Y Pennaf Peth/Stori Aisha

Y Ddawn Anhraethol Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Doethineb Raja Janik


Stori Aisha

RHYWBRYD tua dechrau'r flwyddyn ddiwethaf safai geneth bymtheg oed yng ngorsaf fawr a phrysur y rheilffordd yn Lawr, India. Yr oedd golwg ddychrynedig a thrallodus iawn arni. Newydd gyrraedd yno gyda'r trên yr ydoedd,-ei siwrnai gyntaf mewn trên. Ffoisai o'i phentref bychan ei hun i'r ddinas fawr. Wedi cyrraedd yno yr oedd popeth mor newydd, mor ddieithr, mor wahanol i ddim a welsai hi o'r blaen, fel yr oedd ofn a dychryn bron wedi ei gyrru yn wallgof.

Gwelodd drên arall yn dod i mewn, a rhuthrodd i mewn i hwnnw, i ganol cerbyd hir oedd eisoes yn llawn. Edrychai pawb o'r teithwyr ar yr eneth garpiog, ofnus, a geisiai ymguddio mewn rhyw gongl. Yn y man wele ferch Indiaidd dal, olygus, oedd yn amlwg yn rhywun allan o'r cyffredin, yn codi ac yn myned ati, gan siarad yn garedig â hi. Edrychai'r teithwyr yn syn. "Pam yr ydych chwi, sy'n ferch o'r caste uchaf, yn siarad â geneth dlawd fel yna, o caste isel?" Atebodd hithau, "Cristion wyf fi," -fel pe buasai hynny yn egluro popeth.

Cyn hir cafodd gan yr eneth adrodd ei hanes: "Ffoi yr ydwyf," meddai, "o dŷ fy ewythr. Y mae yn gamblo, ac wedi rhedeg i ddyled, ac yn awr y mae am fy mhriodi i â dyn y mae arno dri chant o Rupees iddo, rhag iddo orfod talu yr arian. Penderfynais ffoi neithiwr; ond ni wn i ba le i fynd. Clywais chwi yn dweud eich bod yn Gristion; mae arnaf innau eisiau bod yn Gristion hefyd."

Meddyges ieuanc Indiaidd oedd y ferch a siaradai â hi, ar ei ffordd i fyned i ofalu am Ysbyty cenhadol newydd yng nghanolbarth India. Synnodd y feddyges ei chlywed yn dweud bod arni awydd bod yn Gristion. "Beth wyddoch chwi am fod yn Gristion?" gofynnodd, ac atebodd y ffoadures fach, Aisha wrth ei henw: "Ni wn lawer. Maethion ydwyf fi, ond y mae gennyf chwaer sy'n Gristion." Ac aeth ymlaen gyda'i stori:

"Pan oeddym yn blant bychan, aethom i chwarae ger glan yr afon. Nid oedd fy chwaer ond baban yr adeg honno. Gadewais hi ei hun am funud neu ddau, a phan ddeuthum yn ôl nid oedd dim golwg ohoni. Cawsom wedyn mai lleidr oedd wedi ei chario hi ymaith, er mwyn yr ychydig jewels oedd ganddi am ei gwddf ac ar ei breichiau. Yna rhaid ei fod wedi ei gadael yn y goedwig. Daeth rhywun o hyd iddi, a chan na wyddai neb pa le yr oedd ei chartref, cymerodd cenhades ei gofal. Cyn hir iawn, clywodd fy modryb pa le yr oedd, a chan fod yn dda ganddi gael ymadael â hi, gadawodd hi yno. Bydd fy chwaer yn ysgrifennu ataf, ac yn dweud wrthyf y pethau y mae yn eu dysgu, a bydd arnaf finnau awydd bod yn Gristion hefyd."

Aed ag Aisha i Ysgol yn Akbarpur, yn yr United Provinces, ac ar nos Nadolig bedyddiwyd hi yn enw yr Arglwydd Iesu Grist. Ei dymuniad ydyw dyfod yn athrawes i ddysgu ei chwiorydd tlodion yn yr India am yr Hwn â ddangosodd y fath drugaredd iddi, ac a roddodd gymaint llawenydd yn ei bywyd.

Nodiadau golygu