Y Pennaf Peth/Yr Apostol a'r Lleidr

Toddi'r Galon Galed Y Pennaf Peth

gan John Hughes Morris

Swynion Mahometanaidd


Yr Apostol a'r Lleidr

EDRYDD y Deon Farrar yn ei gyfrol "The Pupils of St. John," hanes a geir gan ysgrifennwr bore am yr Apostol Ioan yn ei hen ddyddiau. Arferai'r Apostol, a chwmni o'r credinwyr, gyfarfod yn nhŷ Tewdwr (Theodore), a deuai'r saint ynghyd i wrando gydag eiddgarwch mawr, o enau'r disgybl yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ei atgofion am ei Arglwydd. Ceid yn y cwmni bobl o bob gradd a sefyllfa,—cyfoethog a thlawd, dysgedig ac annysgedig, caeth a rhydd, Iddew a chenedl-ddyn.

Sylwasai'r Apostol yn arbennig ar un gŵr ieuanc a wrandawai gydag astudrwydd mawr. Hoffodd ef, ac wedi ymddiddan ag ef, rhoddodd ef yng ngofal yr Esgob i'w baratoi ar gyfer ei fedyddio. "Gadawaf y trysor hwn yn dy ofal," meddai wrth yr Esgob, pan ymadawai â'r ddinas.

Am beth amser aeth popeth ymlaen yn foddhaol. Dilynai'r gŵr ieuanc gynulliadau’r saint yn gyson; ac yna, yn raddol, dechreuodd gilio'n ôl. Profodd gwawd ei gyfeillion yn fwy nag a fedrai ei ddal. Cyn hir collwyd golwg arno yn llwyr, ond cafwyd sicrwydd yn y man ei fod wedi ymuno â chwmni o ladron a deithient y wlad, ac mai ef oedd eu harweinydd.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ac Ioan bellach mewn oedran mawr iawn, ymwelodd drachefn â thŷ Tewdwr, a chyfarfu yno â'r Esgob. "Pa le mae'r trysor a adewais yn dy ofal?" gofynnodd yn ddioed. Anghofiasai'r Esgob bopeth amdano, a bu ennyd heb ddeall beth a olygai'r Apostol. Yna atebodd: "Mae'n ddrwg gennyf: collasom ef."

"Pa beth? a ydyw wedi marw?"

"Na, gwaeth na hynny; ef heddiw ydyw arweinydd cwmni o ladron, y mae eu harswyd trwy'r wlad."

"Pa le y dof o hyd iddo?" gofynnodd Ioan. Rhoddodd orchymyn i gyfrwyo ei farch. "Af ato ar fy union," meddai.

Protestiodd yr Esgob yn erbyn y fath fwriad: "Maent yn sicr o dy ladd," meddai.

Atebodd yr hen ddisgybl yn dawel: "Bu fy Arglwydd farw er fy mwyn i, ac oni ddylwn innau fod yn fodlon i farw er mwyn y dyn hwn?"

Ni bu ei genhadaeth yn ofer. Y Saboth dilynol, eisteddai'r Apostol ac arweinydd y cwmni lladron, ochr yn ochr â'i gilydd, wrth y Bwrdd, ar doriad y bara.

Nodiadau golygu