Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 49
← Tudalen 48 | Y Gelfyddyd Gwta gan Thomas Gwynn Jones |
Tudalen 50 → |
PRYNU TIR
(B.M. 15030)
Os rhaid yr enaid a rennir ar gam
Ar ryw gŵys anghywir,
Ni thâl frwynen i'r enwir
Y braint hwn o brynu tir.
—IEUAN BRYDYDD HIR IEUAF.
RHAID
(Most 131)
Oni bydd byd rhydd yn rhwyddo i ŵr,
Ni wiw iddo 'i geisio;
Ynddo rhaid iddo rodio,
A chymryd byd fal y bo.
—DIENW.
RHY
(Most. 131, 754)
Rhy uchel, pan êl, poen alaeth, a gwymp
Ddigampus naturiaeth;
Rhy dynn a dyrr, fyrr fariaeth,
Rhy lawn a gyll, rhy lew 'n gaeth.
—TUDUR ALED.
RHYDDID
Cerddais a rhedais yn rhydd o'm rhamant
I'm rhwymo 'n dragywydd;
Hedwn yn gynt na 'r hedydd
O 'r rhwym i fyned yn rhydd!
—DIENW.