Y Lleian Lwyd/Pennod VII
← Pennod VI | Y Lleian Lwyd gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod VIII → |
PENNOD VII
TRA bu Nansi a'i mam a'i modryb yn cyd-wylo a chyd-orfoleddu yr oedd pethau rhyfedd yn digwydd yn ogof y Clogwyn Du. Pan lithrodd traed Siwan mor sydyn ar y clogwyn, fe'i cafodd ei hun yn disgyn yn gyflym ar hyd llwybr union, serth, a chyn iddi gael amser i feddwl yr oedd yn ei hyd ar lawr yr ogof. A dyna lais merch yn llenwi'r lle llefain arswydus, a'r ferch ei hun yn rhedeg fel lucheden at enau'r ogof a gweiddi: "They're after me; they're after me!" Yna i ychwanegu at ei braw, ac fel cadarnhad i'w hofnau, canfu'r eneth Mr. Owen yn disgyn ar hyd grisiau claf ei lwybr serth. Un yn dyfod trwy un pen i'r ogof, a'r llall trwy'r pen arall! Er mwyn bod yn siŵr o'i dal hi, yn ddiamau! O, druan fach! Pa beth a wnâi? Rhuthrodd fel un wallgof i ganol y tonnau dig.
Heb ddeall pa beth a ddigwyddai, ond gweld bod bywyd mewn perygl, neidiodd Mr. Owen i mewn ar ei hôl. Ysgrechiodd yr eneth yn waeth nag o'r blaen, a mynd ymhellach i'r môr garw. Gwaith caled a gafodd Mr. Owen i gael gafael arni. Sypyn gwlyb, diymadferth a gariodd ef at enau'r ogof. Yr oedd. Siwan yno mewn syndod brawychus yn ei ddisgwyl.
"O, Nwncwl, dyma beth rhyfedd! 'Dyw hi ddim wedi boddi? Pwy yw hi, ac o ba le y daeth hi i'r fan hyn? 'Rwy'n siŵr ei bod yn byw yn yr ogof. O, Nwncwl, Nwncwl! 'Rwy'n gweld yn awr! Hi yw'r Lleian Lwyd!"
Nid oedd gan Mr. Owen amser i ateb. Yr oedd yn rhy brysur yn ceisio dadebru'r eneth o'i llewyg.
Geneth tua'r un oed â Siwan ydoedd. Ffroc fach o liain glas tywyll oedd amdani, fel un a wisg morynion yn y bore. Yr oedd ei gwallt yn ddu fel y frân, a'i llygaid yn las tywyll.
Wedi rhai munudau distaw, pryderus, agorodd hi ei llygaid led y pen, a dechrau gweiddi a cheisio codi i ddianc drachefn. Rhoes Mr. Owen ei law ar ei hysgwydd i'w dal yn ôl, a dywedodd yn dyner:
"What is it, my child? We are here to help you." "You are not going to take me away?" ebe hi'n gyffrous, a hongian ar ei ateb.
"You shall not go anywhere against your will. We are here to help you."
Bodlonodd hyn y ferch. Gorweddodd yn ôl a chau ei llygaid. Edrychai wedi blino. Symudodd Mr. Owen a Siwan ychydig oddi wrthi, a siarad â'i gilydd mewn sibrwd.
"Wel, dyma helbul!" ebe Mr. Owen. "Pwy yw'r eneth yma, a beth a wna hi yma? A phwy sydd yn ei herlid? Beth a wnawn ni â hi? Ni wiw inni ei gadael yma yn y stâd y mae hi ynddo. A dweud y gwir iti, Siwan Siriol, ni bûm i erioed o'r blaen mewn cymaint o benbleth."
"Ac 'rych chithau'n wlyb dyferu, Nwncwl bach, a'r ferch yna 'run fath. 'Rwy'n mynd i weld beth sydd yn yr ogof yma."
Daeth yn ôl ymhen munud neu ddwy a dweud: "Y mae pob math o bethau yna—stôf, a llestri, a bocs pren, a rhai dillad. Efallai bod dillad ganddi hi i newid."
"Fe fyddai'n dda gen i petai ganddi ddillad i minnau," ebe Mr. Owen, a thynnu ei got a'i lledu ar graig yn yr haul.
"Tynnwch eich sgidiau a'ch sanau eto, a cherddwch wedyn yn yr haul. Gobeithio na chewch chi ddim annwyd, Nwncwl bach."
"O'r gorau, Siwan Siriol, fe wna i yn ôl dy air. Edrych yma. Rhaid i ti a finnau fynd i waelod y peth hwn, ac nid wyf am i'r lleill ddyfod ar ein traws yn awr. 'Rwy'n mynd i edrych am y bechgyn, a dweud wrthynt am fynd adref gyda'u mamau a Nansi. O, ie, ble mae Nansi? Gyda ni oedd hi, onide?" "Ie'n wir," ebe Siwan yn sobr. "Fe aeth Nansi'n llwyr o'm cof wedi imi syrthio i'r ogof."
