Y Lleian Lwyd/Pennod IV

Pennod III Y Lleian Lwyd

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod V

PENNOD IV

O DIPYN i beth daeth trefn ar bethau yng Nghesail y Graig. Daeth gwelyau newyddion a rhai dodrefn o Gaerdydd, a daeth y lle yn gartref hardd a chlyd. Y peth a lonnodd galonnau Siwan a Gwyn yn fwy na dim oedd cael mynd i'r daflod i gysgu. Gofynasent ar y dechrau am gael mynd, a daeth pethau'n barod o'r diwedd. Dyna lwc bod yno ddwy ystafell! Mwy o lwc fyth fod yno ffenestr bigfain (dormer window) i bob un. Bellach fe gâi Siwan godi pryd y mynnai, a mynd at y ffenestr heb fod eisiau ofni deffro neb, a heb neb i edrych yn anghrediniol neu yn dosturiol arni. Gwnaeth ddefnydd da o'r ffenestr o'r noswaith gyntaf. Bu'n syllu drwyddi yng ngolau lleuad a golau haul, golau cyfnos a golau gwawr.

Gwelodd y Lleian Lwyd fwy nag unwaith, a phob tro ar yr un adeg tua phump o'r gloch y bore—bob tro yn symud yn araf yn ôl a blaen, neu yn sefyll yn yr unfan ac estyn allan ei breichiau. Rhyfeddai Siwan fwy nag erioed yn ei chylch, ond ni soniodd amdani mwy wrth ei mam nac wrth Gwyn, ac ni ofynnodd am gael mynd yn y cwch at y clogwyn. Gwyddai pan ddeuai ei hewythr a'i deulu y caffai fwy o ryddid a chyfle i wneuthur y peth a fynnai. Ond O! yr oedd yn amser hir i aros amdanynt! Beth os oedd gan y Lleian ryw neges arbennig ati hi? Beth os rhoddai i fyny ddyfod i'r golwg am nad atebai hi?

Holodd yn wyliadwrus hwn a'r llall yn y pentref ynghylch y clogwyn. A oedd llwybr at y môr o'r cyfeiriad yna? A oedd rhai i'w gweld weithiau ar y traeth bach cul?

Rhywbeth yn debyg a fyddai'r atebion bob amser. Na, ni allai neb ddod at y môr o'r cyfeiriad yna. Yr oedd y creigiau mor serth bob cam. Na, nid oedd yn ddiogel i neb gerdded ar y traeth cul. Nid oedd yno le i ddianc rhag y llanw. O, wrth gwrs, fe fu llawer o smyglo yna 'slawer dydd, ond yr oedd hynny wedi darfod.

Ar y dydd olaf o Fai y daeth y cwmni o Gaerdydd, yr ewythr a'r fodryb, ac Idwal a Nansi. Prin yr oedd Siwan a Gwyn wedi sylweddoli na allai Nansi siarad. Ni welsent neb mud o'r blaen. Safent yn fud eu hunain wrth edrych arni. Daeth dagrau i lygaid Siwan. Ni adawodd i neb weld y dagrau. Cydiodd yn llaw Nansi a'i harwain i'r tŷ o flaen y lleill, a siarad yn ddi-baid. Siaradodd ddigon dros y ddwy, a mynd â Nansi o un ystafell i'r llall, ac i'r llofft, a dangos yr olygfa drwy'r ffenestr. Gwenai Nansi arni a dweud pethau wrthi â'i llygaid, a dysgodd Siwan yn gyflym iawn yr iaith newydd honno. Bu Nansi'n hapus yng Nghesail y Graig o'r munud cyntaf hwnnw.

Wedi tê aethant i gyd ond y ddwy fam am dro drwy'r pentref ac i'r traeth. Oedd, yr oedd Y Deryn Glas yno. Dyma gyfle Siwan wedi dod.

"Nwncwl," ebe hi, "mae awydd anghyffredin ar Gwyn a mi i fynd mewn cwch hyd y clogwyn du sy fan draw. A gawn ni fynd i gyd? Yr ym ni'n dau wedi dewis cwch—Y Deryn Glas—a dacw fe!"

"Y Deryn Glas am wynfyd, aie?"

"Ie—gobeithio," ebe Siwan, ac edrych ar ei hewythr a'i llygaid yn pefrio.

"Fe gymer dipyn o amser i fynd, cofia—mae'n dair milltir o leia'. Fe fyddwn yn hwyr yn mynd adref..."

