Y Pennaf Peth/Ffyddlon i'w Air

Doethineb Raja Janik Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Y Cariad sy'n Cymell


Ffyddlon i'w Air

CYFOETH, heb gyfiawnder," medd un o ddoetheiriau yr India, diwerth ydyw." Yr oedd unwaith frenin uchel (Raja) na thorrai byth mo'i air. Er ceisio cefnogi ei ddeiliaid i fasnachu, addawodd y byddai iddo ef brynu beth bynnag a fyddai'n weddill heb ei werthu yn y farchnad ar ddiwedd y dydd, pa mor werthfawr neu ddiwerth bynnag a fyddai. Un diwrnod, er mwyn rhoddi prawf ar y brenin, dygodd Brahmin ddelw o'r dduwies A-Lakshmi i'r farchnad. (Lakshmi ydyw enw duwies cyfoeth neu ffawd dda; seinir yr enw Loki; o'r gair hwn y tardd y Saesneg luck. Ystyr A-Lakshmi ydyw "heb gyfoeth," neu "ffawd ddrwg"). Y dduwies hon sy'n dwyn aflwydd i ran dynion, ac oherwydd hynny ni phrynai neb ei delw. Ond rhoddasai y brenin ei air y prynai ef beth bynnag oedd yn aros heb ei werthu. Er mwyn bod yn ffyddlon i'w air, prynodd hi, ac aeth â hi i'w balas. Ar unwaith dechreuodd y duwiau a'r duwiesau eraill fyned allan, o un i un. Daeth Tlodi i mewn, ac Afiechyd; bu farw meibion a merched y brenin; ymadawodd Heddwch hefyd, a thorrodd rhyfel allan yn y deyrnas. Yn olaf oll, gwelodd y brenin fod duw Cyfiawnder yn hwylio i adael y palas. Ymaflodd y brenin ynddo, ac ni oddefai iddo symud. "Ni chei di fynd oddi yma," meddai, "oherwydd er dy fwyn di yn unig, duw Cyfiawnder a Gwirionedd, yr wyf fi yn gorfod dioddef yr holl bethau hyn." Felly trodd y duw yn ôl. Cyn hir dechreuodd y duwiau eraill ddyfod yn ôl hefyd, ac ymgrymasant gyda'i gilydd gerbron y brenin gan ganu ag unllais: "Lle byddo Cyfiawnder, yno y daw Buddugoliaeth yn y diwedd." Trwy ei ffyddlondeb i'w air sicrhaodd y brenin lwyddiant bythol i'w deyrnas.

Nodiadau golygu