Y Lleian Lwyd/Pennod III
← Pennod II | Y Lleian Lwyd gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod IV → |
PENNOD III
AETHANT yn gynnar y prynhawn hwnnw trwy bentref Min Iwerydd, ac i'r traeth. Yr oedd ganddynt draeth bach caregog iddynt eu hunain yn ymyl eu tŷ pan fyddai'r môr ar drai, ond yr oedd arnynt awydd ymgymysgu â phobl. Yr oedd lle prysur iawn ar y traeth y bore hwnnw. Yr oedd tymor yr haf a'r ymwelwyr ar ddechrau, ac yr oedd yn rhaid paratoi'r cychod. Yr oedd yno nifer da ohonynt, rhai yn cael eu trwsio a'u diddosi o'r tu mewn, eraill wyneb i waered ar y traeth yn derbyn cot newydd o baent. Nid oedd un yr un fath yn hollol â'r llall. Yr oedd yno bob lliwiau ohonynt—du i gyd, neu wyn i gyd, du a gwyn, glas a gwyn, coch a glas, coch a du, ac yr oedd yno un newydd ei olwg o liw glas ysgafn y môr. Un newydd oedd yn wir. "Y Deryn Glas" oedd ei enw. Clywsant rywun yn dywedyd mai cwch Fred Smith, gwas y Faenol, ydoedd. Sais oedd Fred. Gadawsai ei le fel gwas yn sydyn ar ôl tymor hau, a phrynu cwch iddo'i hun, ac ymarfer rhwyfo yn hwnnw a wnâi hwyr a bore. Bwriadai ennill arian mawr yn yr haf trwy gludo ymwelwyr a physgota.
Golchi'r tu mewn i'r cwch glas yr ydoedd pan aeth Siwan a Gwyn i'w gyfeiriad. Rhoes ei law wrth ei gap yn foesgar, a dechreuodd Siwan siarad ag ef ar unwaith. Yn Gymraeg y siaradai ar y cyntaf, ond gan na fedrai Fred siarad yn rhwydd yn yr iaith honno fe droes i'r Saesneg.
"A ych chi'n mynd yn eich cwch hyd y creigiau draw ambell waith?"
Gwridodd y bachgen dros ei wyneb i gyd, ac ymsythodd, fel petai am ofyn "Beth yw hynny i chi?" ond fe'i hadfeddiannodd ei hun a dywedodd:
"Na... dim hyd y creigiau ...y... ond
"A yw hi'n bosibl mynd mewn cwch a glanio fan draw?" gofynnai Siwan eto.
"Mae'n rhy beryglus i lanio yno, Miss," ebe Fred yn bendant. Mae creigiau o'r golwg yn y dŵr, fel na ellir mynd â chwch yn ddigon agos i lanio."
"O!" ebe Siwan yn siomedig.
"A oes ogofâu yn y creigiau yma," gofynnai Gwyn. "Yr ochr arall mae’r ogofâu," ebe Fred. "Mae dwy neu dair ohonynt, ac y mae'n ddigon hawdd mynd â chwch tuag atynt."
"Yr ochr yna rym ni'n byw," ebe Gwyn.
"Chi sy wedi dod i Gesail y Graig?"
Rhoes Gwyn nod o gadarnhad.
"Ie," ebe Siwan, "a'r clogwyni draw ym ni'n weld o'n ffenestri, ac nid y rhai sydd ar ein hochr ni. Dyna sydd wedi codi awydd arna i am fynd atynt."
Chwarddodd Gwyn yn dawel ac edrych fel petai ar fin adrodd wrth y bachgen dieithr hwn am y Lleian a welsai Siwan, ond â fflach o'i llygaid rhybuddiodd hi ef i beidio â dweud dim. Ni ddangosodd Fred iddo sylwi ar na'r chwerthin na'r fflach, ond gofynnodd ac edrych yn graff ar Siwan: "I ba fan o'r traeth draw yn gywir y carech chi fynd, Miss?"
"A welwch chi'r ochr lwyd yna i'r clogwyn—dacw don wen yn torri ar ei godre 'nawr?"
"Gwelaf."
"Wel, i fyny dipyn bach y mae man du, du ar y gwaelod am rai llathenni. Dyna'r fan!"
Syllodd Fred arno'n ddistaw am funud, ac aeth ei wyneb yn goch, goch fel o'r blaen, a phan giliodd y cochni'n raddol edrychai'n welw.
"Dyna lle mae'r creigiau," ebe ef, "a 'does yna ddim traeth."
"A fuoch chi yna, 'te?" gofynnai Gwyn.
