Y Pennaf Peth/Swynion Mahometanaidd

Yr Apostol a'r Lleidr Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris


Swynion Mahometanaidd

YM mhob gwlad Fahometanaidd gwneir defnydd helaeth o swynion (charms) i amddiffyn y "ffyddloniaid" rhag dylanwad y llygad mall (the evil eye), a ofnir gymaint. Gwisgir swynion hefyd fel moddion i wella afiechyd a phoen; gwelir hwy wedi eu rhwymo ar y fraich neu'r goes, neu rhyw ran arall o'r corff. Cred y Mahometan yn gryf yn effeithiolrwydd magical cures, a rhoddwn yma ychydig enghreifftiau o'r math ar swynion a arferir ganddynt.

Edrych y Mahometan ar bopeth ysgrifenedig gyda pharch, ac o bydd enw Duw neu adnod o'r Koran (y Beibl Mahometanaidd) yn ysgrifenedig neu'n argraffedig ar ddarn o bapur, golygir ef yn beth cysegredig. Nid yw llawer o'r swynion amgen darnau o bapurau gydag adnodau o'r Koran yn ysgrifenedig arnynt. Rhennir y Koran yn benodau (Suras). Credir bod Sura 77, "Y Rhai Anfonedig," o'i hysgrifennu ar ddarn o bapur a'i gwisgo ar y corff, yn feddyginiaeth anffaeledig i blorynod a chornwydydd (pimples and boils). I dorri newyn neu i liniaru syched, ysgrifenner Sura 26, 78-90, ac adrodder y geiriau un ar hugain o weithiau. Yn amddiffyn i wraig ar enedigaeth plentyn, ysgrifenner Sura 21, adnodau 91-93; gwisger y swyn am ddeugain niwrnod; yna, wedi geni'r plentyn, rhwymer y swyn ar ei gorff ef, a bydd yn amddiffyn iddo.

I wella rhai mathau o afiechyd, yn arbennig doluriau ar y croen, cymerer darn o edafedd, a rhodder tri chwlwm arno, gan adrodd bob tro y gwneir cwlwm, adnod 31 o Sura 14: "Tebyg yw gair drwg i bren drwg, a dorrir uwchben y ddaear ac nid oes iddo le i aros." Yna rhodder yr edafedd ar y claf, a chilia ei anhwyldeb yn fuan. Mewn achos o dwymyn (fever), cymerer edafedd llin, ac adrodder uwch ei phen Sura 94. Ceir y llythyren kaf naw gwaith yn y bennod hon. Pan ddeuer at y llythyren kaf, rhodder cwlwm ar yr edafedd. Yna, os rhwyma'r claf yr edafedd am ei arddwrn chwith, gan roi naw cwlwm arni, iach fydd. I ddistewi plentyn a fyddo'n llefain, rhaid ysgrifennu pennod lled helaeth, ynghydag adnodau eraill, dair gwaith drosodd,-pob llythyren ym mhob gair i fod yn hollol ar wahan ac nid yn rhedeg i'w gilydd. Rhwymer yr ysgrifen wrth gorff y plentyn, a distawa yn ebrwydd.

Ceir rhai swynion ar ffurf "ysgwar," ac wedi eu gwneud i fyny o rifnodau, neu weithiau o lythrennau yn cyfateb i'r ffigurau. Wele enghraifft o'r math yma ar swyn:

4 9 2 d t b
3 5 7 neu j h z
8 1 6 h a w

Sylwer, pa fodd bynnag y bydd i'r ffigurau hyn gael eu hadio at ei gilydd ar draws, neu i lawr, neu i fyny, neu o gongl i gongl-bydd eu cyfanswm yn 15. Cyfrifir hwn yn swyn effeithiol iawn ar adeg genedigaeth. Ceir yn yr ysgwar nesaf enghraifft o'r hyn a elwir yn "ysgwar berffaith,"—pedwar ffigur ym mhob cyfeiriad:

11 14 1 8
5 4 15 10
16 9 6 3
2 7 12 13


Gwelir bod y ffigurau hyn, pa ffordd bynnag y bydd inni eu hadio, yn gwneud cyfanswm 0 34-ar draws, i fyny neu i lawr, neu o gongl i gongl. Rhwymer y swyn hwn wrth gorff dyn yn dioddef o dan y frech wen, a diflanna’r haint yn ebrwydd.

Credir bod adrodd rhai geiriau cysegredig yn effeithiol i iacháu anhwylderau neilltuol. Os adroddir y Bismullah (sef y geiriau a geir uwchben rhai o'r Suras: "Yn enw Duw, y Tosturiol, y Trugarog") ni wna un gwenwyn marwol niwed i ddyn. Gelwir nifer o adnodau’r Koran yn "adnodau amddiffyn a noddfa," ac y maent yn effeithiol i iacháu cant o wahanol afiechydon. Dylid aros ar ddiwedd pob adnod a adroddir a gofyn, "Sut yr wyt ti, O afiechyd?" I wella'r ddannodd adrodder y llythrennau sydd o flaen rhai o'r Suras: "ALMS KHY'S HM'SK," a'r adnodau a ganlyn: "Nid oes Dduw one Efe, Arglwydd yr Orsedd gadarn: Bydd lonydd, O boen, yn enw yr Hwn a ddichon, os mynn, ddistewi y gwyntoedd fel y gorweddant yn llonydd ar gefn y môr: Efe yw'r Hwn sy'n clywed ac yn gwybod." Ffordd gyffredin arall o wella afiechyd ydyw ysgrifennu geiriau cysegredig ar fwrdd neu lech neu femrwn, ac yna eu golchi i ffwrdd, ac yfed y dŵr. Bydd rhinwedd y geiriau wedi myned i mewn i'r dŵr.

Gellir defnyddio geiriau cysegredig i ddrygu gelynion, yn gystal ag i iacháu cyfeillion. Os ysgrifennir Sura 30, gan roi'r ysgrifo fewn i gostrel, a'i chuddio oddi mewn i dŷ gelyn, bydd teulu'r gelyn i gyd yn sicr o glafychu. Ysgrifenner Sura 11, adnod 84, ynghydag enw y gelyn y dymunir dial arno, a rhodder yr ysgrif mewn crochan,-pan ddechrau'r dŵr ferwi, dechrau'r gelyn ddioddef.

Gwir na cheir pob Mahometan heddiw yn credu yng ngwerth a gallu'r swynion hyn; gwna'r dosbarth mwyaf goleuedig wawd ohonynt. Edrydd un o'r dosbarth hwn hanes gŵr a honnai bod ganddo swyn anffaeledig i wella'r ddannodd, ond gofalai ddweud wrth bawb a'i prynai y collai'r swyn ei effaith os meddyliai'r dioddefydd am fwnci cyn mynd i'w wely. Yn naturiol iawn, ni fedrai’r dioddefydd beidio â meddwl am fwnci wedi cael y rhybudd. Ceir y lliaws mawr, modd bynnag, mewn gwledydd Mahometanaidd, â ffydd ddiysgog ganddynt yn y pethau hyn, ac megis y bu yng Nghymru gynt, a phob gwlad arall, nid oes ond goleuni'r Efengyl a ymlid ymaith eu hofergoeledd.

Nodiadau golygu