Y Pennaf Peth/Y Cariad sy'n Cymell

Ffyddlon i'w Air Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Mil o Filltiroedd i'r Ysgol


Y Cariad sy'n Cymell

AETH heliwr yn Affrica allan un noson i geisio dal rhyw anifail yn ymborth iddo ef a'i deulu. Tybiodd glywed sŵn ewig (deer) yn y drysni; ac yn y llwyd-olau gwelodd rywbeth yn symud. Taniodd ei ddryll, ac er ei fraw gwelodd ei fod wedi saethu dyn.

Ni wyddai beth i'w wneud. Meddyliodd ar y cyntaf am ffoi; yna meddyliodd am adael y dyn yn y goedwig, a gadael i'w deulu feddwl ei fod wedi ei ladd a'i fwyta gan fwystfil rheibus. Ond yn y diwedd penderfynodd fyned i'r pentref ac adrodd i'r pennaeth am y ddamwain. Bu cynnwrf mawr yn y pentref,-rhai am ei gosbi a'i ladd, eraill am ei ollwng yn rhydd. O'r diwedd ei ollwng yn rhydd a wnaed.

Ychydig amser ar ôl hyn yr oedd y dyn yn y goedwig yn hela drachefn. Yn sydyn daeth wyneb yn wyneb â llewpard. Taniodd, ond ni lwyddodd i wneud rhagor na'i glwyfo. Neidiodd y creadur cynddeiriog ato; trawodd yntau ef â'i wn â'i holl nerth. Torrodd

Y Taj Mahal, India

Rhai o Benaethiaid Lushai

y gwn yn ddau ddarn. Nid oedd ganddo yn awr ond ei ddwylo noeth i ymladd â'r llewpard. Clwyfwyd a rhwygwyd ef yn enbyd.

Yn ffodus digwyddodd helwyr eraill glywed ei gri, a phrysurasant ato. Gorweddai'r dyn yn anymwybodol, a'r llewpard yn farw wrth ei ochr. Gwnaethant stretcher o ganghennau’r coed, a chludasant ef i'r pentref. Yno ceisiodd y cenhadwr ei ymgeleddu; ond yr oedd ei glwyfau mor fawr ac mor lluosog fel na feddai ar ddigon o lint a bandages a chyffyriau i'w trin yn briodol. Yr oedd yr orsaf genhadol agosaf gan milltir o ffordd oddi yno. Os oedd bywyd y dyn i'w achub, rhaid oedd i rywun gychwyn tuag yno y foment honno i geisio'r feddyginiaeth angenrheidiol. Gofynnodd y cenhadwr a wnai rhywun gynnig myned. Wedi moment o ddistawrwydd, dywedodd un gŵr ieuanc, yr hwn oedd Gristion, yn dawel, "Mi af fi, Bwana (Athro)."

Cychwynnodd ar unwaith. Can milltir yno, a chan milltir yn ôl-nid oedd un math o ffyrdd yn y wlad; rhaid oedd myned trwy leoedd anial, trwy goedwigoedd lle llechai pob rhyw fath o fwystfilod peryglus, a thros afonydd a chorsydd, a thrwy bentrefi llwythau dieithr a drwgdybus, na wyddai ef air o'u hiaith. Ond ymlaen yr aeth, heb orffwys a heb ymborth. Cymerodd iddo saith niwrnod a saith noson o deithio caled, ac yna, er llawenydd i bawb, cyrhaeddodd i'w bentref yn ôl.

Wedi trin archollion y claf, aeth y cenhadwr at y bachgen gan ddatgan ei edmygedd o'i ysbryd gwrol: "Hoffwn," ebe'r cenhadwr, "gyflwyno rhodd iti am dy waith." Cynhyrfodd y gŵr ieuanc drwyddo. "Na! na! athro," meddai yn gadarn; "ni chymeraf ddim gennych chwi na neb arall." "Wel, beth a'th gymhellodd i wneud cymaint dros ddyn nad ydyw yn un o dy deulu?" Ar ôl peth distawrwydd atebodd y bachgen: "Athro, y dyn yna saethodd ac a laddodd fy mrawd. Chwi wyddoch nad ydyw yn Gristion, a meddyliais, pe gwnawn i hyn drosto, y gallwn, efallai, ei ennill ef at Iesu Grist."

Nodiadau golygu