"Syrthio i'r ogof?"
"le, ie, ond caf amser i esbonio hynny ichi eto. Mae Nansi'n siŵr o fod wedi mynd 'nôl at ei mam. Os nad yw hi yno, dywedwch wrth Gwyn am ddod yn ôl i ddweud wrthym."
"Tra byddaf i ffwrdd, cer di i siarad â'r ferch yna. Efallai y cei di wybod rhywbeth ganddi. Efallai y cei di ganddi i newid ei dillad i ddechrau. Rhaid i minnau lunio rhyw stori i'w dweud wrth y bechgyn yna.
Gwelodd Siwan fod y ferch wedi codi ar ei heistedd. Aeth ati a phenlinio yn ei hymyl.
"Rwy'n siŵr eich bod chi'n oer yn y dillad gwlyb yna. A oes gennych chi ddillad i newid?" Yn Saesneg siaradai Siwan, ond edrych o'i blaen yn syn a phrudd a wnâi'r ferch, heb ateb gair.
"'Does dim eisiau ichi ofni Nwncwl a minnau. Wyddom ni ddim amdanoch chi, ond yr ydym am eich helpu."
"Dewch i'r ogof," ebe Siwan, "fe welais i ddillad yno. Rhaid ichi newid cyn cael annwyd."
"Pam y daethoch chi ar fy ôl i? Beth ych chi am wneud â mi?"
"Rwy' wedi'ch gweld chi o'r blaen," ebe Siwan.
"Fy ngweld i o'r blaen?" ebe'r eneth, a dychryn lond ei gwedd. "Pa bryd, a pha le?"
"Fe'ch gwelais chi lawer bore yn ddiweddar am bump o'r gloch yn cerdded yn ôl a blaen ar lan y môr yma, a gwisg lwyd, hir, amdanoch, a rhywbeth llwyd am eich pen. Y Grey Nun oeddech i mi. A welwch chi simneiau tŷ fan draw yng nghysgod y creigiau? Dyna lle'r wyf i'n byw. 'Rwy wedi bod yn siarad â chi dros y môr, ac yn dychmygu eich bod chi'n siarad â mi ac yn gofyn am fy help. Dyna pam y daethom ni yma heddiw. Fi a wnaeth i Nwncwl ddod, er mwyn gweld pwy oedd y Lleian Lwyd. Yr oeddwn i'n siŵr bod yma rywun ac eisiau fy help arni. Fe wn yn awr fy mod yn iawn. A wnewch chi ddweud eich stori wrthyf i? A ddywedwch chi eich enw i ddechrau?"
"Rita," ebe'r ferch.
"Siwan yw fy enw innau—Siwan Sirrell."
"Yr own i mor unig," ebe Rita, a dagrau lond ei llygaid glas, "ac yr own i'n meddwl ei bod yn ddiogel imi fynd allan yn y bore bach pan na byddai cwch ar y môr. Yr own i'n mynd yn y dydd allan drwy'r top, ac eistedd neu orwedd yng nghysgod llwyn eithin. Nid oedd neb yn agos. Ni welodd neb fi hyd heddiw, a minnau yma ers pum wythnos, ac yr oeddwn i'n mynd yn fwy diofal bob dydd, a 'nawr beth ddywed...." a chrynodd Rita drwyddi gan annwyd neu gan ofn.
"Fe af i newid fy nillad," ebe hi, cyn gorffen ei brawddeg. Cododd ar ei thraed; edrychodd i fyw llygaid Siwan, a dywedodd:
'Rwy'n eich credu chi. Mae gen i ffydd ynoch chi. Fe fedraf ddweud fy stori wrthych. O! y mae'n rhaid imi ei dweud wrth rywun. Y mae'n rhaid imi gael rhyw help. 'Rwy' wedi blino. 'Rwy bron â mynd yn wallgof. Fe ddof yn ôl atoch ymhen pum munud."
Aeth Siwan gam neu ddau ar hyd y traeth cul i edrych a welai ei hewythr yn dyfod yn ôl. Fe'i gwelodd ar ben un o'r creigiau yn siarad â'r ddau fachgen. Pan droes yn ei hôl fe welodd gwch bach unig draw ar wyneb y môr aflonydd. Sut nas gwelsai o'r blaen? Edrychai fel petai'n anelu at yr ogof. Daeth yn nes. Y Deryn Glas ydoedd! Y Deryn Glas, a dim ond Fred ynddo, yn ymladd yn galed er mwyn cadw ei lestr bychan ar wyneb y môr cynddeiriog.