Y Pennaf Peth/Mil o Filltiroedd i'r Ysgol

Y Cariad sy'n Cymell Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Duw sy'n Bopeth i Bawb


Mil o Filltiroedd i'r Ysgol

EDRYDD un o genhadon Cymdeithas Eglwys Loegr hanes bachgen a deithiodd yn agos i fil o filltiroedd,-yn fanwl, naw cant a phedwar ugain milltir, er mwyn cael addysg. Ei enw ydyw Heruye Radda. Bachgen o wlad Abysinia ydoedd, rhyw bymtheg neu un ar bymtheg oed.

Mewn tref gant a thrigain milltir o'i gartref cyfarfu â bachgen a fynychai ysgol genhadol yn perthyn i Genhadaeth o Sweden. Perswadiodd y bachgen hwn ef i ddyfod gydag ef i'r ysgol. Yno dysgodd lawer mwy am Dduw nag a ddysgasid iddo yn hen gerfydd lygredig ei wlad,-crefydd sy'n gymysg o Iddewiaeth, Mahometaniaeth a phaganiaeth. Soniai yn y tŷ lle lletyai am yr hyn a ddysgai yn yr ysgol; digiodd gŵr y tŷ gymaint fel y cadwodd ef un tro yn rhwym mewn cadwynau haearn trymion am bum niwrnod ar hugain. Ond yr oedd syched ar Heruye am wybodaeth, ac yr oedd yn benderfynol o ddysgu, gan nad faint a fyddai raid iddo ddioddef.

Un diwrnod digwyddodd cenhadwr o Kenya, gwlad fawr arall yn nwyrain Affrica, fod ar daith drwy Abysinia, ac aeth Heruye i'w wrando yn siarad. Dechreuodd feddwl mor ddymunol a fyddai cael byw mewn gwlad lle'r oedd dynion fel y cenhadwr hwn wrth law o hyd i ddysgu a goleuo. Cododd awydd ynddo am fyned i Kenya, ac ni chai lonydd yn ei feddwl nos na dydd. Yr oedd eisoes gant a thrigain milltir o'i gartref, ac yr oedd terfyn agosaf gwlad Kenya bedwar cant ac ugain o filltiroedd o'r fan lle'r oedd. Penderfynodd, fodd bynnag, fyned yno, costied a gostio.

Perswadiodd bedwar o fechgyn eraill i fyned gydag ef. Cychwynasant eu pump i'w taith faith. Nid oedd ganddynt ond ychydig geiniogau tuag at brynu ymborth ar y daith. Yr oedd gan un ohonynt hefyd gopi o Efengyl Ioan; heblaw hynny, ni feddent ddim ond y dillad y safent ynddynt. Ymhen ychydig ddyddiau digalonnodd tri o'r bechgyn, a throesant yn ôl; ond penderfynodd Heruye a'i gydymaith ddal ymlaen.

Cymerodd iddynt chwe mis cyfan i gerdded y pedwar cant ac ugain o filltiroedd i derfyn agosaf gwlad Kenya. Gorweddai eu llwybr gan mwyaf drwy anialwch, ac yr oeddynt mewn peryglon beunydd,—peryglon oddi wrth ddynion gwylltion a bwystfilod gwylltion. Gwelsant ar eu ffordd gyrff dynion a gwympasant neu a laddesid. O'r diwedd, yn lluddedig iawn, cyraeddasant orsaf y Llywodraeth Brydeinig ar derfynau Kenya. Ond ni feddent ar drwydded (passport), ac ni fedrai'r swyddog, gan hynny, ganiatáu iddynt fyned ymlaen. Arosasant yn y lle hwn dri mis. Gwyddai cydymaith Heruye ychydig Saesneg, a chafodd waith fel clerc; ond trawyd Heruye yn wael, a bu am wythnosau yn yr Ysbyty. Penderfynodd ei gyfaill aros lle'r ydoedd, ond rhoddodd, yn garedig iawn, ran o'i enillion i Heruye i'w helpu i orffen ei daith. Teithiodd Heruye o orsaf y Llywodraeth i orsaf agosaf y rheilffordd—pellter o 120 milltir—mewn motor lorry, ac yna aeth ymlaen i Nairobi, 180 milltir arall, gyda'r trên.

Nid oedd yn adnabod neb yn Nairobi, ac ni ddeallai ddim o iaith y wlad. Rhoddasai swyddog y Llywodraeth lythyr iddo at swyddog yn Nairobi, a chyflwynodd yntau ef i sylw un o genhadon Eglwys Loegr. Er ei syndod pwy a ddigwyddodd y cenhadwr hwnnw fod ond y gŵr a glywsai yn pregethu yn ei wlad ei hun, yn Abysinia draw. Adroddodd ei hanes, a gwnaed trefniadau iddo fyned i'r ysgol. Dysgodd iaith Nairobi, y Swahili, yn gyflym. Dywed y cenhadwr amdano ei fod "yn un o'r bechgyn mwyaf dymunol a boneddigaidd a welodd erioed," ac mai ei ddymuniad pennaf yn awr ydyw "dysgu gymaint ag a all yn yr ysgol a dychwelyd yn genhadwr at ei bobl ei hun yn Abysinia."

Nodiadau golygu