Y Lleian Lwyd/Pennod II
← Pennod I | Y Lleian Lwyd gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod III → |
PENNOD II
CLYWODD, fel o bell, lais ei mam yn ei galw i godi. Pan ddeffrodd yn iawn yr oedd ei mam eisoes wedi mynd i lawr. Rhwbiodd ei llygaid a meddyliodd am funud mai breuddwydio a wnaethai am y Lleian Lwyd. Ond gwelodd yr ysbienddrych ar y gadair, a daeth y cwbl yn glir i'w chof. Brysiodd i wisgo a mynd i ddweud yr hanes. Ond chwerthin am ben ei stori a wnaeth Gwyn a'i mam.
"Lleian Lwyd! Dyna feddyliau sy'n dod i'th ben di, Siwan! O ba le y deuai lleian lwyd, neu leian, wen, neu leian ddu, i le fel hwn, a neb yn gwybod dim amdani? Rhyw fenyw a siôl lwyd dros ei phen yn casglu coed tân oedd yno."
"Ond, mam fach, pump o'r gloch oedd hi!"
"Rhyw ffarmwr wedi bod yn edrych am ei ddefaid oedd yno," ebe Gwyn yn derfynol.
"Defaid, wir! 'Doedd dim dafad yn agos.
"Dyna fe, wel di. Oen oedd wedi mynd ar goll."
"O'r gore," ebe Siwan. "Os gwela i hi eto bore fory fe'ch galwaf eich dau. Fe gewch weld drosoch eich hunain wedyn, a 'rwy'n mynd i holi'r cynta wela i heddiw."
"Na, paid â gwneud hynny, Siwan. Paid â sôn am Leian Lwyd a phethau felly ar ein bore cyntaf ni yma, neu efallai y bydd rhai yn meddwl dy fod wedi colli ar dy synhwyrau. Cofia beidio â dweud gair wrth Mali Morus."
Mali Morus oedd y fenyw a ddeuai yno i'w helpu roddi eu tŷ mewn trefn—un o hen gydnabod Mrs. Sirrell, heb newid llawer oddi ar y dyddiau hynny, a heb newid ei henw hefyd. Danfonasent eu dodrefn o'u blaen, a Mali oedd yno i'w derbyn, ac i'w derbyn hwythau wedyn.
Y syndod cyntaf ynglŷn â'r plant iddi hi, ac i bawb ym Min Iwerydd, oedd eu Cymraeg dilediaith, a hwythau wedi eu geni a'u magu ym Mryste. Ond yr oedd rheswm am hyn. Yr oedd Mrs. Sirrell yn ddigon call i gymryd arni beidio â deall y plant pan siaradent Saesneg â hi ym mlynyddoedd cyntaf eu hysgol. Wedi hynny bu ei thad yn gwneud ei gartref gyda hi ym. Mryste am rai blynyddoedd cyn ei farw, ac yr oedd Meredydd Owen yn sgolor Cymraeg da, a dysgodd fwy i'r plant am Gymru a Chymraeg nag a ddysgodd llawer mewn coleg.
"A gawn ni fyw yn y tŷ yma mwy am byth, mam?" gofynnai Gwyn.
"Mae e i fi cyhyd ag y bydda i'n dewis aros yma. Fe fyddwch chi'ch dau yn tyfu ac yn mynd, mae'n debyg, fel plant eraill."
"Ond fe ddeuwn yn ôl yma o bob man. Fe fuaswn i'n folon mynd yn forwyn i Nwncwl Ifan neu wneud unpeth iddo am ei garedigrwydd inni," ebe Siwan.
"Efallai y cei di neu Gwyn gyfle i dalu'n ôl iddo mewn rhyw fodd. 'Dalla i wneud dim llawer mwy," ebe Mrs. Sirrell yn drist.
"O, mam, beth wyddoch chi am y dyfodol?" ebe Siwan.
Pan glywsai Ifan Owen, brawd Mrs. Sirrell, dwy flwydd yn ieuengach na hi, am awydd ei chwaer i ddyfod yn ôl i'r hen ardal i fyw, daethai i Fin Iwerydd yn unswydd i chwilio am dŷ iddynt.