"O awn ni ddim heno," ebe Siwan ar ei draws, "ond fe ddwedwn wrth Fred heno am ein disgwyl yfory am ddau o'r gloch."

Felly y bu. Gwridodd a gwelwodd Fred fel o'r blaen wrth addo bod yn barod ar yr amser hwnnw.

"Pam 'r ych chi am fynd mor bell â'r clogwyn," gofynnai Mr. Owen.

"I weld beth sydd yna. Efallai bod yna ogof."

"Yr ochr arall ein hochr ni—y mae'r ogofeydd. Y mae yna ddwy neu dair ohonynt, le buwyd yn smyglo 'slawer dydd."

"A oes dim ogofeydd yr ochr draw?"

"Chlywais i ddim son bod un."

"Os bydd y môr ar drai, efallai y gallwn ni lanio ac edrych o gwmpas. O! 'rwy'n disgwyl fory i ddod inni gael mynd," ebe Siwan yn wyllt, a'r golau yn ei llygaid o hyd.

"Beth sy'n bod, lodes? Beth sy'n dy ddenu di i'r ochr draw?" ebe ei hewythr, ac edrych arni'n graff. "Fe wn i," gwaeddai Gwyn, a ddaethai tuag atynt yng nghwmni'r ddau arall.

"Nawr, Gwyn," rhybuddiai Siwan.

"Ha! Ha!" oedd unig ateb Gwyn wrth ddilyn y lleill i ddarganfod ychwaneg o ryfeddodau'r traeth.

Yr oedd y ddau blentyn o Gaerdydd yn eu hafiaith —Nansi cyn llonned â'i brawd, a Gwyn yn arweinydd iddynt pan gâi gyfle. Gan fod Siwan yn un ar bymtheg oed, mwy gweddus iddi hi oedd cerdded gyda'i hewythr.

Ai gwell oedd dweud y cwbl wrth ei hewythr? Byddai ei mam yn sicr o wneud hynny oni wnâi hi. Ond rhaid cadw'r peth oddi wrth Idwal a Nansi. Yr oeddynt hwy yn rhy ieuanc. Trueni bod Gwyn yn gwybod. Gwnaeth ei meddwl i fyny i ddweud ei stori ryfedd, a gofyn am help ei hewythr i ddadrys y dirgelwch.

"Wel, ni chlywais i ddim o'r fath beth erioed! Siwan Siriol, a wyt ti wedi drysu, dywed?" ebe Mr. Owen ar ôl clywed yr hanes.

"Siwan Siriol" a fu ei henw byth wedyn gan ei hewythr, a chan eraill hefyd. Ond nid edrychai'n siriol yn awr. Edrychai fel petai ar wylo wrth weld ei hewythr eto yn amau ei stori, ac nid atebodd air.

"Lleian Lwyd! Petai rhywun felly yna fe fuasai pobl y lle yma yn gwybod amdani, 'merch i. Rhyw ddyn—neu fenyw, efallai, o un o'r ffermydd neu'r bythynnod sydd yna."

"Am bump o'r gloch yn y bore—pedwar wrth yr amser iawn? A 'does yna na bwthyn na fferm yn agos! Rhyw fenyw a siôl am ei phen yn casglu coed tân, meddai mam. Rhyw ddyn yn chwilio am oen coll, meddai Gwyn. Ond gwisg lleian sydd amdani! Mae gwydrau nhad yn rhai da, ac 'rwy'n ei gweld yn eglur. A 'dyw hi ddim yn chwilio am na choed tân nac oen—dim ond cerdded yn ôl a blaen, a sefyll i edrych dros y môr; nid yno y byddai'r coed neu'r oen—ac estyn ei breichiau allan. Ie, Grey Nun yw hi, Nwncwl, a rhaid imi fynd ati i weld beth mae'n ei geisio."

Dylifai geiriau Siwan allan ac edrychai'n wyllt. Teimlai ei hewythr yn anesmwyth yn ei chylch.

"Mae gen innau bell—wydrau da. Fe edrychaf innau bore fory am bump," ebe Mr. Owen.

"O ie, gwnewch, Nwncwl. Fe fyddaf innau'n edrych ar yr un pryd."

Ond ni welodd Mr. Owen ddim er edrych ac edrych. Gwelodd Siwan y Lleian Lwyd yn cerdded ac edrych, yn penlinio ar y traeth, ac estyn allan ei breichiau. Yr oedd Siwan yn welw wrth adrodd yr hanes.

Nodiadau

golygu