"Wel, do, heibio iddo wrth bysgota," ebe Fred, a throdd i godi un o'r rhwyfau a oedd ar y tywod yn ei ymyl.
Sibrydodd Gwyn wrth Siwan:
"Pam na ofynni di i un o'r hen gychwyr os wyt ti am fynd?"
"Fe af i â chi, ac fe dreia i 'ngore i lanio," ebe Fred yn ddisymwth.
"O, da iawn. Fe fyddwn yn dri. 'Rwyf am i mam ddod hefyd."
"Pa bryd? Fory?"
"'Dwy i ddim yn eitha siŵr. Fe ddof yma i roi gwybod ichi," ebe Siwan.
"A gaf i wybod y noson cynt, rhag imi fod allan yn pysgota pan ddewch?" ebe Fred.
Ac addawodd Siwan.
"Dyna fachgen rhyfedd oedd hwnna," ebe Gwyn. 'Roedd e'n mynd yn goch ac yn wyn wrth siarad â ni."
"Shei oedd e," ebe Siwan.
Rwy'n siŵr bydd hi'n saffach inni fynd gydag un o'r hen gychwyr," ebe Gwyn eto.
"Na," ebe Siwan, "fe fyddai'r hen ddynion 'na'n holi gormod ac yn chwerthin am ein pennau ni. Fe fydd Fred yn fwy poleit ac ufudd."
"'Dwyt ti damaid gwell o ofyn i mam ddod. Ddaw hi ddim."
"O daw—i edrych ar ein hôl ni. Ac y mae eisiau iddi ddod am ambell jant yn lle bod yn y tŷ o hyd, er bod hwnnw ar fin y môr. Fydd dim amser i ddim pan ddaw ymwelwyr."
Wrth fynd drwy'r pentref prynasant Guide to Min Iwerydd, ac eistedd ar Lwybr y Banc i'w ddarllen. Gwelsant fod ogofâu yn y creigiau ar bob ochr i'r bae, a bod llwybrau o dan y ddaear yn mynd o rai ohonynt i fyny at y pentref.
"O, Gwyn," ebe Siwan mewn afiaith, "rhaid inni gael gweld yr ogofâu yma i gyd, a chwilio am y llwybrau. Petawn i'n byw yn amser y smyglers fe fuaswn i'n gwisgo dillad dyn a bod yn un ohonynt.
Ond ni chyffrowyd Gwyn yn anghyffredin. Ni welai ef ryw ogoniant mawr mewn bod yn smygler.
Nid oedd Mrs. Sirrell yn fodlon o gwbl pan glywodd am drefniadau Siwan gyda'r cychwr Fred Smith, a gwrthododd addo mynd ei hunan na chaniatâu i Siwan a Gwyn fynd hyd oni châi hi amser i wneud ymholiadau pellach.
Yr oedd Siwan yn siomedig. Yr oedd hi'n ddigon di-ofn i fentro i rywle ar fôr neu ar dir, a phawb a phopeth yn ei herbyn. Safodd wrth y ffenestr eto hwyr a bore, a'r ysbienddrych yn ei llaw yn barod. Ac yn y bore, am bump o'r gloch fel o'r blaen, gwelodd yn eglur y peth a welsai o'r blaen. Y tro hwn estynnai'r Lleian ei dwy fraich allan i'w chyfeiriad hi, a sefyll yn yr unfan. Gwaeddodd Siwan yn wyllt:
"Mam! Mam! Gwyn! Gwyn! Dewch! Dyma hi! Dyma'r Lleian Lwyd fel o'r blaen!"
Ni chlywodd Gwyn air. Cysgai'n rhy drwm. Rhedodd Mrs. Sirrell cyn gynted ag y gallai at y ffenestr, ond nid oedd yno ddim erbyn hynny. Diflannodd y ddrychiolaeth yn sydyn.
"Ai ataf i yn unig y mae ei neges?" meddai Siwan wrthi ei hun. "Ai crefu am ryw garedigrwydd oddi wrthyf fi a wnâi wrth estyn ei breichiau allan? Nid oes son bod neb arall wedi ei gweld. O, fe fynnaf weld pwy yw, a beth a gais.
Crynai gan gyffro a braw. Yr oedd ei mam hefyd yn dechrau meddwl bod rhywbeth yn od yn y peth. Merch ei thad oedd Siwan!
"Dere nol i'r gwely, 'merch i," ebe hi'n dyner, "a phaid â meddwl pethau rhyfedd."
"O!" ebe Siwan, mewn hanner ochenaid, a rhoi ei phen ar y gobennydd. Pa les a fyddai dadlau eto â'i mam?