Nid oedd tŷ i'w gael am arian yn y pentref, ond dywedwyd wrth Ifan Owen fod tŷ mawr Cesail y Graig yn wag ac ar werth. Gwyddai Mr. Owen amdano oherwydd bu digon o sôn amdano pan adeiladwyd ef gan y dyn hwnnw o Lundain, a'i adael wedyn ar ôl byw yno am flwyddyn. Yr oedd wedi bod yn wag am ddwy flynedd. Yr oedd yn well gan bobl Min Iwerydd fyw yn ymyl ei gilydd. Safai'r tŷ tua hanner milltir o'r pentref—a mynd dros y bencydd a chuddid y pentref yn llwyr oddi wrtho gan fraich y clogwyn. Nid oedd ffordd iawn i fynd iddo. Deuai'r ffordd fawr ar hyd fferm y Faenol, ac yna byddai'n rhaid croesi dau o gaeau’r fferm ac yna disgyn yn raddol am ganllath ar hyd y ffordd fach gul a wnaed pan adeiladwyd y tŷ.
Ond yr oedd yn werth y ffwdan o fynd tuag ato. Tŷ hir, isel, ydoedd, a'i ddrws yn y talcen: Yr oedd dwy ystafell fawr yn y ffrynt, a dwy lai tu ôl, a'r un fath ar y llofft. Yr oedd iddo hefyd daflod eang a ranesid yn ddwy ystafell a dwy ffenestr bigfain yn y to i'w goleuo.
Prynodd Ifan Owen y tŷ, a dywedodd wrth ei chwaer y câi hi ef am bum punt yn y flwyddyn, ac os na byddai hi a'r plant yn hoffi byw ynddo, y cadwai ef ei lygaid yn agored am dŷ arall iddynt yn yr ardal. Dywedodd hefyd mai ef a'i deulu a fyddai eu hymwelwyr cyntaf. Fe ddeuent cyn gynted ag y byddai lle'n barod iddynt. Gwyddai am eraill o Gaerdydd a garai ddyfod yno; gallai sicrhau iddynt am yr haf hwnnw ddigon o ymwelwyr a fedrai dalu'n dda am eu lle.
Ar un olwg bu ffawd yn garedicach wrth Ifan Owen nag wrth ei chwaer. Yr oedd yn llwyddiannus iawn gyda'i fusnes yng Nghaerdydd. Ond nid oedd yntau heb ei groes i'w chario. Yr oedd ganddo ddau o blant Idwal tua phymtheg oed, a Nansi yn un ar ddeg. Pan oeddynt bum mlynedd yn ieuengach torrodd tân allan yn eu tŷ yng Nghaerdydd, a bu Nansi bron â llosgi i farwolaeth. Yr oedd ôl y tân o hyd yn greithiau ar ei braich dde, a chafodd gymaint o ofn ar y pryd hyd oni chollodd ei gallu i siarad. Merch fach fud oedd o hynny allan. Medrai ei gwneud ei hun yn ddealladwy i'w thad a'i mam a'i brawd trwy arwyddion, a dysgwyd hi i siarad â'i dwylo.
**** Bu raid i Siwan a Gwyn weithio'n galed y dydd cyntaf hwnnw i helpu Mali a'u mam i roddi pethau mewn trefn yng Nghesail y Graig, ac ar ei ddiwedd yr oeddynt yn rhy flinedig i fynd lawr i'r pentref. Safodd Siwan, er hynny, yn hir wrth y ffenestr wrth fynd i'r gwely, a thybiai fod y clogwyni duon yn gwenu'n wawdus arni am na ddaeth y lleian i'r golwg. Cododd drannoeth am hanner awr wedi pedwar. Yr oedd y môr yn dawel fel llyn, ac yn llenwi'r bae fel nad oedd rhimyn o draeth i'w weld, ac nid oedd neb yn y golwg ond y gwylain, na sŵn i'w glywed ond eu cri leddf hwy.