Y Lleian Lwyd/Pennod V
← Pennod IV | Y Lleian Lwyd gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod VI → |
PENNOD V
Yn ystod y bore hwnnw daeth niwl tew dros y môr. Mor drwchus ydoedd fel mai prin y gellid credu bod môr yno. I breswylwyr Cesail y Graig ymddangosai fel petaent ar ben yr Wyddfa yn edrych i lawr ar y cymylau. Yr oedd y môr yn ddistawach nag arfer hefyd fel petai wedi cysgu o dan y cwrlid trwm.
Edrych arno'n ddigalon drwy'r ffenestr a wnâi'r pedwar hynaf tua deg o'r gloch pan ruthrodd Gwyn ac Idwal a Nansi i mewn yn wyllt, a'u hwynebau'n goch a gwlyb, a dywedyd mai tywydd iawn i chwarae ymguddio ydoedd. Nid oedd ond eisiau symud rhyw deirllath oddi wrth y lleill, na byddech yn llwyr o'u golwg. Yr oedd y niwl mor dew â hynny.
"Gofalwch chi, blant," ebe Mrs. Sirrell mewn cyffro, "na threiwch chi ddim o'r chwarae yna eto. Beth petaech chi'n syrthio dros y graig? Gwyn, arnat ti, cofia, mae gofal y ddau arall."
'Roeddwn i yn gofalu, mam," ebe Gwyn yn dawel. "Ar ben y banc roeddem ni, ymhell o'r dibyn.".
"Dim mynd allan eto, cofiwch, yn y niwl yma," ebe Mr. Owen.
"A fyddwn ni'n mynd yn y cwch heddiw, 'nhad?" gofynnai Idwal, a Nansi'n gofyn yr un cwestiwn â'i llygaid.
"Na fyddwn, oni chliria'r niwl, 'y mhlant i, ond mae awel fach yn codi. Efallai bydd hi'n glir erbyn hanner dydd," ebe'r tad.
"Os ym ni i fod i fynd, fe gawn fynd," ebe Siwan. "Merch dy dad wyt ti, Siwan," ebe Mr. Owen, ond pan ofynnodd Siwan iddo beth oedd yn ei feddwl, chwerthin a wnaeth, ac edrych ar ei chwaer.
"Wel, af i ddim, niwl neu beidio," ebe Mrs. Owen. 'Mae'n well gen i gael fy nhraed ar y tir. Mae'n well i ti, Nansi, aros gyda mi yn gwmni. Ond dangosodd Nansi yn ddigamsyniol mai mynd a fynnai hi. Cyn hanner dydd symudodd y niwl yn raddol, fel y golofn honno gynt, nes bod yr ochr orllewinol o'r môr yn berffaith glir tra'r oedd yr ochr ddwyreiniol o hyd yn anweledig. Ond ymhell cyn dau o'r gloch cliriodd yr ochr honno hefyd. Aeth y niwl i ben y bryniau a diflannu'n llwyr. Meddyliodd Mr. Owen ei bod yn hollol ddiogel iddynt gadw at eu cyhoeddiad.
Penderfynodd y ddwy wraig aros yn y tŷ. Addawsant ddyfod i ben y cei mewn pryd i'w gweld yn dyfod yn ôl. Aeth y plant i gyd mewn afiaith i'r traeth, a Mr. Owen gyda hwy. Yr oedd Fred Smith â'r Deryn Glas yno yn eu disgwyl, a'i baent newydd yn disgleirio yn yr haul. Prin y medrai Siwan beidio â dangos ei chyffro. Cawsai Gwyn orchymyn pendant i beidio â sôn am y Lleian Lwyd wrth y plant nac wrth neb arall.
Yr oedd amryw gychod eraill yn cychwyn allan tua'r un pryd â'r Deryn Glas. Aeth dau ohonynt heibio pen y cei ac i gyfeiriad y gorllewin, ac aeth un i'r un cyfeiriad â'r Deryn Glas a throi'n ôl ar ôl mynd tua hanner milltir. Aeth y Deryn Glas yn ei flaen yn wrol i gyfeiriad y Clogwyn Du.
Yr oeddynt wedi mynd tua hanner y ffordd neu fwy pan sylwasant fod y niwl yn dechrau ymgasglu eto. Yr oedd yr awel wedi troi, os oedd awel o gwbl. O'r dwyrain y deuai'r niwl yn awr. Yr oedd fel petai wedi bod am dro yn y wlad bell ac yn dyfod yn ôl. Cyn iddynt gael amser i ystyried pa un ai mynd ymlaen neu droi'n ôl a fyddai orau, yr oedd arnynt fel gorchudd. Prin y gwelai y rhai a oedd ar un pen i'r cwch wynebau y rhai a oedd ar y pen arall. Ofer oedd ceisio llywio'r llestr bychan. Ni wyddent i ba gyfeiriad yr aent. Ceisient aros yn yr unfan, ond yr oedd y trai yn eu gyrru allan o'u cwrs. Yr oedd hynny, bid sicr, yn well na phe gyrrid hwy ar y creigiau bychain miniog a orweddai fynychaf o'r golwg gyda godreon y clogwyni. Ond i ba le y dygid hwy? Beth os na chliriai'r niwl cyn y nos?
Rhoes Mr. Owen ei fraich yn dynn am Nansi. Eisteddai Siwan yn syth yn eu hymyl, a'i hwyneb yn welw gan fraw. Fe gâi'r tri ambell gip ar wynebau dychrynedig Gwyn ac Idwal ar y pen arall. Ymddangosai Fred Smith fel sphinx yn eu canol, a'r ddwy rwyf yn segur yn ei ddwylo. Clywsant chwiban croch a sain utgyrn o bell. Yr oedd rhywun yn ceisio tynnu eu sylw. Ond o ba gyfeiriad y deuai'r sŵn?
Wedi tri chwarter awr o ymbalfalu brawychus gwelsant ambell rwyg yn y fantell ddu. Yr oedd y niwl yn dechrau teneuo ar un ochr. Rhwyfodd Fred yn wyliadwrus at yr ochr honno. Ymhen ysbaid daethant allan ar yr ochr orllewinol i'r cei. Yr oedd yn berffaith glir yr ochr honno. O'r fan honno gwelsant ddiwch y fantell a'i cuddiasai. Gwyddent bellach o ba le y daethai'r chwiban a'r bloeddio. Yr oedd tyrfa ar y cei yn eu disgwyl, yn eu plith Mrs. Owen a Mrs. Sirrell, yn crio gan lawenydd wedi bod ychydig cyn hynny yn crio gan ofid. Ar swper y noson honno, wedi bod yn siarad am y digwyddiad rhyfedd, dywedodd Mrs. Sirrell:
"Dyna ddigon o fynd mewn cwch am dipyn, ontefe, Siwan?"
"Ie rhaid inni fod yn sicrach o'r tywydd cyn mentro ffordd yna mwy." ebe Mr. Owen.
"Roedd Fred Smith fel petai e'n falch inni gael ein dal yn y niwl." ebe Idwal. "Roedd e'n gwenu wrtho'i hun o hyd."
"Efallai mai meddwl oedd y câi e fynd â ni eto ryw ddiwrnod arall," ebe Gwyn. "Meddwl am wneud arian mae Fred."
"A oeddem ni i fod i fynd i'r niwl, Siwan?" ebe Idwal.
Ond ni chafodd ateb.