ymroi i weli marwolaeth.

Holl drawster nifer hynafion bydoedd,
Heb adael gweddillion,
Fe 'u dwg Duw, fendigaid iôn,
Ar warrau'r plant a'r wyrion.

Er balchedd bonedd y byd a'i ryfig
I rwyfo llawenfyd,
Ni ddaethom oll i'r hollfyd—
O Adda ac Efa i gyd.

—SIÔN PHYLIP.


PEDWAR PETH DIFFAITH
(Pen. 99)

Pedwar peth diô'eth mewn dôr, bâr ydynt
A bair ado ymogor,[2]
Mwg, dlêd, a chwain, myn Sain Siôr,
A gwraig druansaig, drwynsor!

—SION TUDUR.


PIBGOD
(Most. 31)

Mae gwyddau 'n bynnau neu beunod, i fewn
Neu fynn yn breferod,[3]
A lleisiau 'n ei genau, gôd
Naw gwaeth na mil o gathod.

—DIENW.


Nodiadau

golygu
  1. Dengys yr englynion hyn y byddai'r beirdd ar dro yn blino ar wenhieithio i'r gwŷr mawr
  2. ymogor, cysgodfa, annedd.
  3. breferod y ffurf gyffredin yw breferad, brefu, rhuo.