Y Pennaf Peth/Y Ddawn Anhraethol

Y Flwyddyn Newydd yn China a Japan Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Stori Aisha


"Y Ddawn Anhraethol"

EISTEDDAI John yn ei wely mewn Ysbyty i'r Gwahangleifion yn India. Yr oedd wedi plygu un goes nes pwysai ei wyneb ar ei ben glin. Nid oedd dim o'r goes arall yn aros ond y bôn: torrasid hi ymaith er arbed ei fywyd. Yr un modd ei fysedd; bu rhaid torri rhai ohonynt i ffwrdd. Ar y gwely o'i flaen yr oedd copy book, a cheisiai yntau â'r bysedd oedd yn aros ddysgu ysgrifennu llythrennau y wyddor Hindi. Ond yr hyn a dynnai sylw pawb oedd ei wyneb. Ni welwyd erioed wyneb hapusach; yr oedd llawenydd a natur dda yn pelydru allan ohono fel heulwen haf.

"John," meddai'r meddyg amdano, "ydyw’r cenhadwr gorau dros Grist sydd yn yr Ysbyty yma." Ac aeth ymlaen i ddweud gair o'i hanes:

"Anfonwyd ef yma o'r Cartref yn Ellich-pur oherwydd bod rhaid torri ei goes i ffwrdd. Digwyddodd fod yma y Nadolig, a rhoesom gadach gwddf bychan prydferth iddo, un o amryw roddion tebyg a anfonasid inni gan gyfeillion gartref. Yna meddyliodd ei gyfeillion yn Ellichpur amdano, ac anfonasant hwythau rodd Nadolig iddo. Yr oedd wrth ei fodd, ac wrth fynd heibio ei wely dywedais wrtho mor ffodus ydoedd o gael dwy rodd ar ddydd Nadolig. Goleuodd ei wyneb wrth fy ateb:

"Ie, Doctor Sahib, y mae'r rhain yn wir yn rhoddion da, ac yr wyf yn llawen iawn. Ond y mae'r rhodd fwyaf oddi mewn, yn y fan yma (gan osod ei law ar ei galon)—mae Iesu Grist yn fy nghalon."

Cerddodd y meddyg ymlaen at wely arall, ac meddai: "John bach arweiniodd y dyn yma at yr Iesu. Yr oedd cyflwr John yn llawer gwaeth na'r eiddo ef, a methai'r dyn a deall sut yr oedd un mor ddrwg ei gyflwr yn medru bod mor siriol. Ond deallodd cyn hir: 'yr Iesu oddi mewn' oedd esboniad y dirgelwch."

Nodiadau golygu